Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Aberdaugleddau >

MYNWAR

CYFEIRNOD GRID: SN042124
ARDAL MEWN HECTARAU: 602

Cefndir Hanesyddol
Mae’r ardal gymeriad hon sy’n cynnwys caeau a ffermydd ar ben y Cleddau Ddu wedi’i lleoli ym mhlwyfi Mynwar a Martletwy. Mae Mynwar yn blwyf cymharol fawr nad yw, yn ôl pob tebyg yn gydamserol â Maenor ganoloesol Mynwar. Rhoddwyd eglwys y plwyf i Farchogion Sant Ioan yn Slebets gan Robert FitzLomer – Arglwydd y Faenor y gellid tybio – rywbryd cyn 1231, ynghyd â llain o dir. Credir bod rhan fwyaf y llain hon ym mhlwyf Mynwar. Roedd dwy rodd arall o dir i’r Marchogion yn y 12fed ganrif yn cynnwys tir yn y plwyf a elwid ‘Blakedun’ a ‘Benegardun’. Nid yw’r rhain yn hysbys bellach ond mae’n debyg eu bod wedi’u lleoli o amgylch Broomhill Farm i’r de o Nant Mynwar. Cafodd y Marchogion eglwys plwyf Martletwy yn rhodd hefyd ynghyd â llain sylweddol o dir – yn yr ardal hon yn ôl pob tebyg. Gellir priodoli’r ffaith i’r enwau llefydd cynnar hyn gael eu colli i’r ad-drefnu a fu ar y dirwedd wedi’r Oesoedd Canol. Ymddengys fod Mynwar yn safle pentref canoloesol anghyfannedd. Wedi’r diddymiad, prynwyd plwyf, maenor ac ‘arglwyddiaeth’ Mynwar gan y Barlows o Slebets. Ac eithrio Vogar, a gofnodwyd ym 1451, mae’r enwau ffermydd yn cael eu crybwyll gyntaf mewn ffynonellau sy’n dyddio o’r 16eg ganrif a’r 17eg ganrif. Fodd bynnag ymddengys fod patrwm y caeau amgaeëdig mawr rheolaidd iawn ag iddynt ffiniau syth yn dyddio o gyfnod hwyrach. Mae’n bosibl i’r rhan fwyaf ohonynt fod wedi’u sefydlu dros goetir blaenorol – cynhwyswyd Coedwig Mynwar yn rhestr George Owen o goedwigoedd mawr Sir Benfro tua 1601. Mae’n amlwg o’r mapiau hanesyddol i dirwedd heddiw gael ei sefydlu’n bendant erbyn y cyfnod rhwng canol a diwedd y 18fed ganrif. Er enghraifft mae mapiau ystad Vogar yn dangos patrwm caeau sydd ymron yn union debyg i’r un sy’n bodoli heddiw. Yr unig wahaniaeth yw’r coetir collddail sydd wedi’i hadfywio ers y 18fed ganrif.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

Disgrifiad o hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Mynwar wedi’i lleoli ar ochr ddeheuol rhan uchaf dyfrffordd Aberdaugleddau (y Cleddau Ddu yw’r enw ar yr afon yn y fan hon) ac mae’n cynnwys rhan o’r blaendraeth lleidiog a chorslyd a’r bryniau tonnog sy’n codi i 80m a mwy uwchlaw lefel y môr ac sy’n parhau i godi i’r de o’r ardal hon. Mae’n dirwedd amaethyddol sy’n cynnwys sawl fferm wasgaredig. Defnydd amaethyddol a wneir o’r tir sef tir pori wedi’i wella gan fwyaf gyda rhywfaint o dir âr yn enwedig ar dir uwch. Ceir coetir collddail ar lawr y dyffrynnoedd ac ar rai o lethrau mwy serth y dyffrynnoedd. Mae coed aeddfed i’w cael yn rhai o’r gwrychoedd ac mae’r rhain ynghyd â’r coetir yn rhoi naws goediog i rannau o’r dirwedd. Plannwyd y gwrychoedd ar gloddiau pridd ac yn gyffredinol maent wedi’u cadw’n dda. Yr unig glwstwr o adeiladau a geir yw eglwys ganoloesol restredig Gradd II St Womar, Fferm Mynwar a thai sy’n dyddio o’r 19fed ganrif sydd wedi’u moderneiddio. Mae’r fferm yn nodweddiadol o’r ardal – yn dyddio o’r 19eg ganrif ac a godwyd yn ôl yr arddull Sioraidd yn gyffredinol mewn carreg, wedi’i rendro ag iddo do llechi a dau lawr, gyda chyfres o adeiladau allan wedi’u codi o garreg yn y 19eg ganrif wedi’u trefnu o gwmpas buarth, ynghyd â sawl adeilad amaethyddol concrit ac asbestos mawr sy’n dyddio o’r 20fed ganrif. Prin yw’r safleoedd archeolegol ac nid yw’r rheini sydd yma megis tomenni wedi’u llosgi o’r oes efydd (aneddiadau cynhanesyddol o bosibl) yn elfen arwyddocaol o’r dirwedd.

I’r gogledd mae gan yr ardal hon ffin bendant o goetir ac eto i’r gorllewin lle y mae’n rhedeg lawr i ddyfrffordd Aberdaugleddau. I’r de mae’r dirwedd yn wahanol o ran cymeriad er yn amaethyddol yn bennaf. Yma ceir parth o newid yn hytrach na ffin galed. Dim ond i’r dwyrain y ceir ffin sy’n anodd i’w diffinio, ond nid yw cymeriad y dirwedd hon wedi’i ddiffinio eto.

Ffynonellau: Charles 1948; Charles 1992; Davies 1946; map degwm Plwyf Martletwy 1844; LLGC CASTELL PICTWN CYFROL 1; LLGC CYFROL 88; Owen 1897; mapiau degwm plwyfi Slebets, Mynwar a Newton 1847

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]