Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Aberdaugleddau >

PICTWN A SLEBETS

CYFEIRNOD GRID: SN 023138
ARDAL MEWN HECTARAU: 742

Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad fawr a leolir ar rannau uchaf y Cleddau Ddu o fewn plwyf Slebets a fu unwaith yn rhan o Farwniaeth Daugleddau. Ystadau, gerddi a pharcdir Castell Pictwn a Phlas Slebets sydd i gyfrif am y rhan fwyaf o’r ardal hon. Ystad Pictwn yw olynydd Maenor Pictwn. Roedd y faenor unwaith yn rhan o Faenor fwy Cas-wis ond daeth yn ddaliadaeth ar wahân gan ddisodli Castell Cas-wis fel capwt Daugleddau erbyn diwedd y 13eg ganrif. Digwyddodd hyn o dan deulu lleol y Wogans. Dechreuodd Castell Pictwn fel castell mwnt a sefydlwyd (fwy na thebyg gan ddilynwr anhysbys i Wizo, Arglwydd Daugleddau) cyn 1130 pan roddwyd capel yn ‘Piketon’ i Eglwys Gadeiriol Caerwrangon. Ailgodwyd y castell mewn carreg o dan y Wogans yn ystod y 13eg ganrif ar safle newydd 700 metr i’r gorllewin i’r mwnt. Erbyn 1720 roedd ei lenfur amgylchynol wedi diflannu. Trosglwyddwyd y faenor i deulu’r Philipps yn y 15fed ganrif. Roedd pob nodwedd a oedd yn gysylltiedig â’r anheddiad a’r dirwedd a oedd yn gysylltiedig â’r castell wedi’u dileu pan grëwyd Parc Pictwn. Crëwyd parc ffurfiol gyntaf tua diwedd y 17eg ganrif yn arddull y Dadeni, ond fe’i hailfodelwyd yn helaeth yn y traddodiad Rhamantaidd o dan deulu’r Philipps yn y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif, pan sefydlwyd belfedir ar yr hen fwnt. Mae’r dirwedd hon yn parhau o hyd ac mae rhan o’r castell bellach yn amgueddfa. Datblygodd Parc Slebets o ystadau a oedd yn eiddo i Farchogion Sant Ioan a’u Comandwr yn eglwys Slebets. Fe’i rhoddwyd hefyd i Eglwys Gadeiriol Caerwrangon gan Wizo, cyn 1130 ond fe’i trosglwyddwyd i’r Marchogion rhwng 1148 a 1176. Roedd y Comandwr hefyd yn berchen ar ddwy felin a chei ar y Cleddau Ddu. Wedi’r diddymiad prynwyd y ddaliadaeth gan Roger Barlow, aelod o’r bonedd. Adeiladwyd Plas Slebets gan y Barlows ar safle’r Comdanwr neu’n agos iawn ato a sefydlwyd Parc Slebets ganddynt. Parhaodd yr ystad hon yn nwylo’r Barlows tan ddiwedd y 18fed ganrif pan y’i prynwyd gan deulu’r de Rutzen. Unwaith eto, drwy greu’r parc, ymddengys i holl nodweddion cynharach y dirwedd gael eu dileu.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae’r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon wedi’i lleoli ar lan ogleddol y Cleddau Ddu. Mae’n cynnwys blaendraeth lleidiog corslyd a chreigiog yn ogystal â’r bryniau sy’n codi’n raddol i 80m uwchlaw lefel y môr ar yr A40 ar gyrion gogleddol yr ardal. Mae cyfran fawr o’r ardal yn cynnwys Castell Pictwn a Phlas Slebets a’u gerddi, parcdir, coetir a’u ffermydd. Bu pobl yn byw yng Nghastell Pictwn yn barhaol ers ei adeiladu ym 1300. Er bod elfennau sy’n dyddio o’r 18fed ganrif yn y gerddi, cynhaliwyd