|
CANASTON A CHOEDWIG MYNWAR
CYFEIRNOD GRID: SN 058139
ARDAL MEWN HECTARAU: 542
Cefndir Hanesyddol
Ardal fawr o goetir ar ben adran lanwol y Cleddau Ddu, wedi’i lleoli
ym mhlwyfi Newton North a Mynwar gan ymestyn i blwyfi Arberth a Slebets.
Bu’r ardal yn ardal o goedwig drwchus am gyfnod hir gyda llawer
ohoni yn dod i fewn ffiniau Coedwig hynafol Arberth, a gofnodwyd ers dechrau’r
12fed ganrif. Mae’n goroesi’n rhannol fel Coedwig Canaston.
Roedd Maenor Canaston yn aelod o Arglwyddiaeth (a phlwyf) Arberth ond
ymddengys iddi gael ei chreu yn gymharol hwyr gan y’i crybwyllir
gyntaf yn y 14eg ganrif. Fe’i prynwyd gan y Barlows o Slebets tua
1600 ynghyd â Choedwig Toch i’r gogledd. Nododd George Owen
Goedwigoedd Canaston a Mynwar yn benodol yn ei restr o goedwigoedd mawr
Sir Benfro tua 1601. Crybwyllwyd Coedwig Pickle hefyd tua 1603. Er ei
natur goediog, mae’r ardal gymeriad yn cynnwys dau safle domestig
uchel eu statws, ac roedd un ohonynt, Castell Coch, yn faenoraidd. Mae
hwn yn neuadd-dy sy’n dyddio o’r 14eg ganrif ynghanol clostir
â ffos o’i amgylch ac roedd yn ganolbwynt i Faenor Newhouse,
aelod arall o Arglwyddiaeth Arberth, a oedd hwyrach yn gydamserol â
phlwyf Newton North. Ymddengys mai datblygiad hwyr oedd y faenor, fel
asart o Goedwig Arberth, o dan arglwyddi Mortimer o Arberth ddiwedd y
13eg ganrif. Fe’i prynwyd gan Barlows Slebets ganol y 16eg ganrif
ond mae’n bosibl y’i gadawyd yn wag mor gynnar â 1670.
Mae plwyf Mynwar yn gymharol fawr ac yn ôl pob tebyg nid yw’n
gydamserol â Maenor ganoloesol Mynwar. Rhoddwyd eglwys y plwyf fel
rhodd i Farchogion Sant Ioan yn Slebets (a leolir yn yr ardal gyfagos
i’r gorllewin) gan Robert FitzLomer – Arglwydd y Faenor yn
ôl pob tebyg – ryw adeg cyn 1231. Yn ddiweddarach, rhoddwyd
‘holl goed y faenor’ i Farchogion Sant Ioan gan gynnwys safle
Ty’r Chwiorydd diweddarach, cyfres o adeiladau domestig a gynrychiolai
dy bonedd a sefydlwyd yn y 16eg ganrif, unwaith eto o dan y Barlows. Hwn
yw’r ail safle domestig uchel ei statws yn yr ardal. Mae’r
adeiladau yn gysylltiedig â nifer o glostiroedd a llwybrau a ffynnon
sydd, gyda’i gilydd, yn ymestyn dros 2.1ha. Gadawodd y Barlows y
safle yn y 18fed ganrif, ac fe’i rhoddwyd ar brydles fel nifer o
randiroedd a defnyddiwyd y tir fel tir amaethyddol. Ynghyd â Slebets,
fe’i prynwyd gan William Knox ar ddiwedd y 18fed ganrif ond ymddengys
iddo gael ei adael yn wag erbyn canol y 19eg ganrif. Mae cysylltiadau
wedi bod yn bwysig yn natblygiad yr ardal. Mae Pont Canaston yn tarddu
o gyfnod canoloesol, a throsti âi’r ffordd ganoloesol o’r
dwyrain i’r gorllewin (yr A40 bellach) dros y Cleddau Ddu, ac roedd
fferi yn gweithredu rhwng Mynwar a Slebets hyd y cyfnod ôl-ganoloesol.
