Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Aberdaugleddau >

ABERDAUGLEDDAU

CYFEIRNOD GRID: SM 904063
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 492

Cefndir Hanesyddol
Ardal drefol yw hon. Hyd yn ddiweddar lleolid yr ardal hon yn bennaf o fewn plwyfi Steynton a Hubberston. Ymestynnai dros faenor ganoloesol Pill, rhan o faenor fwy o faint Pill a Roch a grëwyd rhwng 1100 a 1130. Roedd ei pherthynas ag Arglwyddiaeth Hwlffordd, y’i lleolid y tu mewn iddi, bob amser yn destun dadl. Roedd Pill yn faenor fawr a phwysig, a chwmpasai dref fodern Aberdaugleddau. Sefydlwyd y Priordy Tironaidd yn Pill, ym mhen Hubberston Pill (term lleol yw pill ar gyfer mornant lanwol), gan arglwydd Pill a Roch ar ddiwedd y 12eg ganrif. Roedd eglwys Hubberston a chyn-gapel y Santes Catrin, islaw tref fodern Aberdaugleddau, yn ddibyniaethau. Pan ddiddymwyd y mynachlogydd daeth yr ardal, a’r priordy, i feddiant teulu Barlow o Slebets, ac arhosodd yn eu meddiant tan 1758 pan briododd Catherine Barlow â Syr William Hamilton, sylfaenydd ‘tref berchenogol’ Aberdaugleddau ym 1790. Dengys ffynonellau dogfennol cyn y dyddiad hwn yn glir fod cynnydd mewn gweithgarwch economaidd yn nyfrffordd Aberdaugleddau ac o’i hamgylch o’r 16eg ganrif. Roedd pwysigrwydd milwrol strategol dyfrffordd Aberdaugleddau wedi’i gydnabod mor gynnar â 1538 pan argymhellodd Thomas Cromwell y dylid adeiladu ceyrydd i’w hamddiffyn. Ymwelai llongau’r llynges yn aml â dyfroedd cysgodol Aberdaugleddau, fel y tystia darlun gan J R Attwood dyddiedig 1776 yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru sy’n dangos llynges Prydain wrth angor yn Hubberston Road. Roedd y ffaith nad oedd unrhyw anheddiad mawr i gyflenwi nid yn unig y llongau hyn o eiddo’r llynges ond hefyd llongau a fasnachai ar hyd yr arfordir a thros bellter mawr yn destun pryder mawr erbyn canol y 18fed ganrif. Roedd y tollty agosaf ym Mhenfro ac nid oedd na phierau, na cheiau na gwestai yn agos at angorfeydd dwr dwfn. Roedd y ffaith nad oedd unrhyw westai yn broblem arbennig i’r teithwyr a ddefnyddiai wasanaeth y llong bost a redai yn rheolaidd rhwng Hubberston a Waterford yn Iwerddon. Hyd at ddiwedd y 18fed ganrif roedd Hubberston yn bentref a ddibynnai ar bysgota yn ôl pob tebyg fel ei brif weithgaredd economaidd. Datblygodd aneddiadau llai o amgylch cilfachau cysgodol eraill, megis Castle Pill a Neyland Pill. O ystyried y lefel hon o weithgarwch llyngesol ac economaidd nid yw’n syndod mawr bod William Hamilton, o 1764, yn llunio cynlluniau datblygu. Ym 1790 rhoddodd Deddf Seneddol ganiatâd iddo: ‘wneud a darparu Ceiau, Dociau, Pierau ac adeiladau eraill a sefydlu Marchnad â Ffyrdd a Rhodfeydd priodol’. Ym 1796, gosododd Bwrdd y Llynges iard longau gerllaw mynedfa Hubberston Pill; adeiladwyd saith llong yma cyn iddi gael ei hadleoli i Ddoc Penfro. Parhawyd i ddefnyddio dwy gaer fach a adeiladwyd i amddiffyn yr iardiau llongau tan flynyddoedd cynnar y 19eg ganrif. Mae’n debyg mai Jean Louise Barrallier, y dyn a oedd yn gyfrifol am y rhaglen adeiladu llongau, a gynlluniodd batrwm grid tref Aberdaugleddau. Ym 1792, perswadiwyd cymuned fach o bysgotwyr morfilod o Nantucket i ymsefydlu yn y dref newydd, ac am gyfnod byr, nes i bris olew morfilod gwyn syrthio ym 1819, gweithredai diwydiant hela morfilod llwyddiannus. Nid