y rhan fwyaf o’r gwaith plannu mewn arddull Rhamantaidd pictwresg oddeutu 1800 ac fe’i haddaswyd gan lawer o blannu diweddar. Mae Plas Slebets tri llawr mawr ag iddo naws castell yn dyddio o 1773. Cafodd y gerddi ffurfiol gan gynnwys y terasau uwchlaw’r afon a’r parcdir eu plannu a’u gosod tua’r un adeg. Credir i’r plasty gynnwys rhan o Gomandwr Marchogion Sant Ioan ond dim ond adfeilion yr eglwys y gellid dadlau’n bendant eu bod yn ganoloesol. Mae adeiladau erailll sy’n gysylltiedig â’r tai mawr megis stablau, lodj a gerddi â waliau o’u cwmpas yn nodweddion amlwg ac yn nodweddiadol o’r dirwedd. Mae pentref y Rhos a dwy fferm y plasdai yn cynnal nodweddion pensaernïol cryf yr ystadau. Mae fferm Pictwn yn cynnwys ffermdy mawr a godwyd o garreg yn y traddodiad Sioraidd ac adeiladau wedi’u gosod o amgylch buarth ac mae pentref y Rhos yn cynnwys teras o dai ‘llyfr patrwm’ sy’n dyddio o’r 19eg ganrif, anheddau eraill a hen ysgol. Mae ffermdai, megis Cressborough, adeilad ‘gothig’ a godwyd ganol y 19eg ganrif hefyd yn pwysleisio cymeriad ystad yr ardal. Mae adeiladau eraill yn yr ardal hon, gan gynnwys Bythynnod Ferry, ychydig o anheddau sy’n dyddio o’r 20fed ganrif a’r eglwys segur anferth sy’n dyddio o’r 19eg ganrif, eglwys Ioan Fedyddiwr (a ddisodlai’r eglwys ganoloesol yn Slebets) ar yr A40. Ceir cyfanswm o 25 o adeiladau rhestredig. Mae cymeriad ystad y dirwedd hefyd yn cael ei chadw gan elfennau eraill o’r dirwedd. Mae llawer o goetir collddail a lleiniau cysgodi/sgrinio wedi’u plannu ar hyd y dynesfeydd at y ddau dy mawr. Mae clystyrau o goed a blannwyd mewn caeau a choed nodweddiadol mewn gwrychoedd niferus yn cyfrannu at gymeriad ystad/parcdir yr ardal. Mae caeau yn fawr ac yn rheolaidd ac wedi’u rhannu gan wrthgloddiau â gwrychoedd. Mae’r gwrychoedd wedi’u cynnal yn dda ar y cyfan, ond mae nifer ohonynt wedi tyfu’n wyllt ac mae rhai wedi mynd rhwng y cwn a’r brain ac wedi’u disodli gan ffensys gwifren. Mae waliau cerrig â morter yn dynodi’r ffin i rai caeau a’r ystad yn Slebets. Defnydd amaethyddol a wneir o’r tir sef tir pori wedi’i wella a chyfran fechan o dir âr. Er bod sawl safle archeolegol pwysig, ar wahân i’r rheini a grybwyllir uchod, megis tair caer o’r oes haearn, odynau calch ar y blaendraeth, a safleoedd melinau, nid ydynt yn elfennau cryf yn yr ardal hon.

Yn amlwg i’r de hyd at yr afon mae ffin yr ardal hon yn glir iawn. I’r gorllewin, dwyrain a’r gogledd nid yw’r ffin mor amlwg er gwaethaf nodweddion cryf yr ardal hon. Felly mae parth o newid yn hytrach na ffin galed rhwng ardal gymeriad Pictwn a Slebets a’i chymdogion.

Ffynonellau: Cadw/ICOMOSn.d; Charles 1948; Davies 1949; Green 1913; Ludlow a Ramsey 1994; LLGC CASTELL PICTWN CYFROL 1; mapiau degwm plwyfi Slebets, Mynwar a Newton 1847; Toorians 1990

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]