Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Aberdaugleddau >

SCOVESTON – BURTON

CYFEIRNOD GRID: SM 926082
ARDAL MEWN HECTARAU: 2550

Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad fawr sydd i’r gogledd o ddyfrffordd Aberdaugleddau, ym mhlwyfi eglwysig Llangwm, Llanstadwell, Rosemarket a Steynton. Roedd rhan fawr o’r ardal yn rhan o Faenor ganoloesol Pill, yn rhan o Faenor fwy (neu Is-arglwyddiaeth) Pill a Roch, a grëwyd o dan reolaeth teulu’r de Roche rhwng 1100 ac 1130. Roedd ei pherthynas ag Arglwyddiaeth Haverford, yr oedd mewn egwyddor, yn rhan ohoni, yn destun anghydfod erioed. Roedd Pill yn faenor fawr a phwysig â chapwt ar ben Castle Pill (mae pill yn derm lleol am fornant lanwol) yn rhan orllewinol yr ardal - o bosibl ar safle bryngaer o’r oes haearn ac yn ddiweddarach amddiffyniad o’r Rhyfel Cartref. Mae pen de ddwyreiniol yr ardal hon wedi’i leoli ym mhlwyf Burton, a oedd yn cynrychioli rhan ar wahân o Arglwyddiaeth Penfro. Roedd eglwys plwyf Burton yn bresennol erbyn 1291. Roedd Maenor (a phlwyf) Llangwm, i’r gogledd, yn ddeiliadaeth i deulu’r de Vales nes i un o deulu Roche, Gilbert de la Roche nes iddi gael ei throsglwyddo i un o deulu’r Roche yn y 13eg ganrif. Caniataodd y teulu Roche ‘chwe bufedd o dir yn Studdolph, a phump erw o dir â hanner gweddgyfair o dir yn yr un drefgordd’ i Briordy Tironaidd Pill yn ei siarter sylfaenol ddiwedd y 12fed ganrif. Roedd Hayston yn bresennol yn y 14eg ganrif. Ymddengys fod y patrwm anheddu presennol o darddiad cymharol hwyr gan mai dim ond rhai o ffermydd a thirddaliadaethau heddiw y gellir eu cysylltu â maenorau a threfgorddau canoloesol. Ni chofnodir Scoveston tan ganol y 15fed ganrif, ond ni chofnodwyd y gweddill – Jordanston, Norton, Milton, Westfield ac ati tan y 16eg a’r 17eg ganrif. Mae rhai, megis Oxland, yn tarddu o’r 18fed ganrif. Serch hynny, nis adlewyrchir y gwahanol gyfnodau hyn o darddiad mewn unrhyw gytundebau deiliadol, ac mae patrwm unffurf o dir wedi’i amgáu wedi datblygu. Erbyn adeg creu’r mapiau ystad cyntaf ddiwedd y 18fed ganrif a’r arolwg degwm yn y 1840au, roedd tirwedd heddiw wedi’i sefydlu. Ceir awgrymiadau bod o leiaf rhannau o’r ardal wedi datblygu o’r system caeau agored. Er enghraifft, dangosir llain?gaeau amgaeëdig ar fapiau ystadau ar ochr ddwyreiniol Castle Pill ac yn agos i bentref bach iawn Burton. Erbyn hyn, ni cheir unrhyw arwydd o’r llain-gaeau hyn. Mae’r ardal wedi parhau’n ardal amaethyddol gan fwyaf, ond mae ei photensial milwrol wedi bod yn amlwg ers tro byd. Atgyfnerthwyd Castle Pill gan luoedd Brenhinol ym 1643, gyda chaer â 18 gwn yn cael ei warchod gan 300 o ddynion. Caer anferth fewndirol Scoveston oedd yr unig waith amddiffynnol a adeiladwyd ar ôl i adroddiad ar amddiffyn gan y Comisiwn Brenhinol ym 1860 gynnig cylch o gaerau o amgylch dyfrffordd Aberdaugleddau i’w amddiffyn rhag ymosodiad o’r tir. Roedd rheilffyrdd hefyd yn croesi’r ardal, i Neyland ym 1856 ac Aberdaugleddau ym 1859.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae’r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon yn ymestyn o dref Aberdaugleddau yn y gorllewin, ar hyd glan ogleddol y ddyfrffordd heibio Neyland ac i fyny a heibio pentref Llangwm. Er gwaethaf ei maint, mae’n dirwedd arbennig o drefnus sy’n cynnwys ffermydd mawr, tai gwasgaredig a chaeau mawr, rheolaidd. Er ei bod wedi’i lleoli’n agos at ddyfrffordd Aberdaugleddau, dim ond mewn ambell leoliad ger Burton a Llangwm y mae’r ardal hon yn ffinio’n uniongyrchol â’r môr. Y defnydd amlycaf a wneir o’r tir yw fel tir pori, gydag ychydig o dir âr, yn arbennig yn rhan orllewinol yr ardal. Ni cheir nemor ddim tir garw neu dir diffaith. Ar wahân i goed collddail ar lethrau serth y dyffryn, megis Castle Pill a Barnwell Pill, mewn rhai pantiau cysgodol, ac ar