Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Aberdaugleddau >

CEI CRESSWELL

CYFEIRNOD GRID: SN 052060
ARDAL MEWN HECTARAU: 268

Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad fach sy’n gorwedd ym mhen Afon Cresswell, mornant ar lannau canol Cleddau Ddu. Mae’n gorwedd o fewn plwyf Jeffreyston ac yn ymestyn i blwyfi Caeriw a Lawrenni, lle roedd barwniaeth ganoloesol Caeriw. Fodd bynnag, nid yw’r unig anheddiad cynnar sy’n hysbys yn yr ardal hon, Castell Cresswell, sydd bellach yn breswylfa ffug-gaerog o ddiwedd yr 16eg ganrif neu ddechrau’r 17eg ganrif, wedi’i restru ymhlith ystadau John de Carew ym 1367. Nid yw’n ymddangos ymhlith rhestr George Owen o faenorau tua 1600 chwaith ac awgrymwyd bod yr ystad wedi’i dal gan briordy Awstinaidd yn Hwlffordd yn y cyfnod canoloesol. Prynodd y teulu Barlow o Slebets yr anheddiad ym 1553, ac adeiladwyd y plasty presennol ganddynt. Saif capel ar wahân i’r prif adeilad. Roedd coedwig yn gysylltiedig â’r plasty a ddisgrifiwyd gan George Owen tua 1600 fel coedwig ‘sy’n ddigonol i wasanaethu tanwydd a pheth ar gyfer yr adeiladau’. Arhosodd yr ystad yn nwylo’r teulu Barlow nes i’r plasty gael ei adael tua 1800. Ymddengys fod llawer o’r dirwedd bresennol yn dyddio o gyfnod ôl?ganoloesol ac yn ôl pob tebyg, mae’n tarddu o anheddiad sy’n gysylltiedig â’r diwydiant glo. Cysylltwyd hyn yn agos â’r cei yn Cresswell ac mae’r ddau wedi bod yn hanfodol wrth ddiffinio tirwedd bresennol yr ardal. Cafodd glo ei gloddio yn yr ardal hon ers diwedd yr oesoedd canol. Rhwng 1768 a 1828 roedd dros 50 o byllau bach yn gweithredu yn fewndirol o’r cei. Dangosir sawl un o’r pyllau hyn ar Fynydd Caeriw a Whitehill ar fap ystad 1777. Cafodd glo ei lwytho ar gychod yn Cresswell a’i gludo i lawr yr afon i Lawrenni lle u’i llwythwyd ar longau mwy. Adeiladwyd corlannau glo yn y cei er mwyn storio glo cyn ei gludo ar longau. Erbyn y 1820au roedd y diwydiant yn dirywio, er i’r defnydd masnachol olaf o’r cei ddigwydd ym 1948 pan laniodd lwyth o lo mân o Hook. Cynhyrchodd y tai a’r bythynnod a adeiladwyd ar gyfer gweithwyr, a chanddynt, batrwm anheddiad nodedig a phensaernïaeth frodorol, a datblygodd pentref yn y cei. Ymddangosodd aneddiadau newydd yn Pisgah, o amgylch capel yr anghydffurfwyr, ac yn Whitehill. Mae map o 1848 o ‘Ddaliadau ar Fynydd Caeriw’ yn awgrymu bod o leiaf ran o’r patrwm anheddiad hwn yn deillio o lowyr yn codi bythynnod ar dir comin. Gallai hyn hefyd roi cyfrif am y system caeau o leiniau rheolaidd bach ar y ‘mynydd’ ac yn Whitehill.