|
TOCH
CYFEIRNOD GRID: SN 040155
ARDAL MEWN HECTARAU: 310
Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad fewndirol a leolir ym mhlwyf Slebets. Mae’n cynnwys
caeau a ffermydd. Yn ystod y cyfnod canoloesol roedd yr ardal yn eiddo
i Faenor Marchogion Sant Ioan yn Slebets (a ganolwyd ar eu Comandwr yn
Eglwys Slebets). Mae’n bosibl bod enw’r fferm Clerkenhill,
a gofnodwyd ym 1577, wedi deillio o’r brodyr hyn. Ymddengys fod
ffermydd High Toch a Lower Toch yn cynrychioli daliadaeth unigol gynharach
a grybwyllwyd yng nghofnodion Slebets sy’n dyddio o’r 14eg
ganrif, sy’n awgrymu y gallai Clerkenhill, a leolir ar dir uwch,
fod yn dir agored cyn hynny. Mae fferm Cumberland yn fwy diweddar byth,
gan ddyddio o’r 18fed ganrif. Yn gyffredinol, ymddengys fod y patrwm
o gaeau rheolaidd mawr amgaeëdig yn dyddio o’r cyfnod diweddar,
a’i fod yn ôl-ganoloesol ar ei ffurf bresennol. Mae mapiau
degwm plwyfi Slebets, Newton a Mynwar 1847 yn dangos yr ardal hon yn union
fel ag y mae heddiw. Mae hen brif ffordd ganolooesol o’r dwyrain
i’r gorllewin a drowyd yn ffordd dyrpeg yn y 18fed ganrif, sef yr
A40 bellach yn rhedeg drwy’r ardal. Yn ystod y Rhyfel Cartref Cyntaf,
ym 1645, cafwyd brwydr rhwng byddin y Seneddwyr a’r Brenhinwyr ar
Rostir Colbi, i’r gogledd ddwyrain o’r ardal hon.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Toch wedi’i lleoli ar draws
cefnen isel, grwn sy’n cyrraedd uchder o dros 80m uwchlaw lefel
y môr. Rhed yr A40 ar hyd crib y gefnen gan dorri’r ardal
yn ddwy. Mae caeau a ffermydd gwasgaredig yn nodweddu’r ardal hon.
Mae’r ffermdai gan fwyaf yn dyddio o’r 19eg ganrif, wedi’u
codi o garreg â thoeau llechi yn ôl y traddodiad Sioraidd
brodorol – hy ffenestri a simneiau wedi’u lleoli’n gymesur
ac ati. Mae’r adeiladau fferm hyn yn cynnwys un neu ddwy res o adeiladau,
unwaith eto, wedi’u codi o garreg ag iddynt doeau llechi. Mae ffermdy
High Toch a charreg filltir gyfagos wedi’u rhestru â Gradd
II. Mae adeiladau amaethyddol modern mawr wedi’u cysylltu â
rhai o’r ffermydd yn nodwedd o’r dirwedd. Mae anheddau eraill,
yn ogystal â’r ffermdai yn cynnwys tai gwasgaredig sy’n
dyddio o’r 19eg ganrif wedi’u lleoli ar hyd yr A40. Mae’r
caeau yn amrywiol o ran maint, ond siâp petryal fwy neu lai sydd
gan y rhan fwyaf ohonynt. Cloddiau pridd gyda gwrychoedd yw’r ffiniau.
Mae’r rhan fwyaf o’r gwrychoedd mewn cyflwr da ond mae nifer
sylweddol wedi tyfu’n wyllt gyda choed bach yn tyfu ynddynt. Mae
nifer fach wedi mynd rhwng y cwn a’r brain ac maent yn cael eu disodli
gan ffensys gwifren. Mae’r cloddio sydd wedi tyfu’n wyllt
ynghyd â choetir prysgog ar rai o’r llethrau serth ac yn y
pantiau yn rhoi naws goediog i rannau o’r ardal. Defnydd amaethyddol
a wneir o’r tir sef tir pori wedi’i wella gydag ychydig o
dir âr. Nid yw safleoedd archeolegol yn nodweddu’r ardal hon
ac maent yn cynnwys mannau darganfod sy’n dyddio o’r oes efydd
a gwrthgloddiau nas dyddiwyd.
Nid yw diffiniad yr ardal hon yn dda. Gwelir llawer o’i helfennau
tirwedd hanesyddol mewn ardaloedd cyfagos hefyd. Yn gyffredinol, fodd
bynnag, i’r de mae’r dirwedd yn cynnwys coetir a ffermydd
a pharcdir ystadau, ond mewn mannau eraill mae patrymau’r caeau,
y patrwm anheddu a’r adeiladau ychydig yn wahanol.
Ffynonellau: Charles 1948; Charles 1992; mapiau degwm plwyfi Slebets,
Mynwar a Newton 1847
|