Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Aberdaugleddau >

PURFA OLEW ESSO

CYFEIRNOD GRID: SM 873062
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 212

Cefndir Hanesyddol
Ar wahân i weddillion South Hook Fort, nodweddir yr ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon gan weddillion datgymaledig purfa olew. Cyn adeiladu’r burfa tirwedd amaethyddol ydoedd yn bennaf. Fe’i lleolir o fewn plwyf, a chyn drefgordd, Herbrandston. Roedd y rhan hon o’r plwyf yn aelod o faenor ganoloesol Pill a Roch, ac yng nghanol y 13eg ganrif, rhoddwyd ‘dau weddgyfair o dir a phopeth sy’n perthyn a elwir yn South Hook yn naliad trefgordd Herbrandston’, gan yr arglwydd John de Roche, i Briordy Tironaidd yn Pill gerllaw. Pan ddiddymwyd y mynachlogydd syrthiodd yr ardal i ddwylo preifat. Daeth ystad Gelliswick, yn y dwyrain, sy’n dyddio o bosibl o’r cyfnod ôl-Ganoloesol, i feddiant teulu Barret tua 1550 ac fe’i trosglwyddwyd, yn y 18fed ganrif, i deulu Philippse o Gastell Pictwn. Dengys mapiau o’r ystad o’r ddeunawfed ganrif dirwedd o gaeau rheolaidd eithaf mawr – gyda’r caeau yn eiddo i fferm South Hook (a symudwyd pan oedd y burfa yn cael ei hadeiladu) a Gelliswick. Ni newidiodd y dirwedd fawr ddim trwy gydol y 19eg ganrif a hanner cyntaf yr 20fed ganrif heblaw am y ffaith i gaer South Hook Fort gael ei hadeiladu. Adeiladwyd y gaer rhwng 1859 a 1865 fel rhan o gynllun amddiffynnol ar gyfer dyfrffordd Aberdaugleddau. Cynhwysai 20 o ynnau mewn magnelfeydd agored a oedd wedi’u hamddiffyn gan wrthgloddiau. Ailadeiladwyd un fagnelfa ym 1898 i gynnwys gynnau newydd. Gadawyd y gaer yn y 1930au ac fe’i gwerthwyd ym 1936, ond fe’i defnyddiwyd am gyfnod byr gan y Llynges Frenhinol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Dechreuwyd adeiladu’r burfa ym 1957, ac fe’i hagorwyd ym 1960. Mae ar gau bellach ac fe’i datgymalwyd.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae’r ardal hon yn ymestyn dros dir tonnog isel tua 50m uwchlaw lefel y môr. Ceir clogwyni glan môr i’r gorllewin ac i’r de. Dyma safle purfa olew a ddatgymalwyd nad oes dim byd ohoni ar ôl i’w weld ond ffensys allanol, ychydig o adeiladau atodol, glanfa a chloddiau sy’n nodi safleoedd tanciau storio olew a gweithfeydd eraill. Lleolir caer South Hook, adeilad amddiffynnol yn dyddio o’r 19eg ganrif, ac iddi fagnelfa fawr yn dyddio o’r 19eg ganrif, o fewn yr ardal hon. Roedd adeiladau’r gaer wedi’u defnyddio i gynnwys rhan o’r burfa, ond mae’r fagnelfa wedi goroesi bron yn ddigyfnewid.

Mae i’r ardal hon ffiniau pendant, ac yn ffinio â hi ceir naill ai ben clogwyn, tir ffermio neu gwrs golff.

Ffynonellau: Jones, 1996; Ludlow 2002; LlGC CASG R.K LUCAS CYF. 2; LlGC PICTON CASTLE CYF 1; Map Degwm Plwyf Herbrandston, 1839; Map Degwm Plwyf Hubberston, 1840; McKay 1993; Owen 1897; Pritchard 1907; PRO D/RTM/6/21