|
MAES AWYR CAERIW
CYFEIRNOD GRID: SN 054028
ARDAL MEWN HECTARAU: 123
Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad fewnol i’r de o Afon Gaeriw, mornant ar lannau uchaf
y Cleddau Ddu. Mae’n gorwedd yn gyfan gwbl o fewn plwyf Caeriw,
a oedd yn graidd i Farwniaeth ganoloesol Caeriw. Yn flaenorol, rhannwyd
yr ardal, sydd bellach yn gorwedd o dan faes awyr nas defnyddir, rhwng
demên Maenor Caeriw i’r gorllewin, a Sageston i’r dwyrain.
Daliwyd Sageston fel Maenor ‘Sagiston a Williamston Harvill’
yn uniongyrchol gan Syr John de Carew ym 1362 pan oedd yn un ffi marchog.
Cyn adeiladu’r maes awyr roedd hon yn ardal amaethyddol, gyda’r
demên flaenorol yn cael ei gosod mewn system o gaeau mawr. Gellid
priodoli’r broses o greu rhai o’r clostiroedd hyn i Syr John
Perrot, arglwydd o’r 16eg ganrif, am iddynt gael eu cofnodi mewn
arolwg ym 1592 yn dilyn ei atentiad i’r farwniaeth. Digwyddodd rhywfaint
o is-rannu erbyn amser map degwm 1839. Mewn cyferbyniad â hyn, roedd
yr ardal o fewn maenor Sageston, i’r de o bentref Sageston, yn cynnwys
llain-gaeau caeëdig a ddangosir ar fap ystad ym 1762. Roedd hyn yn
rhan o faenor Sageston. Ymddengys mai tameidiog oedd eu clostir ôl-ganoloesol
ac yn ôl pob tebyg, ymgymerodd tenantiaid unigol ag ef. Sefydlwyd
y maes awyr yn Cheriton Caeriw, fel Gorsaf Awyr Llyngesol Brenhinol Penfro,
ym 1915 fel maes awyr ar gyfer awyrlongau. Roedd yn un o nifer o safleoedd
tebyg a sefydlwyd o amgylch arfordir Prydain er mwyn gwrthwynebu’r
bygythiad cynyddol gan longau tanfor yr Almaen yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Ar y pryd, roedd y maes awyr yn cynnwys un sied fawr o ffrâm dur
ar gyfer awyrlongau, sawl adeilad pren a rhywfaint o lety ar ffurf pebyll
ar gyfer y criwiau awyr a’r criwiau ar lawr. Lleolwyd awyrennau
yn y maes awyr o fis Ebrill 1917 ymlaen. Codwyd siediau awyrennau cynfas
yng nghornel de-ddwyreiniol y maes awyr, i ffwrdd o’r sied awyrlongau
a phrif cyfadeilad yr orsaf, er mwyn gwasanaethu’r awyrennau a oedd
yn cymryd rhan mewn patrolau arfordirol. Erbyn 1919 roedd awyrennau wedi
disodli awyrlongau. Digomisiynwyd a chaewyd yr orsaf ym 1920 a gwerthwyd
llawer o’r tir fesul llain mewn arwerthiannau. Nid oes unrhyw un
o adeiladau gwreiddiol yr orsaf awyrlongau yn goroesi; dymchwelwyd y rhan
fwyaf ohonynt ar ôl cau’r orsaf, ond arhosodd rhai am dipyn
fel adeiladau amaethyddol. Ailgomisiynwyd ac ailenwyd y maes awyr yn Cheriton
Caeriw (er mwyn gwahaniaethu rhyngddo a Doc Penfro) ym 1938. Dechreuodd
y gwaith adeiladu ym 1938 ac erbyn y gwanwyn 1939 roedd siediau awyrennau
cynfas, cabanau dros dro a lleiniau glanio porfa. Adeiladwyd siediau awyrennau
haearn gwrymiog ac adeiladau bric mwy parhaol yn fuan ar ôl hynny,
a sefydlwyd y drefn glasurol o dair llain lanio galed sy’n cyd-gloi
ar ddechrau’r 1940au hefyd. Erbyn 1944, roedd y maes awyr yn cwmpasu
tua 128 hectar. Fel yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, defnyddiwyd y maes awyr
fel safle ar gyfer patrolau arfordirol a chwaraeodd ran bwysig yng ngweithgareddau
arfordirol yr Iwerydd, hyd nes i hedfan gweithredol ddod i ben ym 1942.
Ym 1942, daeth y safle yn Ysgol Radio Rhif 10, sef safle hyfforddi gweithredwyr
di-wifr criwiau awyr, a oedd i berfformio’r rôl hon tan ddiwedd
y rhyfel. Caeodd yr orsaf ym 1945.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae’r ardal hon yn cynnwys maes awyr o’r Ail Ryfel Byd. Dymchwelwyd
y rhan fwyaf o adeiladau’r maes awyr ac adeiladwyd ffordd osgoi
ar draws rhan ogleddol y safle. Mae rhai adeiladau wedi goroesi gan gynnwys
y twr rheoli, rhai blociau ymolchi a llochesi ymosodiadau o’r awyr,
yn ogystal â lleiniau glanio concrid a rhannau o’r ffyrdd
mynedfa. Mae defnydd diwydiannol i rai o’r adeiladau bellach, a
chynhelir marchnad dydd Sul ar y lleiniau glanio. Tir pori wedi’i
wella yw’r tir rhwng y lleiniau glanio.
Ffynonellau: Austin 1992; Austin 1993; Brock 1989; Map degwm Plwyf Caeriw
1839; Ludlow a Murphy 1987; Owen 1897; PRO D/BUSH/6/27; PRO D/BUSH/6/26
|