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae’r ardal hon yn ardal dirwedd hanesyddol gymysg sydd wedi’i huno gan ei diwydiant cloddio glo a phatrwm anheddiad nodedig blaenorol, sy’n gwrthgyferbynnu â’r ffermdir o’i hamgylch. Mae’n gorwedd ym mhen terfyn llanw Afon Cresswell, sydd wedi’i ricio’n ddwfn yma. Mae llethrau’r dyffryn yn codi’n serth mewn cyfres o fryniau crwn i dros 60m uwchben lefel y môr yn Whitehill. Mae pentref Cei Cresswell wedi’i guddio ar lethr ogleddol yr afon wrth droed llethrau serth a choediog y dyffryn. Mae’r tai yn amrywiol ac yn cynnwys tai Sioraidd mawr o ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau’r 19eg ganrif, tai brodorol bach, terasau o dai gweithwyr o’r 19eg ganrif a bythynnod unllawr o’r 19eg ganrif. Maent oll wedi’u hadeiladu o garreg (rhai wedi’u rendro â sment, eraill yn garreg noeth) gyda thoeau llechi. Mae melin Cresswell a adferwyd yn ddiweddar, adeilad â tho talcen slip Gradd II a thy’r melinwr, sy’n adeilad rhestredig Gradd II, yn gorwedd ar gyrion y pentref ar ochr gyferbyniol yr afon o adfeilion Castell Cresswell. Mae ceiau o garreg ac adfeilion adeiladau diwydiannol yn dystiolaeth o dreftadaeth ddiwydiannol Cresswell. Mae’r prif gei, a’r bont, yn strwythurau Gradd II. I’r de o’r pentref, y tu hwnt i gapel Pisgah, mae’r tir yn codi i dirwedd fwy agored. Yma, ceir patrwm anheddiad unionlin o fythynnod gweithwyr o’r 19eg ganrif (ar gyfer gweithwyr yn y diwydiant cloddio glo). Mae’r bythynnod yn rhai unllawr, yn rhai ar wahân, yn rhai pâr ac yn rhai mewn teras, wedi’u hadeiladu o garreg a’u rendro â sment gyda thoeau llechi, yn y traddodiad brodorol. Mae’r bythynnod wedi’u britho â thai deulawr o’r 19eg ganrif yn y traddodiad Sioraidd brodorol, a nifer o dai o ganol i ddiwedd yr 20fed ganrif a byngalos mewn amrywiaeth o arddulliau a deunyddiau. Ar y cyfan, mae’r ffermydd yn fach ac yn cynnwys ffermdai yn y traddodiad brodorol gyda rhes fechan o adeiladau allan wedi’u hadeiladu o garreg wrth y ty, i dai yn y traddodiad Sioraidd brodorol gydag un neu ddwy res fechan o adeiladau allan ar wahân. Mae rhesi bychain o adeiladau allan i’w gweld ar y rhan fwyaf o ffermydd. Mae’r caeau yn fach. Mae siâp rheolaidd iawn i’r rhai ar Fynydd Caeriw a Whitehill. Gwrychoedd ar gloddiau yw’r ffiniau, ac mae llawer ohonynt wedi tyfu’n wyllt neu wedi mynd rhwng y cwn a’r brain. Ar ochrau serth y dyffryn mae’r gwrychoedd sydd wedi tyfu’n wyllt a’r coetir collddail yn rhoi agwedd goediog i’r dirwedd. Tir pori wedi’i wella ac elfen fach o dir âr yw’r defnydd tir. Er bod yr adfeilion diwydiannol yng Nghei Cresswell ei hun yn un o hanfodion pwysig y dirwedd hanesyddol, nid yw elfennau eraill o’r diwydiant cloddio glo yn agweddau amlwg ar yr ardal hon. Yn ogystal â’r adfeilion diwydiannol, mae’r safleoedd archeolegol yn cynnwys dwy gaer o’r oes haearn a safle capel canoloesol.

Mae Cei Cresswell yn ardal nodedig, er nad yw ei ffiniau yn hawdd i’w diffinio’n gywir. Ar bob ochr, mae parth o newid yn bodoli rhyngddi a’r ardaloedd cyfagos, yn hytrach na ffin ymyl caled.

Ffynonellau: Cadw d.d.; Map degwm Plwyf Caeriw 1839; Connop Price 1994-95; Map degwm Plwyf Jeffreyston 1845; Map degwm Plwyf Lawrenni 1843; Owen 1897; PRO D/BUSH/6/27; PRO/D/EE/7/338

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]