Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Aberdaugleddau >

DALE

CYFEIRNOD GRID: SM 806063
ARDAL MEWN HECTARAU: 102

Cefndir Hanesyddol
Mae’r ardal hon yn cynnwys pentref Dale, a nifer o gaeau a ffermydd i’r gogledd. Fe’i lleolir yn gyfan gwbl ym mhlwyf Dale, sydd fwy neu lai’n gydamserol â Maenor ganoloesol Dale. Ffurfiodd hyn arglwyddiaeth mesne israddol barwniaeth Castell Walwyn, a aseswyd am ffi un marchog, â chapwt, mae’n debyg, yn nghyffiniau’r pentref presennol. Roedd y faenor, erbyn o leiaf y 13eg ganrif wedi ei chaffael gan linach de Vale ac ym 1307 ‘Roedd etifeddion Robert de Vale yn dal un ffi marchog yn Dale yn cynnwys 10 gweddgyfair’. Ym 1293, cafodd Robert de Vale yr hawl i gynnal marchnad wythnosol a ffair dridiau flynyddol yn Dale. Gallai’r dyddiad hwn hefyd ymwneud â’r ffaith i’r castell yn Great Castle Head, caer bentir a ailddefnyddiwyd i’r dwyrain o’r ardal hon, gael ei adael yn wag a sefydliad anheddiad ar safle presennol Castell Dale. Roedd y castell ac eglwys y plwyf, a sefydlwyd erbyn 1291, ar un adeg yn ffurfio cnewyllyn anheddiad ym mhen gorllewinol y pentref presennol. Ni cheir fawr o dystiolaeth dopograffaidd bellach am yr anheddiad canoloesol. Bu farw Robert de Vale tua 1300 a rhannwyd maenor Dale rhwng ei ferched fel cydetifeddion. Gwnaeth ei ffordd i ddwylo’r teulu Walter o Rosemarket a pharhaodd y teulu hwnnw yn ddeiliad ar Dale tan ddiwedd y 17eg ganrif pan aeth i feddiant teulu Allen o Gelliswick, ac yna i deulu Lloyd-Philipps sy’n parhau i fod yn berchen ar Gastell Dale heddiw. Ni ddaeth Dale yn borthladd nac yn farchnad fawr, ac ni chafodd statws trefol erioed, er y ceir awgrym o weithgaredd morwrol ar raddfa fach o ganlyniad i bresenoldeb odynau calch yn y pentref. Tua 1811, ysgrifennodd Richard Fenton ‘Ymddengys nad oes gan Dale gyfoes fawr o fasnach, gyda’r mwyafrif o’r tai wedi mynd yn adfeilion a’u gadael yn anghyfannedd...’. Parhaodd yr economi’n economi amaethyddol bron yn llwyr tan y twf hamdden ddiwedd yr 20fed ganrif. Dengys map degwm 1847 nad oes llawer o newid wedi bod dros y 150 mlynedd ddiwethaf. Yn ei hanfod, mae’r pentref yr un fath â’r patrwm o lain-gaeau amgaeëdig a ffermydd gwasgaredig i’r gogledd, er bod llawer o’r caeau erbyn hyn wedi’u gorchuddio gan faes awyr Dale. Mae’n amlwg o’r map degwm yr arferai’r llain-gaeau fod yn gaeau wedi’u hamgáu yn y system caeau agored a arferai fod yn weithredol o amgylch Dale. Nid oes sicrwydd ynglyn â dyddiad y caeau amgaeëdig hyn, ond mae presenoldeb systemau deiliadaeth cymysg yn y 19eg ganrif yn awgrymu efallai i’r broses fod yn gymharol hwyr, efallai yn y 17eg ganrif neu’r 18fed ganrif. Hefyd, roedd tenantiaid wedi diogelu’r hawl i bori gwartheg ar y tir comin canoloesol a leolwyd yma ymhell i’r 19eg ganrif. Yn ôl y sôn, rhoddwyd y fraint hon gan Henry VII. Gellir cysylltu naill ai Fferm Dalehill Uchaf neu Fferm Dalehill Isaf, o fewn yr ardal, â ‘Hill (neu ‘Le Hull’), lle cynhaliodd Robert de Vale ‘a’i hynafiaid’ eu llys tenantiaid maenoraidd. Mae’n debygol bod rhai o’r ffermydd eraill wedi’u sefydlu ar y cyd â chau’r tiroedd. Mae’r system caeau wedi colli peth o’i chymeriad dros y 150 mlynedd ddiwethaf, ond gellir parhau i’w weld ar fapiau modern. Mae’r felin wynt yma yn dyddio o ddechrau’r 19eg ganrif ac fe’i hadeiladwyd i olynu melinau cynharach i’r de orllewin o’r pentref.