PURFA OLEW AMOCO
CYFEIRNOD GRID: SM 883084
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 163
Cefndir Hanesyddol
Ar wahân i nifer o gaeau a leolir y tu mewn i’r ffens allanol,
mae’r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon yn cynnwys purfa olew.
Fe’i lleolir o fewn plwyfi Herbrandston a Robeston West. Gellir
cysylltu’r mwyafrif o’r ffermydd a’r daliadau presennol
â maenorau canoloesol. Bu’r maenorau hyn yn destun proses
gymhleth o rannu ac is-enffeodaeth ar ôl i Iarllaeth Penfro gael
ei rhannu i fyny ym 1247. Lleolid rhan ogleddol yr ardal o fewn Maenor
ganoloesol Robeston, a oedd yn aelod o Arglwyddiaeth Hwlffordd nas sefydlwyd
yn ôl pob tebyg tan y 14eg ganrif. Cynhwysai Trericert, sy’n
ymestyn i mewn i ran orllewinol yr ardal, ¼ ffi marchog ac fe’i
delid yn uniongyrchol o Ieirll Penfro fel eu cyfran o’r arglwyddiaeth.
Cynrychiolai hanner deheuol yr ardal gyfran Barwniaeth Castell Gwalchmai
o Herbrandston, a gynhwysai 2 ¾ gweddgyfair a ddelid o’r
farwniaeth ‘trwy wrogaeth’. Fodd bynnag, nid ymddangosai fod
y gwahanol berchenogaethau yn cael eu hadlewyrchu mewn unrhyw drefniadau
deiliadol gwahanol, ac mai patrwm amgáu unffurf oedd y canlyniad.
Cyn adeiladu’r burfa tirwedd amaethyddol o gaeau rheolaidd oedd
yn yr ardal. Yn ôl mapiau hwyr o’r ystad ni newidiodd y caeau
hyn fawr ddim rhwng diwedd y 18fed ganrif a’r adeg yr adeiladwyd
y burfa. Dechreuwyd adeiladu’r burfa ym 1971 ac fe’i hagorwyd
ym 1973.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Dim ond purfa olew a’i seilwaith, megis ffyrdd mynediad a rheilffordd
fynediad, a geir yn yr ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon. Mae i’r
ardal hon ffiniau pendant iawn ac mae’n dra gwahanol i’r tir
ffermio oddi amgylch.
Ffynonellau: Map Degwm Plwyf Herbrandston 1839; McKay 1993; Owen 1911;
PRO D/RKL/1191/1; PRO D/RKL/1194/2; PRO D/RKL/1194/6; PRO D/RKL/1194/9
|