Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Aberdaugleddau >

WEST WILLIAMSON A THRENEWYDD CAERIW

CYFEIRNOD GRID: SN 040050
ARDAL MEWN HECTARAU: 486

Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad sy’n gorwedd rhwng afonydd Caeriw a Cresswell, dwy fornant ar lan uchaf Cleddau Ddu. Mae’n gorwedd yn gyfan gwbl o fewn plwyf Caeriw, a oedd yn graidd i Farwniaeth ganoloesol Caeriw. Daliwyd West Williamston, fel Maenor Sagiston a Williamston Harvill, gan Syr John de Carew ym 1362 pan oedd yn un ffi marchog; mae’n amlwg bod y ddwy faenor wedi uno. Daeth cyfnod y daliad fel maenor i ben ym 1600, pan nododd George Owen ei barc cysylltiedig. Roedd gan y Drenewydd Caeriw a West Williamston systemau caeau agored canoloesol ar un adeg. Dengys mapiau ystadau o ddiwedd y 18fed ganrif fod dau bentrefan cnewyllol West Williamston a Threnewydd Caeriw yn parhau i gael eu hamgylchynu gan y caeau agored anamgaeëdig, er ei bod yn amlwg bod ychydig o leiniau yn gaeëdig, a bod ychydig o gaeau mawr yn gorwedd ar gyrion y caeau agored, yn arbennig ar hyd Afon Caeriw. Yn amlwg ar ddiwedd y 18fed a dechrau’r 19eg ganrif cafodd y caeau agored canoloesol eu hamgáu fesul tipyn, felly erbyn 1839, dengys arolwg y degwm yn ystod y flwyddyn honno ychydig o leiniau anamgaeëdig. Ni wasgarwyd yr anheddiad i ffwrdd o’r pentref yn sgîl amgáu’r caeau agored, fel y digwyddodd mewn lleoliadau eraill yn ne Sir Benfro. Ers arolwg y degwm, mae’r dirwedd amaethyddol a phatrwm yr anheddiad wedi aros yn hynod sefydlog. Mae’r ardal gymeriad hon yn meddu ar lain galchfaen, ac mae nodwedd ddiffiniol arall o’r dirwedd yn gysylltiedig â’r fasnach galch. Datblygwyd y chwareli ger afonydd Caeriw a Cresswell ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. Er mwyn hwyluso’r broses o lwytho, newidiwyd y ddwy fornant lanwol yn gamlesi a thorrwyd nifer o sianeli drwy’r traethellau cors er mwyn i gychod camlesi allu defnyddio’r llanw er mwyn cyrraedd y dociau. Lleolwyd odynnau calch ger y dociau ar gyfer prosesu calch ar y safle. Lleolir mwy o chwareli ymhellach i mewn i’r tir.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol West Williamston a Threnewydd Caeriw yn gorwedd ar ddarn o dir rhwng Afon Cresswell ac Afon Caeriw ar lannau llanw uchaf Cleddau Ddu. Mae’r tir yma ychydig yn donnog, gan gyrraedd uchder mwyaf o tua 40m, ac mae’n uno â chors a llaid helaeth ar hyd yr afonydd. Mae’n ardal amaethyddol ac yn cynnwys dau brif anheddiad, sef pentrefannau West Williamston a Threnewydd Caeriw, ond dim ond ychydig o ffermydd a bythynnod gwasgaredig. Mae’r defnydd tir amaethyddol bron yn dir pori wedi’i wella yn gyfan gwbl gydag ychydig o dir âr. Mae system o lain-gaeau, y caeau agored caeëdig a oedd yn gwasanaethu’r ddau bentrefan gynt, yn gorwedd ar draws y rhan fwyaf o’r ardal hon. Mae’r rhain ymhlith rhai o’r llain-gaeau sydd wedi goroesi a’u cadw orau o amgylch dyfrffordd Aberdaugleddau. Gwrychoedd ar gloddiau yw’r rhan fwyaf o’r ffiniau. Ategir coed mawr, nodedig mewn rhai gwrychoedd ar ochrau lonydd, ond caiff y rhan fwyaf ohonynt naill ai eu cynnal a’u cadw’n dda neu maent yn mynd yn wyllt. Nodir ychydig o enghreifftiau o goed sydd wedi mynd rhwng y cwn a’r brain. Mathau eraill o ffiniau sy’n llai cyffredin yw waliau morter a waliau carreg sych, mae’r olaf yn aml wedi dymchwel. Roedd calchfaen ar gyfer y waliau hyn ar gael o chwareli yn yr ardal hon. Mae’r defnydd o galchfaen fel deunydd adeiladu yn rhoi nodwedd bensaernïol arbennig i’r ardal hon a bwysleisir gan arddull gydlynol yr adeiladau. Mae’r rhan fwyaf o’r tai yn dyddio o ganol y 19eg ganrif, ac maent yn y traddodiad Sioraidd, er bod gan rai ohonynt linach frodorol, ac mae o leiaf un ohonynt yn arddull ‘fila’ Fictoraidd. Mae bythynnod unllawr brodorol gweithwyr hefyd i’w gweld yn yr un modd ag ychydig o dai o ddiwedd yr 20fed ganrif yn West Williamston. Lleolir ffermdy lled-adfeiliedig o ddiwedd y 18fed ganrif yn Nhrenewydd Caeriw. Mae’r ddau bentrefan yn cadw eu swyddogaeth amaethyddol. Mae gan y rhan fwyaf o’r ffermydd amrywiaeth helaeth o adeiladau allan wedi’u hadeiladu o garreg, a thra bod y rhan fwyaf o’r rhain yn parhau i gael eu defnyddio, mae rhai ohonynt wedi’u troi’n dai, ac eraill ddim yn cael eu defnyddio neu’n adfeiliedig. Mae rhes ddeulawr gain o ddiwedd y 18fed ganrif yn gorwedd ym mhentref Trenewydd Caeriw. Mae adeiladau amaethyddol modern hefyd i’w gweld. Ar wahân i glystyrau bach o goed collddail ar hyd ochrau’r afonydd ac mewn ychydig o geudodau wedi’u cysgodi, ni chaiff yr ardal ei nodweddu’n gryf gan goetir. Mae olion y diwydiant cloddio calchfaen yn helaeth ar hyd glannau’r afonydd, a rennir gan gamlesi cychod. Mae chwarel fawr o’r 20fed ganrif i’w gweld yn yr ardal hon. Er bod nifer o safleoedd archeolegol, mae bron pob un ohonynt yn gysylltiedig â’r diwydiant cloddio calchfaen, a’r eithriadau yw dau feddrod crwn o’r oes efydd a bryngaer fach o’r oes haearn. Nid oes unrhyw adeiladau rhestredig yno.

Yn amlwg, caiff yr ardal hon ei diffinio’n dda i’r gogledd, y gorllewin a’r de gan lannau uchaf dyfrffordd Aberdaugleddau. I’r gogledd ddwyrain, mae hanfod diwydiannol cryf, ond nid oes ffin galed a phendant rhyngddo a’r ardal hon. I’r dwyrain, nid yw’r ardal wedi’i diffinio hyd yn hyn, ond mae’n amlwg bod y nodweddion cyffredinol yma yn debyg i rai West Williamston a Threnewydd Caeriw, er nad yw’r elfen o lain-gaeau yn bodoli.

Ffynonellau: Map degwm Plwyf Caeriw 1839; Hall et al. 2000; PRO D/BUSH/6/26 A 27; PRO D/EE/7/338; PRO D/ALLEN/5/105 7 107; Owen 1897