LITTLE MILFORD
CYFEIRNOD GRID: SM 967122
ARDAL MEWN HECTARAU: 54
Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad fechan a leolir ar rannau uchaf y Cleddau Wen, o fewn plwyfi
Freystrop a Llangwm. Daliadaeth i deulu de Vales oedd Maenor ganoloesol
(a phlwyf) Llangwm hyd nes i un o deulu Roche, Gilbert de la Roche ei
phrynu ddiwedd y 13eg ganrif. Bu ei pherthynas ag Arglwyddiaeth Haverford,
y’i lleolid oddi’i mewn, yn destun anghydfod erioed. Roedd
Freystrop hefyd yn aelod o Arglwyddiaeth Haverford. Mae’n debyg
mai yn nalgylch Lower Freystrop yr oedd ei chanolfan faenoraidd. Mae’r
ardal gymeriad hon yn cynnwys coetir serth ar ochr orllewinol yr afon,
y’i hadwaenir bellach fel Little Milford Wood. Bu’n goediog
ers 1592 o leiaf pan y’i cofnodwyd fel Freystrop Wood ac roedd yn
rhan o ystadau mawr teulu Perrot. Mae’r ardal hefyd yn cynnwys Hook
Wood a gynhwyswyd o fewn rhestr George Owen o goedwigoedd mawr Sir Benfro
tua 1601. Cofnodwyd bodolaeth anheddiad bach yn Little Milford ar ben
uchaf cilfach fach ers diwedd y 17eg ganrif. Datblygodd yn fan hwylio
anffurfiol, fel nifer o aneddiadau eraill ar hyd y Cleddau, ond yn wahanol
i weddill yr ardal hon mae wedi gweld newid mawr. Fe’i trawsnewidiwyd
yn ystod y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif o fan hwylio lleol i fod
yn un o brif borthladdoedd allforio glo maes glo Sir Benfro. Erbyn 1839
roedd tramffordd yn rhedeg o Freystrop i’r ceiau a sefydlwyd llethr
o Rostir Maddox i Little Milford erbyn 1851. Fodd bynnag trôdd Little
Milford yn ôl i fod yn fan hwylio/glanfa fechan yn sgîl dirywiad
y diwydiant glo ar ddechrau’r 20fed ganrif ac wrth i byllau glo
Sir Benfro gau ym 1947.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Little Milford wedi’i lleoli
ar lan orllewinol y Cleddau Wen ac mae’n ardal o goetir yn bennaf.
Mae glan y ddyfrffordd yn codi’n serth, o’r gwaelod mewn brigiadau
creigiog i uchder o 70m neu fwy. Coetir collddail sefydledig yw’r
rhan fwyaf o’r coetir, ond ceir rhai planhigfeydd coniffer sy’n
dyddio o’r 20fed ganrif. Mae man hwylio i’w chael yn Little
Milford lle mae ceg y llednant sydd ag iddi ochrau serth yn cwrdd â’r
ddyfrffordd. Bu unwaith yn borthladd allforio glo prysur ond mae Little
Milford bellach yn gilddwr tawel. Mae ty mawr a godwyd yn yr arddull Sioraidd
yn Little Milford yn edrych ar draws morfa heli a llaid y blaendraeth.
Prin yw’r safleoedd archeolegol yn yr ardal hon ac maent yn cynnwys
y nodweddion diwydiannol a grybwyllir uchod. Ni cheir adeiladau rhestredig.
Mae hon yn ardal sydd wedi’i diffinio’n dda gan ei bod wedi’i
ffinio ar un ochr â dyfrffordd Aberdaugleddau a phentrefi a thir
fferm mewn mannau eraill.
Ffynonellau: Charles 1992; Edwards 1950; Edwards 1963; map degwm Plwyf
Freystrop 1839; map degwm Plwyf Llangwm 1841; LlGC CASTELL PICTWN CYFROL
1:Argraffiad Cyntaf 6” Arolwg Ordnans 1869; Owen 1897; Rees 1975
|