|
PENRHYN Y SANTES ANN
CYFEIRNOD GRID: SM 810044
ARDAL MEWN HECTARAU: 438
Cefndir Hanesyddol
Mae’r ardal hon i gyd ym mhlwyf Dale, sydd fwy neu lai’n gydamserol
â Maenor ganoloesol Dale. Ffurfiodd hyn arglwyddiaeth mesne israddol
barwniaeth Castell Walwyn, a aseswyd am ffi un marchog, â chapwt,
mae’n debyg, yn nghyffiniau’r pentref presennol. Roedd y faenor,
erbyn o leiaf y 13eg ganrif wedi ei chaffael gan linach de Vale ac ym
1307 ‘Roedd etifeddion Robert de Vale yn dal un ffi marchog yn Dale
yn cynnwys 10 gweddgyfair’. Ymddengys mai Robert de Vale a adleolodd
Castell Dale, capwt y faenor, o Great Castle Head, caer bentir a ailddefnyddiwyd
mewn ardal gymeriad gyfagos i’r gorllewin o bentref Dale. Bu farw
Robert de Vale tua 1300 a rhannwyd maenor Dale rhwng ei ferched fel cydetifeddion.
Gwnaeth ei ffordd i ddwylo’r teulu Walter o Rosemarket a pharhaodd
y teulu hwnnw yn ddeiliad ar Dale tan ddiwedd y 17eg ganrif pan aeth i
feddiant teulu Paynters o Broomhill ac yna i deulu Allen o Gelliswick,
ac yna i deulu Lloyd-Philipps sy’n parhau i fod yn berchen ar Gastell
Dale heddiw. Erbyn adeg yr arolwg degwm yng nghanol y 19eg ganrif, roedd
y tirwedd amaethyddol yr ydym yn ei gweld heddiw wedi’i hen sefydlu.
Mae’n debygol y bu’r ardal hon yn wreiddiol yn rhan o system
caeau agored Dale (gellir parhau i olrhain llain-gaeau amgaeëdig
i’r gogledd o’r pentref), a oedd wedi’i hamgáu
a’i throi’n dirddeiliadaethau cywasgedig a ffermydd a sefydlwyd
yn y 16eg ganrif a’r 17eg ganrif. Er efallai fod rhai ffermydd wedi
cael eu sefydlu lawer cyn hynny, fel yr awgryma cofnod o Snailston ym
1376, roedd anheddiad wedi cael ei sefydlu ar y safle hwn erbyn y dyddiad
hwn. Daeth rhai ffermydd yn dirddeiliadaethau sylweddol, megis Broomhill,
a arferai fod yn gartref i’r teulu Paynter ers 1599. Codwyd dwy
felin wynt olynol yng nghanol yr ardal hon yn ystod y 18fed ganrif, ond
fe’u disodlwyd gan y strwythur presennol i’r gogledd o bentref
Dale yn gynnar yn y 19eg ganrif. Glaniodd Henry Tudur (Henry VII) yn nyfrffordd
Aberdaugleddau ym 1485, ar ei ffordd i Faes Bosworth, ac yn ôl y
chwedl roedd wedi mynnu gweld capel yn cael ei adeiladu ar Benrhyn y Santes
Ann er mwyn coffáu’r digwyddiad. Disgrifia George Owen gapel
adfeiledig yma ddiwedd y 16eg ganrif ac mae’n bosibl bod y capel
hefyd wedi gweithredu fel goleudy. Yn sicr, Penrhyn y Santes Ann yw safle
goleudy hynaf Cymru, gyda golau wedi’i gofnodi yma yn 1662. Dros
y tair canrif ddiwethaf, mae sawl goleudy ac adeiladau cysylltiedig wedi’u
codi yno. Mae golau sy’n gweithio yn parhau yma. Fodd bynnag, ar
wahân i fwyngloddio, a pheth cloddio am fwyn copr, parhaodd yr economi’n
amaethyddol gan fwyaf tan y 19eg ganrif. Yn dilyn yr arolwg degwm, adeiladwyd
dwy gaer helaeth yn yr ardal hon, Caer Dale ym 1853-57 a Chaer West Blockhouse
ym 1854-57, fel rhan o system amddiffynnol anferthol ar gyfer Aberdaugleddau.
Adeiladwyd Caer West Blockhouse dros weddillion twr gynnau o’r 16eg
ganrif, un o bâr a adeiladwyd i ddiogelu ceg yr harbwr. Mae East
Blockouse wedi goroesi yn Angle ar y lan sydd gyferbyn. Dechreuwyd canrif
o adeiladu milwrol yma wrth i gaerau’r 19eg ganrif gael eu hadeiladu,
gan gynnwys magnelfeydd gynnau arfordirol yn West Blockhouse a adeiladwyd
ym 1901-04, magnelfeydd gwrthawyrennau o’r Ail Ryfel Byd a magnelfeydd
chwilolau a gwersyll hyfforddi llyngesol Kete. Maent oll yn segur bellach.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Penrhyn y Santes Ann yn cynnwys
penrhyn digysgod sy’n ymestyn i’r de i geg dyfrffordd Aberdaugleddau.
