|
LLANISMEL
CYFEIRNOD GRID: SM 833071
ARDAL MEWN HECTARAU: 158
Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad tirwedd hanesyddol sy’n gorwedd ar lan ogleddol dyfrffordd
Aberdaugleddau ym mhlwyf Llanismel, yn cynnwys pentref (a system gaeau)
Llanismel gyda’i chastell mwnt, oedd capwt Isarglwyddiaeth ganoloesol
Llanismel, aelod o Arglwyddiaeth Haverford. Saif eglwys y plwyf â’i
chysegriad ‘Celtaidd’ a thri Heneb Gristnogol Gynnar a mynwent
cist bosibl beth pellter o’r pentref. Crybwyllwyd yr eglwys ym 1291
pan oedd ym meddiant Priordy Hwlffordd. Mae gweddillion system llain-gaeau
ganoloesol helaeth o amgylch y pentref yn arwydd o anheddiad canoloesol
sylweddol. Erbyn dechrau’r 19eg ganrif, dengys mapiau ystad bod
morffoleg bresennol y pentref a’i chaeau amgylchynol wedi’i
sefydlu, er bod system llain-gaeau fwy helaeth wedi bodoli bryd hynny.
Oddi wrth y pentref, mae’r lleiniau hyn wedi cael eu huno yn gaeau
mwy (ystyrir yr rhain erbyn hyn yn rhan o ardal gymeriad tirwedd hanesyddol
wahanol), ond yn agos i’r pentref, parheir i gynnal y patrwm o leiniau
amgaeëdig. Roedd y caeau hyn wedi’u hamgáu’n amlwg
oddi wrth system ffermio caeau agored. Nid oes sicrwydd ynglyn â
dyddiad yr amgaead hwn, ond mae’n debygol iddo ddigwydd fesul tipyn
dros nifer o ddegawdau, efallai yn y 17eg ganrif a’r 18fed ganrif.
Byddai ffermydd a thai wedi’u sefydlu ochr yn ochr â’r
broses o gau’r caeau agored. Roedd y broses hon yn parhau yng nghanol
y 19eg ganrif pan sefydlwyd Ty Trewarren ym 1845. Cynhaliwyd cynllun y
pentref a ddangosir mewn mapiau ystad o’r 19eg ganrif yn niwedd
yr 20fed ganrif.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae’r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol gymharol fach hon yn cynnwys
pentref Llanismel, tir fferm amgylchynol, a dyffryn coediog y lleolir
eglwys y plwyf ynddi. Mae’r pentref, sydd tua 50m uwchlaw lefel
y môr ac a adeiladwyd mewn dyffryn bach agored ac ar ei dwy ochr,
yn cynnwys clwstwr bras o dai yn hytrach nag anheddiad cnewyllol cywasgedig.
Yn wir, mae naws wledig yn perthyn i lawer o lonydd y pentref ac mae cloddiau
gwrychoedd mawr o boptu iddynt. Mae craidd y pentref yn cynnwys cymysgedd
o dai deulawr o’r 19eg ganrif, tafarn, capel wedi’i droi’n
dy a siop ynghyd â thai a byngalos modern mewn amrywiaeth o arddulliau
a deunyddiau. Amgylchynir y craidd gan amryw o ystadau tai bach o ddiwedd
y 20fed ganrif, tai unigol, ac ysgol a chae chwaraeon. Roed y llain-gaeau
cul sy’n amgylchynu’r pentref, unwaith yn rhan o system caeau
agored helaeth y gymuned. Cloddiau â gwrychoedd arnynt sy’n
amgáu’r caeau. Mae gwrychoedd yn gyffredinol mewn cyflwr
da ac wedi’u cynnal yn dda, ac er bod rhai’n dechrau tyfu’n
wyllt ceir ambell goeden yn y gwrychoedd hynny. Mae defnydd tir yn gymysgedd
o dir pori wedi’i wella a thir âr. Ceir meithrinfa yn yr ardal.
Saif ty helaeth Trewarren o’r 19eg ganrif i’r gorllewin o’r
pentref, ac mae ganddo erddi â waliau o’u cwmpas a nodweddion
tirwedd megis pyllau, ffugadeiladau wedi’u lleoli yn y dyffryn i
fyny o Monk Haven. Mae’r ardal hon yn goediog iawn. Saif eglwys
ganoloesol Llanismel a’i cherrig arysgrifedig canoloesol cynnar
yn y dyffryn ynghyd â hen ficerdy a adeiladwyd yn 1835 mewn arddull
llyfr patrwm Sioraidd Gothig. Saif mwnt, safle castell canoloesol i’r
gogledd o’r pentref. Mae safleoedd archeolegol eraill yn cynnwys
meini hirion o’r oes efydd, tomenni wedi’u llosgi o’r
oes efydd, safleoedd lle daethpwyd o hyd i arteffactau cynhanesyddol a
mynwent gist.
Er bod hon yn ardal amrywiol – y pentref, llain-gaeau, coetir a’r
eglwys anghysbell – mae’n ardal dirlun hanesyddol drefnus
sy’n cynnwys holl elfennau anheddiad canoloesol ac ôl-ganoloesol.
Mae’n wahanol i’r ffermydd mawr sydd â chaeau rheolaidd
sydd i’r gorllewin, i’r gogledd ac i’r dwyrain, er nad
oes unrhyw ffin ag ochr galed yma. Mae ganddo ffin amlwg ag ardal tirwedd
hanesyddol y clogwyn arfordirol sydd i’r de.
Ffynonellau: Dudley Edwards, J 1972-73; Dudley Edwards, J a Thorne, R
G, 1973; LlGC MAP 7575; PRO HDX/60/65; PRO D/RKL/1194/3 a 14; Owen 1911;
Map degwm Plwyf Llanismel 1839
|