Roedd y coetir trwchus hefyd yn gyfrifol am annog datblygiad cynnar diwydiannau
yn yr ardal. Codwyd ffwrnais chwyth golosg gan George Mynne, meistr haearn
o Loegr yng Nghoedwig Canaston ym 1635. Yn y brydles ar gyfer y ffwrnais,
rhoddwyd hawl i Mynne gymryd pren o’r goedwig. Sefydlwyd gofaint
haearn yn Blackpool, Blackpool Mill bellach erbyn 1760 pan gadarnhaodd
y brydles fod gan y perchennog, Robert Morgan o Gaerfyrddin ‘yr
hawl i dorri coed yng Nghoedwig Canaston o fewn pedair milltir i’r
gofaint’. Nodwyd llwyfan a fyddai o bosibl wedi llosgi golosg. Cloddiwyd
mwyn ar gyfer y ffwrnais yn lleol. Mae’n bosibl y bu mwynglawdd
haearn ym Mynwar ar ddechrau’r 17eg ganrif. Ym 1793 talodd William
Knox am waith cloddio yn Slebets yn y gobaith o ddod o hyd i arian, ond
roedd wedi camgymryd hen byllau mwyn haearn am fwyngloddiau arian, a oedd,
heb lawer o amheuaeth, yn gysylltiedig â ffwrnais gynnar Canaston.
Dirywiodd y diwydiannau erbyn dechrau’r 19eg ganrif. Mae mapiau
ystad o ddiwedd y 18fed ganrif yn dangos bod y coetir yn debyg iawn o
ran maint i’r hyn a welir heddiw. Ym 1794, cofnododd Hassell mai
derw oedd y coetir gan fwyaf ac fe’i rheolid ar gyfer cynhyrchu
golosg a rhisgl ar gyfer trin lledr, ond bod pren da ar gyfer golosg yn
prinhau. Yn wir, mae mapiau’r ystad yn dangos y mannau hynny yn
y coetir a oedd wedi’u torri, eu teneuo a’u troi’n goedlannau.
Er nad oedd ardal y coetir wedi newid fawr ddim erbyn canol y 19eg ganrif,
yn ystod yr 20fed ganrif plannwyd coed coniffer ar rannau helaeth o goetir
a fu unwaith yn goetir collddail.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae’r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon wedi’i lleoli
ar draws ochrau gogleddol a deheuol y dyffryn a’r bryniau sy’n
amgylchynu rhannau uchaf dyfrffordd Aberdaugleddau. Elfen amlycaf y dirwedd
hon yw coetir. Coetir collddail sy’n gorchuddio’r llethrau
isaf ar hyd glannau dyfrffordd Aberdaugleddau neu’r Cleddau Ddu
fel y dylid ei galw yn y rhannau uchaf hyn, a rhannau o ochr ogleddol
y dyffryn, ond planhigfeydd conifferaidd masnachol o’r 20fed ganrif
sydd i’w gweld yn bennaf yn yr ardal hon. Prin yw’r mannau
agored, ac maent yn cynnwys ychydig gaeau, megis y rheini ar lawr y dyffryn
ger Pont Blackpool. Mae’r gorsaf bwmpio dwr ym Mhont Canaston wedi’i
chynnwys yn yr ardal hon; Pont Canaston ei hun sy’n rhestredig Gradd
II; Melin Blackpool adeilad Sioraidd pedwar llawr ag iddo bum ffenestr
grom a restrwyd â Gradd II*, sydd bellach yn atyniad twristiaeth
poblogaidd; Pont Melin Blackpool, pont garreg bwa sengl a restrwyd â
Gradd II*; Castell Coch ty canoloesol ag amddiffynfeydd, sydd yn anghyfannedd
ac yn adfeiliedig; a Thy’r Chwiorydd, fferm fodern gynnar ag ysgubor
garreg anferth sydd i gyd yn adfeilion erbyn hyn. Yn ogystal â chyfleusterau
twristiaeth ym Melin Blackpool ceir rhodfeydd drwy’r coetir a mannau
picnic. Yn ogystal â safleoedd archeolegol Castell Coch a Thy’r
Chwiorydd ceir tair bryngaer o’r oes haearn, odynau calch ar lan
y ddyfrffordd, a safle ffwrnais haearn a gofaint haearn. Mae’r ddau
safle olaf hwn o gryn bwysigrwydd – Ffwrnais Mynne yng Nghoedwig
Canaston yw’r un ffwrnais chwyth y gwyddom amdani o’r cyfnod
allweddol hwn yn natblygiad y diwydiant haearn yng Nghymru, a rheolwyd
coetir yn yr 17eg ganrif a’r 18fed ganrif yn benodol i gynhyrchu
golosg ar gyfer y ffwrnais a’r gofaint.
Mae hon yn ardal tirwedd hanesyddol hynod iawn ac mae’n gwrthgyferbynnu’n
amlwg â’r dirwedd gyfagos o gaeau ffermydd a pharcdir.
Ffynonellau: Hassell 1794; Ludlow 1997c; Ludlow 1997d; map degwm Plwyf
Arberth 1842; LLGC MAPIAU SLEBETS 32-35, 40;Owen 1897; Page i ddod; ;
PRO D/RTP/SLE/80; mapiau degwm plwyfi Slebets, Mynwar a Newton 1847; Walker
1989
|