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae’r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol cymharol fach hon yn cynnwys pentref Dale a’i gefnwlad amaethyddol i’r gogledd. Lleolir y pentref ym mhen dwyreiniol dyffryn ag ochrau serth, lle mae’n agor allan i ddyfrffordd Aberdaugleddau. I’r gorllewin o’r prif bentref, saif eglwys St James a Chastell Dale. Mae’r eglwys sy’n rhestredig â gradd II yn ganoloesol, ond fe’i hadferwyd yn sylweddol ym 1890. Mae gan Gastell Dale elfennau canoloesol, ond ailfodelwyd ac ailadeiladwyd y ty y gellir ei ddisgrifio fel plas Tuduraidd sy’n rhestredig â gradd II, bron yn gyfan gwbl yn 1910. Mae’r mwyafrif o’r waliau bylchog sy’n amgylchynu’r gerddi yn dyddio o’r un cyfnod. Mae canol y pentref wedi’i leoli ar hyd glan y môr ac mae’n cynnwys grwp o dai wedi’u clystyru’n dynn o ddiwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif sydd wedi’u hadeiladu o garreg a’u rendro, yn bennaf yn y traddodiad Sioraidd ‘bonheddig’, gyda rhai enghreifftiau yn y traddodiad brodorol lleol. I gyd, ceir 16 o adeiladau rhestredig yng nghanol y pentref. Saif tai o’r 20fed ganrif yn syth y tu allan i ganol y pentref. Erbyn hyn, mae Dale yn ganolfan dwristiaeth sy’n arbenigo mewn chwaraeon dwr. Darperir meysydd parcio, llithrfeydd a chyfleusterau eraill. Mae Townend yn ganolbwynt eilradd i bentref Dale. Yma, ceir clystyrau o dai o’r 19eg ganrif a’r 20fed ganrif. Mae ochr ddeheuol y dyffryn, uwchlaw’r pentref wedi’i gorchuddio’n drwm â choed. Mae llethrau’r ochr ogleddol, sydd â llai o goed, yn codi i dir ar oleddf rhwng 30m a 60m. Yma, ceir tirwedd o ffermydd gwasgaredig a chaeau bach, cymharol reolaidd. Adeiladwyd y ffermdai, o garreg, yn ddeulawr ac yn y traddodiad Sioraidd ddiwedd y 18fed ganrif neu yn y 19eg ganrif; mae Lower Dalehill yn rhestredig â gradd II. Lleolir amrywiaeth eang o adeiladau allan o garreg sy’n dyddio o’r 19eg ganrif ar y mwyafrif o ffermydd, yn ogystal ag adeiladau modern o ddur ac asbestos. Mae’r mwyafrif o’r tir yn dir pori wedi’i wella. Ceir peth tir âr, ond dim llawer o dir garw neu brysgog ac eithrio ar hyd yr ymyl arfordirol. Hefyd, ceir maes gwersylla. Mae ffiniau caeau bron yn gyfan gwbl yn gloddiau â gwrychoedd arnynt. Yn gyffredinol, mae’r gwrychoedd wedi’u cynnal yn dda a phrin iawn yw’r rhai sydd wedi dechrau tyfu’n wyllt. Ceir ambell goeden yn tyfu yn y gwrychoedd. Mae ambell wal garreg â mortar yn gweithredu fel ffiniau yn agos i’r pentref. Mae safleoedd archeolegol yn brin, ac maent yn cynnwys beddrod grwn bosibl o’r 19eg ganrif, gweddillion twr melin wynt o’r 19eg ganrif sy’n rhestredig â gradd II, a chyfres o odynau calch o’r 19eg ganrif.

Ffynonellau: Calendr Rhôl Siarter 2; Charles 1992; Map degwm Plwyf Dale 1847; Dresser, 1959; Hague 1994; Jenkins 1982; Jones 1999; Ludlow, yn Crane sydd i’w gyhoeddi; Murphy 1998; Nash 1986; Owen 1911; Owen 1918; Ramsey a Williams 1992