oes unrhyw dystiolaeth o’r iardiau llongau na’r diwydiant hela morfilod wedi goroesi. Cynigiwyd nifer o gynlluniau ar gyfer adeiladu ceiau, pierau a dociau pob tywydd yn ystod hanner cyntaf y 19eg ganrif, ond ni wnaed unrhyw beth. Arweiniodd y penderfyniad i drosglwyddo gwasanaeth y llong bost draw i Iwerddon o Aberdaugleddau i Hobbs Point ar yr ochr arall i’r ddyfrffordd at ddirwasgiad yn y dref a oedd eisoes mewn trafferthion. Ac ychwanegwyd at drafferthion y dref pan adeiladwyd rheilffordd i Neyland ym 1856, er i linell gangen gael ei hagor i Aberdaugleddau ym 1863. Er mwyn ceisio gwneud rhywbeth i adfywio’r dref arweiniodd Mesur Gwella Aberdaugleddau at adeiladu pier a dwy bont bren: sef Black Bridge a Hakin Bridge, y codwyd strwythurau modern erbyn hyn yn eu lle. Gweithredai iardiau adeiladu llongau bach yn Hubberston Pill ac ar safle’r dociau llyngesol cynharach o ganol i ddiwedd y 19eg ganrif, ac adeiladwyd 13 o longau rhwng 1867-74. Ym 1872, agorwyd pier Newton Noyes a adeiladwyd o haearn bwrw, ac a oedd wedi’i chysylltu gan reilffordd. Ym 1934, caffaelodd y Morlys y pier fel rhan o’i ddepo ffrwydron yn Blackbridge. Yn olaf, ar ôl llawer o ymdrechion aflwyddiannus, agorwyd Dociau Aberdaugleddau ym 1888, gan gynnwys cyfleusterau dociau sych yn Castle Pill. Bwriedid i’r dociau wasanaethu teithwyr yn teithio dros gefnfor Iwerydd, ond dim ond un llong deithio a alwodd yno erioed, ac roedd yn rhy fawr i ddefnyddio’r dociau. Yn lle hynny datblygodd fflyd lwyddiannus o gychod pysgota. Newidiwyd siediau a gynlluniwyd ar gyfer y fasnach drawsiwerydd yn farchnad bysgod ym 1890, ac fe’u hymestynnwyd yn y 1930au. Adeiladwyd ffatrïoedd iâ ym 1890 a 1901. Adeiladwyd cei a marchnad ar gyfer mecryll ar ddechrau’r 1900au. Mae pob un o’r strwythurau hyn wedi mynd erbyn hyn. Erbyn 1922 roedd pum ty cochi penwaig yn y dociau ac o’u hamgylch. Mae un o’r rhain wedi goroesi. Goroesodd y diwydiant pysgota yr Ail Ryfel Byd, ond dirywiodd yn enbyd ar ddiwedd y 1950au. Erbyn hyn nid oes unrhyw gychod pysgota sy’n eiddo i bobl leol yn gweithio allan o Aberdaugleddau. Dymchwelwyd y mwyafrif o’r hen adeiladau a safai ar y cei a newidiwyd y dociau yn farina. Yn ystod y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif cyfrannai’r twf yn y boblogaeth a gyd-âi a’r lefel uwch o weithgarwch economaidd at dai a datblygiadau eraill yn ymledu at draws yr hyn a fu’n gaeau a ffermydd ar gyrion y dref. Er enghraifft dengys mapiau o ddechrau’r 19eg ganrif batrwm rheolaidd o gaeau i’r dwyrain o Hubberston Pill a ‘Town of Hakin’ oedd yr enw a roddwyd ar yr anheddiad bach yn Hubberston. Ceir patrymau tebyg o dai a datblygiadau seilwaith i’r gogledd ac i’r dwyrain o ganol y dref. I’r dwyrain o Castle Pill ni chafwyd fawr ddim datblygiadau, ar wahân i’r depo ffrwydron anferth yn Blackbridge, tan ddiwedd yr 20fed ganrif pan adeiladwyd tai ar yr hyn a fu gynt yn barcdir yn Castle Hall.