Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Aberdaugleddau >

HOOK

CYFEIRNOD GRID: SM 970111
ARDAL MEWN HECTARAU: 291

Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad fechan a leolir yn rhannau uchaf dyfrffordd Aberdaugleddau, ym mhlwyfi Freystrop a Llangwm. Roedd plwyf Llangwm, a oedd mae’n debyg yn gydamserol ag arglwyddiaeth mesne ganoloesol Llangwm, yn ddaliad i’r de Vales nes i un o deulu’r Roche, Gilbert de la Roche ei feddu tua diwedd y 13eg ganrif. Roedd ei berthynas ag Arglwyddiaeth Haverford, lle safai, yn fater o anghydfod bob amser. Roedd Freystrop yn aelod o Arglwyddiaeth Haverford. Mae’n debyg i’w ganolfan faenoraidd fod yng nghyffiniau Lower Freystrop, gan fod anheddiad modern Freystrop, gan fwyaf, yn gnewyllyn 20fed ganrif o amgylch croesffordd. Yn wir, ymddengys fod patrwm anheddu cyffredinol yr ardal hon fel petai o darddiad cymharol hwyr. Mae’r ardal gymeriad hon, a oedd yn ardal amaethyddol yn bennaf hyd y 19eg ganrif, yn cynnwys tair uned bendant. Ceir system o lain-gaeau cul i’r dwyrain o Hook. Ymddangosa’r rhain fel hen gae agored canoloesol, ond ni chofnodir yr enw ‘Hook’ nes 1601, ac o ganlyniad, gallent fod yn fwy diweddar. I’r gogledd ac i’r de o’r system hon, ceir caeau mwy o faint a mwy rheolaidd eu ffurf ag iddynt darddiad hwyrach o bosibl, o amgylch pentrefannau Underwood a Deerland. Ni chofnodir y ddau anheddiad hyn nes y 19eg ganrif. Y drydedd uned sy’n gorchuddio’r rhan fwyaf o’r ardal, ac mae’n batrwm o gaeau mwy afreolaidd a gysylltir â fferm Rhostir Maddox o’r 19eg ganrif. Gallai’r fferm hon fod wedi’i sefydlu ar dir a fu unwaith yn goetir – caiff Coedwig Hook ei chynnwys yn rhestr George Owen o goedwigoedd mwyaf Sir Benfro tua 1601. Ceir tystiolaeth o weithgarwch mwyngloddio glo ar draws y caeau. Cafodd glo ei fwyngloddio yn Hook a Freystrop o ddiwedd y cyfnod canoloesol, ond diwydiant ar raddfa fach oedd y diwydiant hwn tan y 19eg ganrif, ac mae’n debyg mai ffermwyr a labrwyr oedd yn gweithio yno yn dymhorol. Dengys mapiau ar raddfa fawr o’r 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif nifer o byllau glo ar draws yr ardal hon, gyda threfannau bach yn Hook a Freystrop, yn ogystal â ffermydd gwasgaredig. Ar ôl 1850, pan agorwyd Pwll Glo Hook a phyllau mawr eraill, gwawriodd cyfnod newydd ar y diwydiant. Ehangodd cymunedau hyn a oedd wedi’u hen sefydlu a sefydlwyd rhai newydd i wasanaethau’r diwydiant a oedd yn tyfu. Roedd tai y glowyr yn dlawd iawn. Ym 1845, honnwyd eu bod yn cael eu codi o fwd, gweddillion ffyrdd a cherrig, ac mai toeau gwellt oedd arnynt. Unwaith y gadawyd hwy, dychwelasant i’r ddaear o’u tarddle gwreiddiol. Datblygwyd sawl cei i wasanaethu’r diwydiant gan gynnwys, yn yr ardal hon, Hook, Lower Hook a Sprinkle. Erbyn 1938, cyflogwyd 130 o ddynion ym Mhwll Glo Hook. Fodd bynnag, yn dilyn gwladoli’r diwydiant glo ym 1947, ystyriwyd nad oedd pyllau glo Sir Benfro yn talu ac fe’u caewyd i gyd. Yn chwarter olaf yr 20fed ganrif, mae’r ardal wedi cael ei thrawsnewid yn ardal breswyl, gyda llawer o’r preswylwyr yn teithio i Hwlffordd, Aberdaugleddau am gyflogaeth bellach.