lannau dyfrffordd Aberdaugleddau, nid yw hon yn dirwedd a nodweddir gan goetir. Mae ambell goeden i’w gweld hefyd mewn rhai gwrychoedd. Cloddiau â gwrychoedd yw’r prif fath o ffin. Yn gyffredinol, mae gwrychoedd wedi’u cadw’n dda, ond mae rhai wedi dechrau tyfu’n wyllt a rhai yn mynd rhwng y cwn a’r brain yn rhan ogleddol yr ardal. Rhennir Mynydd Burton a Mynydd Williamston, a fu unwaith yn un o’r unig ardaloedd agored ar ddyfrffordd Aberdaugleddau, yn gaeau mawr gan gloddiau a gwrychoedd. Ar wahân i bentref Burton, ffermydd a thai gwasgaredig yw patrwm yr anheddu. Ceir sawl plasty a fferm fawr yn yr ardal hon, gan gynnwys Fferm Jordanston, East Hook a Neuadd Studdolph. Mae rhai o’r tai hyn o beth hynafiaeth, megis East Hook, ty sy’n dyddio o’r 17eg ganrif a’r 18fed ganrif ger adfeilion ty o’r 16eg ganrif, ac mae eraill yn dangos mân wreiddiau bonedd y ffermydd mwy, megis ty Sioraidd trillawr Jordanston. Mae rhai o’r tai mwyaf, Castle Hall er enghraifft, wedi’u dymchwel. Mae amrywiaeth o adeiladau allan o garreg sy’n dyddio o’r 19eg ganrif ac weithiau’n gynharach wedi’u hadeiladu gyda’r mwyafrif o’r tai mawr hyn, yn aml wedi’u trefnu o amgylch buarth, ac weithiau wedi’u gosod beth pellter oddi wrth yr annedd. Mae’r amrywiaeth eang o adeiladau yn Fferm Castle Hall yn enghraifft dda o’r math hwn. Mae gerddi a parcdir yn goroesi yn rhai o’r tai mwyaf hyn. Mae ffermydd llai yn britho’r dirwedd. Mae sawl ffurf i’r tai hyn, ond gan fwyaf, maent yn dyddio o’r 19eg ganrif, ac wedi’u codi o garreg, wedi’u rendro, â thoeau llechi, ac yn bennaf yn y traddodiad Sioraidd. Mae nifer wedi cael eu moderneiddio. Hefyd, mae ffermdai hín a mwy modern i’w gweld, yn ôl pob tebyg i gymryd lle adeiladau cynharach. Mae hen adeiladau allan hefyd wedi’u codi o gerrig, ond fel arfer o ddim ond un neu ddau fath. Mae gan y mwyafrif o ffermydd o’r maint hyn amrywiaeth mawr o adeiladau allan modern dur a choncrid. Mae tai modern gwasgaredig yn bresennol yn yr ardal hon, ond nid ydynt yn nodwedd ddiffiniol, ar wahân i’r gorllewin ac i’r gogledd o Jordanston. Yma, mae’r tai pâr sy’n dyddio o ganol yr 20fed ganrif sydd wedi’u gwasgaru’n gymharol ddwys yn nodwedd amlwg o’r dirwedd. Yn Burton, yr unig bentref yn yr ardal hon, amgylchynir eglwys blwyf ganoloesol St Marys ynghyd â chlwstwr o anheddiadau o ddiwedd y 18fed ganrif a chanol y 19eg ganrif, gan dai o’r 20fed ganrif, gan gynnwys ystad fechan. Ymhlith yr adeiladau eraill ceir gweddillion mawr Caer Scoveston, elfen o amddiffynfa filwrol dyfrffordd Aberdaugleddau sy’n dyddio o ganol y 19eg ganrif. O ystyried maint yr ardal hon, nid yw’n syndod bod nifer fawr o safleoedd archeolegol amrywiol i’w cael. Fodd bynnag, nid yw’r rhain yn nodweddu’r dirwedd yn fawr. O ddiddordeb, mae sawl safle angladdol a defodol cynhanesyddol, gan gynnwys meini hirion beddrodau siambrog a charneddi crwn, caer o’r oes haearn ac ychydig o weddillion caer o’r Rhyfel Cartref, sawl man lle daethpwyd o hyd i weddillion cynhanesyddol, safleoedd melin a melinau gwynt canoloesol, a nodweddion amddiffynnol o’r Ail Ryfel Byd.

I’r de ac i’r dwyrain mae ffin yr ardal hon yn ardal wedi’i diffinio’n dda yn erbyn dyfrffordd Aberdaugleddau, tref Aberdaugleddau, tref Neyland, Purfa Olew a llain mawr o goetir. Ar ochrau eraill, mae’n anodd diffinio’r ardal hon, a dylid ystyried unrhyw ffin fel parth o newid yn hytrach na ffin galed.

Ffynonellau: Map degwm Plwyf Burton 1840; Charles 1992; Jones 1996; Map degwm Plwyf Llangwm 1841; Map degwm Plwyf Llanstadwell 1849, map degwm Llanstadwell Rhan Tri 1830; Ludlow 2002; LlGC PICTON CASTLE CYFROL 1; LlGC R. K. LUCAN RHIF 17, 19 a 25; Page 2001; Price 1986; Pritchard 1907; PRO D/RKL/1194/4; PRO RKL/841; Rees 1975; Map degwm Plwyf Rosemarket 1843; Saunders 1964; Map degwm Plwyf Stainton 1843