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Saif tref Aberdaugleddau ar lan ogleddol dyfrffordd Aberdaugleddau. Lleolir craidd hanesyddol y dref, sy’n dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif ac sy’n seiliedig ar batrwm grid, rhwng Hubberston Pill a Castle Pill ac i mewn i’r tir am ddim mwy na 500m. Fodd bynnag, ehangodd y dref yn ystod ail hanner yr 20fed ganrif ac erbyn hyn mae’n cynnwys aneddiadau hyn Priory (Priordy Pill), Hubberston a Steynton. Mae’r olaf wedi’i ganoli ar eglwys ganoloesol, ond collwyd cymeriad pentrefol yr anheddiad erbyn hyn o dan ddatblygiadau tai helaeth. Yn Hubberston mae casgliad llac o dai yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif (gan gynnwys tai Sioraidd) ac adeiladau a cheiau a glanfeydd masnachol yn tystio i bwysigrwydd yr anheddiad cyn sefydlu tref Aberdaugleddau. Mae i Priory, lle y ceir olion yr eglwys Dironaidd, tafarn a bythynnod a adeiladwyd o gerrig yn y 19eg ganrif, awyrgylch pentref gwledig o hyd er ei fod gerllaw’r dref. Cerrig, sydd fel arfer wedi’u rendro â sment, a llechi ar gyfer y toeau a ddefnyddiwyd yn bennaf ar gyfer yr adeiladau hyn. Mae’r rhain yn cynnwys eiddo trillawr domestig a masnachol, yn yr arddull Sioraidd yn bennaf, wedi’u gosod ar hyd ochr ogleddol y craidd hanesyddol trwy’r dref ac yn edrych dros yr harbwr a’r ddyfrffordd. Mae tai eraill yn y craidd hanesyddol yn dyddio o’r 19eg ganrif yn llai o faint ac fel arfer mae iddynt ddau lawr. Ailadeiladwyd canol masnachol traddodiadol y dref ar raddfa fawr yn ystod y cyfnod o ganol i ddiwedd yr 20fed ganrif, er ei bod yn cadw’r patrwm grid cynharach. Ato ychwanegwyd cyfadail siopa wedi’i adeiladu dros Hubberston Pill a fewnlenwyd, yn agos at yr orsaf reilffordd. Strwythur trawiadol y Torch Theatre, adeilad yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif, yw’r elfen amlycaf ym mhen gorllewinol y dref. Newidiwyd rhan fawr o’r dociau yn farina. Dymchwelwyd llawer o’r adeiladau yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif a oedd yn gysylltiedig â’r dociau gwreiddiol, er bod rhai wedi goroesi yn arbennig yn y pen gorllewinol, sydd wedi cadw ei swyddogaeth fasnachol. Mewn un o’r adeiladau hyn hyn ceir amgueddfa a lleolir cyfleusterau eraill i ymwelwyr o fewn y dociau. Ceir tai mwy diweddar o ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif – tai teras wedi’u hadeiladu o gerrig yn bennaf – a datblygiadau eraill i’r gogledd o graidd y dref. Mae ystadau tai o ddiwedd yr 20fed ganrif i’r gorllewin yn Hakin yn elfennau amlwg o’r dirwedd. Law yn llaw â’r twf a fu yn y boblogaeth yn yr 20fed ganrif cafwyd datblygiadau seilwaith megis ysgolion, canolfan hamdden ac ystadau diwydiannol. Dim ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf y mae datblygiadau tai wedi gorlifo dros dir ffermio ar yr ochr ddwyreiniol i Castle Pill. Yn y fan hon newidiwyd rhai o adeiladau mwy o faint depo ffrwydron Blackbridge sydd ar gau bellach i’w defnyddio at ddibenion hamdden. Mae gan Aberdaugleddau 122 o adeiladau rhestredig. Mae’r eiddo domestig a masnachol a ddisgrifiwyd uchod yn cyfrif am y mwyafrif o’r rhain, ond maent hefyd yn cynnwys Fort Hubbeston, strwythur anferth yn dyddio o ganol y 19eg ganrif a mân olion diwydiannol megis odynau calch. Yn agos at Fort Hubbeston y mae pencadlys a glanfa Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau.

Mae Aberdaugleddau yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol ac iddi ffiniau pendant ac mae’n wahanol i’r tir ffermio cyfagos.

Ffynonellau: Ludlow 2002; Map Degwm Hubberston 1840; Map Degwm Stainton 1843; McKay d.d.; Rees 1957; PRO D/RKL/1194/13: PRO D/RKL/1194/9

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]