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae hon yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol gymharol fach, ond eto i gyd mae’n ardal gymhleth, ac mae’n cynnwys anheddau sydd wedi datblygu yn ystod y diwydiannu yn y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif. Saif ar dir tonnog sy’n wynebu’r gogledd gan fwyaf, rhwng tua 20m ac 80m, ond sydd mewn dau fan yn syrthio’n raddol i ddyfrffordd Aberdaugleddau. Mae patrwm yr anheddiad yn cynnwys sawl pentref a phentrefan unedig: Hook, Freystrop, Rhostir Maddox, Underwood a Deerland. Nid oes llawer o graidd hyn y pentrefi hyn yn goroesi erbyn hyn, ar wahân i glystyrau bach o anheddau cerrig o’r 19eg ganrif yn bennaf, yn aml wedi’u rendro â sment, â thoeau llechi ac o un neu ddau lawr. Ceir anheddau tair cilfach yn bennaf yn y traddodiad brodorol yn Hook, Underwood a Freystrop, a chapel o’r 19eg ganrif yn Hook. Mae casgliadau dwys a datblygiad llinellol o dai a byngalos sy’n dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif mewn amrywiaeth o arddulliau a deunyddiau yn ymestyn rhwng y pentrefi a’r pentrefannau. Adeiladwyd nifer o’r anheddau newydd hyn ar safleoedd bythynnod a thai o’r 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif, nad oes llawer ohonynt wedi goroesi. Fodd bynnag, dengys ambell beth sydd wedi goroesi, gan gynnwys bwthyn bach unllawr, ffrâm bren wedi’i orchuddio â haearn rhychiog, faint ac ansawdd diymhongar llawer o’r tai cynharach. Ceir maes carafannau, ysgol a chae chwaraeon yn yr ardal hon. Mae caeau bach, afreolaidd yn amgylchynu’r anheddiadau. Mae ffiniau’n cynnwys cloddiau â gwrychoedd arnynt. Yn gyffredinol, mae gwrychoedd wedi’u cynnal yn dda, er bod rhai’n dechrau tyfu’n wyllt, ac mae’r rhain, ynghyd â choetir prysgog yn Nash a choed mwy ar hyd ffiniau dyfrffordd Aberdaugleddau, yn rhoi ymdeimlad coediog i rannau o’r dirwedd. Mae defnydd tir amaethyddol bron yn gyfan gwbl yn dir pori wedi’i gwella â phocedi o dir brwynog gwael. Mae gweddillion y diwydiant glo, yn arbennig Pwll Glo Hook, yn goroesi yn yr ardal hon, ac maent yn cynnwys tramffyrdd a thomenni rwbel. Roedd Sprinkle, Hook ac Underwood oll yn geiau ar gyfer allforio glo, ond ychydig iawn o’r strwythurau a adeiladwyd sy’n goroesi. Yn y tair lleoliad hyn, mae’r blaendraeth naill ai’n lleidiog ac yn garegog neu’n gors. Erbyn hyn, lansio ac angori cychod pleser yw eu prif weithgarwch morwrol. Ar wahân i’r olion diwydiannol sy’n gysylltiedig â’r diwydiant mwyngloddio glo, nid yw archeoleg yn elfen fawr o’r ardal hon.

Mae’r patrwm anheddu, systemau’r caeau, a hanes ac olion diwydiannol yr ardal hon yn ei neilltuo oddi wrth ei chymdogion. I’r gogledd, mae coetir ar hyd glannau dyfrffordd Aberdaugleddau yn darparu ffin glir sydd wedi’i diffinio’n dda. Ar ochrau eraill, mae tirwedd o gaeau a ffermydd mwy yn cyferbynnu â’r ardal hon, er na cheir unrhyw ffiniau caled, ond yn hytrach parth o newid.

Ffynonellau: Charles 1992; Edwards 1950; Edwards 1963; Map degwm Plwyf Freystrop 1839; Map degwm Plwyf Llangwm 1841; LlGC PICTON CASTLE CYFROL 1; Arolwg Ordnans 6” Argraffiad Cyntaf 1869; Owen 1897; Rees 1975

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]