|
NEYLAND
CYFEIRNOD GRID: SM 964056
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 181
Cefndir Hanesyddol
Lleolir yr ardal hon ar lan ogleddol dyfrffordd Aberdaugleddau ac mae’n
cynnwys tref fach Neyland yn bennaf. Rhennir yr ardal rhwng plwyfi Burton,
a Llanstadwell. Lleolir eglwys plwyf Llanstadwell, y cyfeiriwyd ati yn
y 12fed ganrif ac a sefydlwyd o bosibl yn gynharach na hynny, ar gwr gorllewinol
yr ardal ar lan y ddyfrffordd. Nid oes unrhyw anheddiad hanesyddol cofnodedig
o amgylch yr eglwys yn Llanstadwell. Fodd bynnag, mae’n debyg i
anheddiad bach ddatblygu yn Burton Ferry, yng nghwr dwyreiniol yr ardal
hon, ar ddiwedd y cyfnod canoloesol i wasanaethu’r fferi a groesai
i’r de o’r ddyfrffordd. Ni chymerodd pont le’r fferi
hon ar draws Aberdaugleddau tan 1975. Lleolid Burton Ferry ar ran ar wahân
o Arglwyddiaeth Penfro. Fodd bynnag, lleolid y rhan fwyaf o’r ardal
gymeriad hon o fewn maenor ganoloesol Honeyborough. Cynhwysai Maenor Honeyborough
ffi un marchog a ddelid yn uniongyrchol o Ieirll Penfro fel eu cyfran
o Arglwyddiaeth Hwlffordd, a 2½ gweddgyfair a ddelid o Farwniaeth
Castell Gwalchmai ‘trwy wrogaeth’. Fferm Great Honeyborough
yw’r canolbwynt maenoraidd. Tua 1600 rhannwyd y faenor rhwng teuluoedd
Perrot, Bowen a Scourfield, a olynwyd gan deuluoedd Bateman a Tasker.
Ar ôl 1810 fe’i delid gan denantiaid a’i ffermiai. Nid
yw Neyland ei hun yn hen iawn. Cynhwysodd George Owen ‘Nailand’
yn ei restr o gilfachau ym 1596, ond nid oedd unrhyw anheddiad yr adeg
honno. Saif y dref bresennol ar draws pentref a chaeau Great Honeyborough
gynt (‘Townred Honeyboro’ ar fapiau yn dyddio o’r 18fed
ganrif). Cymuned gwbl amaethyddol ydoedd a chanddi system maes agored
neu system o lain-gaeau a oedd yn dal i weithredu yn y 18fed ganrif, er
y dengys mapiau o’r ystad o 1759 a 1773 fod rhai o’r lleiniau
yn dechrau cael eu hamgáu gan wrychoedd.
Rhwng 1751 a 1782 roedd Neyland wedi datblygu’n un o’r porthladdoedd
penwaig mwyaf yng Nghymru, a thua 1760 dewisodd y Morlys y safle i adeiladu
ei longau yno. Adeiladwyd dwy long mewn iardiau a oedd yn eiddo preifat:
sef y Prince of Wales ym 1760 a’r Triumph ym 1784. Y bwriad yn wreiddiol
oedd adeiladu dwy gaer i amddiffyn yr iardiau hyn, ond dim ond caer ynnau
fach ar lan y dwr a adeiladwyd, ac ar ôl gwario £20,000 ar
y prosiect tynnodd y llywodraeth ei chefnogaeth yn ôl. Parhaodd
y dociau i gael eu defnyddio i adeiladu llongau preifat, ac agorwyd rhagor
o ddociau yn ddiweddarach yn ystod y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif.
Yn y 19eg ganrif adeiladwyd dwy long bob degawd ar gyfartaledd yn Neyland.
Lleolid rhai cyfleusterau porthladd yma hefyd; roedd gwaith puro halen
ar waith ym 1797 a dywedir bod siwgr a gwlân yn cael eu mewnforio
ym 1811. Dengys mapiau o’r ystad o ddiwedd y 18fed ganrif fod datblygiadau’n
dal i fod ar raddfa fach, ac nid oedd ond dyrnaid o dai ac adeiladau eraill
ar lannau dwyreiniol a gorllewinol Barnwell Pill. Wedi i derminws GWR
agor yn Neyland ym 1856 wele’r dref yn dechrau datblygu o ddifrif.
Ysgubwyd hen gyfleusterau ymaith a chynyddodd y boblogaeth yn gyflym.
