Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Aberdaugleddau >

LAWRENNI

CYFEIRNOD GRID: SN 015083
ARDAL MEWN HECTARAU: 896

Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad yw hon sydd wedi’i lleoli yn rhannau uchaf dyfrffordd Aberdaugleddau, ar y ffin rhwng y gwythiennau glo a’r gwregys calchfaen. Roedd wedi’i lleoli o fewn plwyfi eglwysig a maenorau canoloesol Lawrenni a Choedcanlas, a oedd yn aelodau o Farwniaeth Caeriw. Roedd y naill faenor a’r llall yn cynnwys ffi marchog, a ddaliwyd gan Syr John Carew ym 1362. Arferai’r eglwys adfeiliedig yng Nghoedcanlas fod yn gapel rhydd a gallai hyn, ynghyd â’i enw canoloesol ‘Merthyr Cynlais’ awgrymu iddi ddyddio o gyfnod cyn y goncwest. Bu’n eglwys y plwyf yn ddiweddarach.Crybwyllwyd eglwys plwyf Lawrenni gan Gerallt Gymro tua 1200. Mae’n adeilad croesffurf mawr sy’n adlewyrchiad o nawdd Carew ac, ynghyd ag eglwys Coedcanlas, gallai awgrymu poblogaeth fawr yn y cyffiniau hyn yn ystod y cyfnod cynnar hwn. Hwyrach y bu pentrefan yng Nghoedcanlas. Fodd bynnag, prin yw’r treflannau canoloesol y gellir eu nodi yn y plwyf ac mae’n bosibl i’r rhan fwyaf o’r ardal fod yn goetir neu’n dir pori. Roedd coedwig yn gysylltiedig â’r maenordy yng Nghoedcanlas ac fe’i disgrifiwyd gan George Owen tua 1600 fel coedwig ‘a oedd yn ddigonol i wasanaethu eu tai â thanwydd a pheth ar gyfer eu hadeiladau’. Mae patrwm cymharol reolaidd y caeau mawr yn awgrymu system a amgaewyd wedi’r cyfnod canoloesol. Trosglwyddwyd Maenor Coedcanlas i deulu Owen o Orielton yn yr 17eg ganrif. Sefydlwyd gardd yn arddull y Dadeni ganddynt o amgylch y maenordy is-ganoloesol y gellir ei chymharu o ran maint ag enghreifftiau mwy adnabyddus yn Lloegr. Gellir gweld ei chyrtiau a’i therasau ffurfiol nodweddiadol o hyd mewn ffotograffau o’r awyr. Trosglwyddwyd Lawrenni i deulu’r Barlows o Slebets ac mae map ystad, dyddiedig 1762, yn dangos bod y rhan fwyaf o’r elfennau sy’n ffurfio’r dirwedd hanesyddol bresennol yn eu lle erbyn y dyddiad hwnnw. Dangosir Plas Lawrenni (a safai o bosibl ar safle’r capwt canoloesol), ei erddi a rhodfa o goed, ynghyd â’r pentref cnewyllol a’r dirwedd o gaeau rheolaidd. Aeth Lawrenni i ddwylo’r teulu Lort-Phillipps yn ddiweddarach a gododd ffug-gastell a ddymchwelwyd ym 1950. Ers 1762 mae’r caeau wedi’u huno yn unedau mwy ac nid yw’r rhodfa yn bodoli bellach er bod y patrwm sylfaenol yno o hyd. Mae dyfrffordd Aberdaugleddau wedi bod yn bwysig wrth ddiffinio cymeriad yr ardal hon erioed. Defnyddiwyd y cilfachau a’r mornentydd llanwol fel mannau hwylio anffurfiol drwy gydol y cyfnodau hanesyddol a chynhanesyddol. Roedd Garron Pill, yn enwedig yn lanfa bwysig a ddefnyddid ar gyfer allforio calchfaen o’r chwareli ar benrhyn y mornant ar ddechrau’r 19eg ganrif. Cysylltwyd y chwareli yng Nghoedcanlas â fferi i Langwm. Roedd Cei Lawrenni hefyd yn lanfa gynnar a oedd wedi’i chysylltu â’r fferi i Cosheston. Erbyn y 18fed ganrif roedd llongau o Lawrenni yn llwytho glo o’r cychod a ddeuai o Gei Cresswell. Trawsnewidiwyd y cei yn ddiweddarach i’r strwythur mawr carreg a welir heddiw. Nid oedd cloddio am lo yn elfen bwysig o’r dirwedd ond arferid cludo glo, deunydd o’r chwareli a diwydiannau eraill fel y diwydiant gwneud briciau.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 


Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Lawrenni wedi’i lleoli yn y tro a ffurfir gan ddyfrffordd Aberdaugleddau ac Afon Cresswell. Mae’n dir tonnog sydd ar gyfartaledd rhwng 10m a 50m uwchlaw lefel y môr gan syrthio’n raddol i lannau afon Cresswell, ond sydd hefyd, mewn mannau, yn disgyn yn serth i lan y dwr. Mae’n dirwedd amaethyddol sydd ag iddi naws ‘parcdir ystad’. Cynhwysir rhannau helaeth o’r morfa heli a’r gors yn Garron Pill ac ar hyd Afon Cresswell. Mae’r caeau yn fawr ac yn rheolaidd eu siâp. Defnyddir y tir gan fwyaf fel tir pori wedi’i wella, ond â chyfran fach ond arwyddocáol o dir âr. Cloddiau â gwrychoedd sydd wedi’u cadw’n dda yw’r ffiniau i’r caeau, ond yn Lawrenni ac o’i amgylch mae waliau cerrig â morter y pentref yn wrthgyferbyniad i’r gwrychoedd. Mae coed aeddfed yn y gwrychoedd ger y pentref yn nodweddiadol o’r ardal hon. Yn wir, y coed hyn ynghyd â chlwstwr achlysurol yn y caeau a chlystyrau mwy o goetir collddail sy’n rhoi’r naws benodol iawn o barcdir i’r ardal; mae hyn i’w weld yn glir ger pentref Lawrenni, ond mae hefyd i’w weld mewn mannau eraill. Mae’r llain fawr o goetir collddail (Coedwig Lawrenni) ar y llethrau serth uwchlaw dyfrffordd Aberdaugleddau ymron yn ardal gymeriad ynddo’i hun, ond fe’i cynhwysir yma oherwydd ei chysylltiad â Thy Lawrenni a’i erddi. Ac eithrio pentref cnewyllol bach Lawrenni, patrwm o ffermydd gwasgaredig sydd i’r anheddiad gyda thai a bythynnod achlysurol. Mae’r ffermydd yn amrywio o ran maint ond mae tuedd iddynt fod yn fawr. Dymchwelwyd prif dy’r ardal, Plas Lawrenni yn y 1950au (mae ei ardd â wal o’i chwmpas a nodweddion eraill yr ardd yn goroesi). Ty is-ganoloesol Coedcanlas, gyda’i addasiadau a’i ychwanegiadau yw’r strwythur domestig hynaf ac mae’n rhestredig â Gradd II. Mae sawl cyfres o adeiladau allan mawr a godwyd o garreg sy’n dyddio o’r 19eg ganrif yn ôl pob tebyg yn gysylltiedig ag ef, ynghyd â bwthyn brodorol unllawr sy’n dyddio o’r 19eg ganrif. Mae olion yr ardd sydd yn bennaf dan wyneb y ddaear, ymhlith yr ychydig dirweddau yng Nghymru sydd wedi’u llunio yn ôl arddull y Dadeni. Mae ffermdai eraill wedi’u codi o garreg ag iddynt doeau llechi yn dyddio o’r 19eg ganrif ac maent wedi’u codi yn y traddodiad Sioraidd, ac mae gan rai ohonynt nodweddion brodorol. Mae cyfresi o adeiladau allan o garreg wedi’u cysylltu â ffermdai. Gall y rhain fod yn eithaf sylweddol ac yn lled-ffurfiol eu patrwm fel y gwelir yn yr enghreifftiau hynny ar Fferm Plas Lawrenni sydd wedi’u rhannol addasu. Nodir enghreifftiau eraill o hen adeiladau fferm wedi’u haddasu at ddefnydd gwahanol yn yr ardal hon. Mae gan y rhan fwyaf o’r ffermydd gweithredol gyfresi eithaf helaeth o adeiladau amaethyddol modern. Mae ychydig o dai a bythynnod sy’n dyddio o’r 19eg ganrif ynghyd â thai sy’n dyddio o’r 20fed ganrif wedi’u gwasgaru ar draws y dirwedd gan gynyddu yn eu nifer at lan y dwr. Mae pentref Lawrenni yn cadw llawer o’i gymeriad o’r 19eg ganrif ac yn wir, gellid dadlau ei forffoleg ganoloesol. Mae’r tai yma yn dyddio gan fwyaf o’r 19eg ganrif ac maent wedi’u codi o gerrig (wedi’u rendro â sment a charreg noeth) gyda thoeau llechi, gydag enghreifftiau yn yr arddull Sioraidd yn y traddodiad brodorol. Mae ambell i dy sy’n dyddio o’r 20fed ganrif ar wasgar yn y pentref. Mae twr anferth eglwys ganoloesol y plwyf St Caradoc sy’n rhestredig Gradd II yn tra-arglwyddiaethu dros y pentref. Yn yr ardal hon hefyd mae olion eglwys ganoloesol y Santes Fair, Coedcanlas. Bu diwydiant yn elfen bwysig o’r economi ar un adeg, ond prin yw’r olion corfforol. Y cei o garreg yn Lawrenni a’r hen chwareli yn Garron a Fferi Llangwm yw’r eithriadau. Bellach mae Cei Lawrenni sydd wedi’i restru â Gradd II yn cael ei ddefnyddio at ddibenion twristiaeth a hamdden. Ceir yma iard gychod/cychod hwylio, parc carafannau a datblygiad o dai gwyliau. Mae’r ardal yn gyforiog o safleoedd archeolegol amrywiol ond nid ydynt yn ffurfio elfen fawr o’r dirwedd. Maent yn cynnwys tomenni wedi’u llosgi o’r oes efydd maen hir o’r oes efydd, dwy gaer o’r oes haearn, odynau calch ar hyd lan y ddyfrffordd, safle gwaith brics a safleoedd milwrol yr Ail Ryfel Byd.

I’r de a’r gorllewin, diffinnir yr ardal hon gan ddyfrffordd Aberdaugleddau. Yn yr ardaloedd cymeriad cyfagos mae elfennau amaethyddol cryf ond â phatrymau anheddu a chaeau gwahanol. Fodd bynnag nid oes ffin galed, ond yn hytrach dwy ardal yn uno.

Ffynonellau: Briggs 1998; Charles 1992; Davies a Nelson 1999; Edwards 1950; Edwards 1963; Hall et al. 2000; map degwm Plwyf Lawrenni 1843; Ludlow 1998; Owen 1897; PRO D/HDX/969/1

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]