Clogwyni arfordirol uchel sy’n gwasanaethu fel ffiniau lle mae’r
penrhyn yn cyfarfod â’r môr, ac i gyfeiriad y tir i’r
gogledd, mae’n ffinio â phentref Dale. Mae’n llwyfandir
sy’n gorwedd rhwng 60m a 70m bron yn gyfan gwbl wedi’i neilltuo
ar gyfer amaethyddiaeth, gyda thir pori a thir âr yn bresennol.
Nid oes llawer o dir garw na thir heb ei ddefnyddio’n bresennol.
Ar wahân i glystyrau bach o goed collddail ar ochrau dyffrynnoedd
cysgodol bach, mae’n dirwedd sydd bron yn gyfan gwbl heb goed. Mae
patrwm y caeau yn un o gaeau rheolaidd eu siâp, o faint canolig
wedi’u ffinio â chloddiau. Ar adegau, mae’r cloddiau
hyn yn anferth. Maent wedi’u gorchuddio â gwrychoedd, sydd
o ganlyniad i’w lleoliad agored, yn gymharol isel a’r gwynt
yn effeithio arnynt. Mae ffermydd yr ardal yn amrywio o ran maint. Mae
rhai’n cynnwys casgliadau mawr iawn o adeiladau allan dur ac asbestos
sy’n nodweddion amlwg o’r dirwedd. Yn gyffredinol, mae adeiladau
fferm hyn wedi’u gwneud o gerrig, yn y 19eg ganrif ac o un res neu
ddwy yn unig. Mae ffermdai gan fwyaf yn dyddio o ddiwedd y 18eg ganrif
neu’r 19eg ganrif, yn ddeulawr, wedi’u hadeiladu o gerrig
ac wedi’u rendro â sment, â thoeau llechi, ac wedi’u
codi naill ai yn y traddodiad brodorol neu yn y traddodiad boneddigaidd.
Fodd bynnag, mae’n debyg bod simne anferthol yn Broomhill sy’n
rhestredig â gradd II yn dyddio o’r 17eg ganrif. Mae rhai
anheddiadau’n dyddio o ganol y 19eg ganrif. Mae dwy elfen bwysig
arall o ran y dirwedd yn bresennol yn yr ardal hon. Mae’r cyntaf
yn cynnwys safleoedd milwrol o’r 19eg ganrif a’r 20fed ganrif.
Mae Caer Dale sy’n rhestredig â gradd II a Chaer West Blockhouse
sy’n rhestredig â gradd II* yn dyddio o ganol y 19eg ganrif,
ac maent yn gaerweithiau anferth o garreg. Mae’r ddwy wedi’u
cynnal yn dda, gyda Chaer Dale yn ganolfan astudiaethau maes a West Blockhouse
wedi’i haddasu’n llety gwyliau. Saif magnelfa ynnau anferth
yn dyddio o ddechrau’r 20fed ganrif nas gadawyd yn wag nes y 1950au,
yn agos i West Blockhouse. Hefyd, ceir magnelfeydd gynnau a magnelfeydd
chwiloleuadau o’r Ail Ryfel Byd yn yr ardal. Yn ystod yr Ail Ryfel
Byd, sefydlwyd ysgol hyfforddi llyngesol yn Kete. Ar wahân i ambell
adeilad a ddefnyddir at ddibenion amaethyddol erbyn hyn, mae hwn wedi’i
ddymchwel a’r tir wedi dychwelyd i fyd amaeth, er mai ffensys o
wifren yn hytrach na chloddiau sy’n rhannu’r ardal. Mae’r
ail elfen dirwedd hanesyddol yn cynnwys goleudai, gorsaf gwylwyr y glannau
a thai cysylltiol oll wedi’u lleoli ar Benrhyn y Santes Ann ei hun,
o fewn ardal glostir o garreg mortar. Mae’r rhain yn dyddio o’r
19eg ganrif a’r 20fed ganrif. Yn West Blockhouse, mae marcwyr llywio
o’r 20fed ganrif yn elfennau amlwg o’r dirwedd. Ar wahân
i strwythurau sy’n gysylltiedig â’r 19eg ganrif a’r
20fed ganrif, mae safleoedd milwrol a gweddillion archeolegol yn brin,
ac yn gyffredinol, maent yn cynnwys gwasgariadau fflint cynhanesyddol,
ond ceir tair odyn galch sy’n rhestredig â gradd II. Eithriad
o bwys yw cloddwaith caer cynhanesyddol Dale Point, sy’n rhannol
wedi’i orchuddio gan Gaer Dale bellach.
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Penrhyn y Santes Ann yn nodweddiadol
ac wedi’i diffinio’n dda. Saif mewn gwrthgyferbyniad cryf
â’r clogwyni arfordirol sy’n ei hamgylchynu bron i gyd,
a gellir gweld y gwahaniaeth rhyngddi â phentref Dale a’i
gaeau i’r gogledd yn amlwg.
Ffynonellau: Calendr Rhôl Siarter 2; Charles 1992, map degwm Plwyf
Dale 1847; Dresser, 1959; Hague 1994; Charles 1992; Jones 1999; Ludlow,
yn Crane sydd i’w gyhoeddi; Nash 1986; Owen 1911; Owen 1918; Ramsey
a Williams 1992
|