Ymestynnwyd pier sefydlog a adeiladwyd ar gyfer gwasanaeth fferi i Iwerddon
ym 1857 pan ychwanegwyd ail gwch. Adeiladwyd llwyfannau gwartheg, gweithfeydd
nwy a gwesty hefyd. Cyfyngwyd ar y gwaith o ddatblygu’r porthladd
gan wrthwynebiadau gan y Morlys a ofnai y byddai rhagor o bierau a gweithfeydd
eraill yn ymyrryd â llongau yn cael eu lansio o Ddoc Penfro. O ganlyniad
i’r gwasanaeth fferi i Iwerddon yn cael ei drosglwyddo i Abergwaun
ail-greodd Neyland ei hun yn borthladd pysgota: agorwyd ffatri iâ
a marchnad bysgod ym 1908. Erbyn y 1920au roedd y diwydiant hwn wedi dirywio
ac roedd Neyland yn troi’n lle marwaidd; proses a gyflymwyd pan
gaeodd y rheilffordd ym 1964 a’r gwasanaeth fferi i Hobbs Point
ym 1975, er bod agor marina yn Barnwell Pill ac ystad ddiwydiannol ar
gwr gogleddol y dref wedi darparu cyflogaeth. Ehangodd tref Neyland wrth
i ddiwydiant dyfu, yn gyntaf gyda datblygiadau tai yn agos at ymyl y traeth
ar y naill ochr a’r llall i Barnwell Pill, ac yn yr 20fed ganrif
pan adeiladwyd ysgolion, anheddau a datblygiadau eraill ar y llethrau
sy’n graddol ddisgyn i’r gogledd o ddyfrffordd Aberdaugleddau.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Ardal tirwedd hanesyddol drefol yw Neyland. Mae rhannau hynaf yr ardal
hon yn cynnwys Great Honeyborough ac aneddiadau ar hyd glan dyfrffordd
Aberdaugleddau yn Hazelbeach, Llanstadwell, Neyland a Burton Ferry. Cynhwysir
hefyd eglwys ganoloesol Sant Tudwal yn Llanstadwell a’r ty Sioraidd
gerllaw. Mae’r anheddiad ar hyd y lan yn un unionlin ac at ei gilydd
mae’n cynnwys tai yn dyddio o ganol y 19eg ganrif a diwedd yr 20fed
ganrif. Prif elfen yr ardal hon yw Neyland ei hun. Ei chanolbwynt yw’r
hen derminws rheilffordd a’r dociau. Mae’r ddau ohonynt wedi
cau ac nid oes fawr ddim wedi goroesi i nodi lle’r terminws gynt
am fod ystad ddiwydiannol fach wedi’i hadeiladu drosto. Newidiwyd
Barnwell Pill yn farina ac yn edrych drosto mae tai modern a adeiladwyd
ar gwrs yr hen reilffordd. Mae rhannau o’r hen geiau a gweddillion
caer ynnau ar lan y dwr yn dyddio o’r 18fed ganrif wedi goroesi.
Mae adeiladau yn agos at y cei a’r ddyfrffordd yn dyddio o ganol
y 19eg ganrif. I fyny’r allt o’r cei a’r ddyfrffordd,
mae Neyland wedi datblygu’n organig, ac nid oes unrhyw olion amlwg
o waith cynllunio. Tai teras deulawr sy’n nodweddu’r prif
fath o dai o’r 19eg ganrif. Fel arfer mae’r tai teras hyn
wedi’u rendro â sment, maent wedi’u hadeiladu o gerrig
yn ôl pob tebyg, ac mae ganddynt doeau llechi. Ar gyrion Neyland
ceir tai o ddiwedd yr 20fed ganrif mewn amrywiaeth o arddulliau. Yn wir
mae datblygiadau modern wedi amgylchynu cyn-bentref amaethyddol Great
Honeyborough gan ei gysylltu â Neyland i ffurfio un anheddiad. Fodd
bynnag, cadwyd morffoleg y pentref yn Great Honeyborough ac mae adeiladau,
gan gynnwys bythynnod a thai yn yr arddull brodorol o’r 19eg ganrif
a thy o’r 18fed ganrif sydd â simnai anferth, wedi goroesi.
Ceir datblygiadau tai modern ar gyrion yr aneddiadau ar hyd y ddyfrffordd.
Sefydlwyd eiddo diwydiannol ysgafn a masnachol modern ar gwr Neyland,
yn arbennig yn agos at y briffordd fodern i Bont Cleddau neu arni. Nid
yw archeoleg yn elfen gref o’r ardal hon.
Mae Neyland yn ardal tirwedd hanesyddol nodedig ac mae’n wahanol
i’r ardaloedd cyfagos o ffermydd gwasgarog a chaeau.
Ffynonellau: Jones 1996; LlGC PICTON CASTLE CYF 1; LlGC ADNAU MORGAN
RICHARDSON Rhif 1; Map Degwm Trydydd Rhan Llanstadwell; Mason 1986; McKay
d.d.; Owen 1897; Owen 1911; Owen 1918; Peters 1905; Rees 1957
|