Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Aberdaugleddau >

ANGLE

CYFEIRNOD GRID: SM 862027
ARDAL MEWN HECTARAU: 290

Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad sy’n gorwedd ger pegwn gorllewinol penrhyn de Sir Benfro sy’n cynnwys pentref Angle a’i system o gaeau gysylltiedig. Mae’n gorwedd o fewn plwyf Angle, sydd yn ôl pob tebyg yn gydamserol â Maenor ganoloesol Angle. Mae Angle yn bentref cynlluniedig o ddyddiad ôl-goncwest tebygol, sydd yn ôl pob tebyg yn cyfoesi â sefydlu’r faenor tua 1100. Ymddengys y bu’r brif stryd yn nodwedd bwysig. Mae’n bosibl bod rhes gynlluniedig, a gynrychiolir o hyd gan ffiniau caeau cydechelinol syth i’r gogledd o’r brif stryd, yn rhan o gynllun dau gam ond mae’r cam cyntaf, yn ôl pob tebyg, yn dyddio’n union ar ôl y goncwest Eingl-Normanaidd. Gallai’r ffiniau i’r de o’r brif stryd gadw patrwm y caeau agored cynharach. Gellir gweld anheddiad rhes reolaidd o’r fath mewn mannau eraill yn Sir Benfro. Diffinnir ymyl deheuol y system caeau hon gan lwybr cynhanesyddol, o’r enw ‘The Ridgeway’, sy’n dilyn y prif ymyl o’r dwyrain i’r gorllewin ar draws de Sir Benfro. Diffinnir ymyl gogleddol y system caeau gan glogwyni serth i’r môr. Roedd maenor ganoloesol Angle yn un o arglwyddiaethau canol Arglwyddiaeth Penfro yn cynrychioli 2 ffi marchog. Roedd yn rhan o gyfran de Clare o Arglwyddiaeth Penfro pan gafodd ei rhannu ym 1247, ond mewn perthynas â materion gweinyddu, parhaodd i fod yn rhan o Benfro. Roedd y faenor o’r 14eg ganrif yn cynnwys 2 ½ gweddgyfair o dir. Yn ystod y cyfnod canoloesol diweddarach, ymddengys iddi gael ei rhannu’n ddwy faenor, ‘Angle’ a ‘Hall in Angle’. Tua 1600, roedd Angle ei hun o dan ddeiliadaeth Walter Rees, tra’r oedd Hall yn rhan o ddaliadau helaeth Perrott. Erbyn 1613, roedd y ddeiliadaeth gyfan yn nwylo Iarll Essex. Yn y pen draw, daeth Angle o fewn Ystad helaeth Cawdor o dan deulu Campbell o faenor Castell Martin. Ym 1805, caffaelwyd yr ystad gan John Mirehouse o Brownslade. Rhannwyd Angle ymhellach yn ardal o berchenogaeth eglwysig. Dosbarthwyd eglwys Angle i Briordy Benedictaidd ym Monkton, Penfro. Roedd yn bodoli fel rheithordy a ficerdy. Ym 1175-76, Gerallt Gymro oedd Rheithor Angle. Felly, roedd o leiaf tri deiliad o statws uchel o fewn y faenor sy’n rhannu’n dair rhan gyfatebol. Mae’r eglwys a’r tir llan rheithorol yn gorwedd i’r gogledd o’r brif ffordd, ac yn cynnwys ty caerog a cholomendy o ddiwedd yr oesoedd canol. Ymddengys fod ‘The Castle’, neuadd-dy gweinyddol o ddiwedd yr oesoedd canol i’r de o’r ffordd, yn cynrychioli cwymp Arglwydd Maenor Angle. Mae’r Neuadd, i’r dwyrain, yn eilaidd a gallai fod ar yr un safle â ‘Hall place in Angle’ o tua 1600. Mae rhywun yn byw ynddi hyd heddiw. Mae North Studdock a Hubberton yn ffermydd ôl-ganoloesol a sefydlwyd yn rhannol dros y caeau agored blaenorol. Ers hynny, plannwyd nifer gyfyngedig o gonwydd at ddibenion diogelu anifeiliaid hela a chysgodion rhag gwynt. Mae’r ardal wedi aros yn amaethyddol yn bennaf a dengys map degwm 1842 fod y pentref a’r llain-gaeau caeëdig yn debyg iawn i rai heddiw. Fodd bynnag, mae gan yr ardal leoliad strategol ac roedd caer ar ben y clogwyni, sef Caer Chapel Bay, a adeiladwyd ar dir a gaffaelwyd yn 1861 gan yr Adran Ryfel, yn amddiffyn yr Aber. Mae’r rhan fwyaf o’r gaer yn dyddio i’r 1890au ond parhaodd y gwaith datblygu hyd y Rhyfel Byd Cyntaf. Gwerthwyd y safle ym 1932 ac ers hynny, mae wedi mynd yn adfail. Yng ngogledd yr ardal mae melin wynt o’r 16eg ganrif wedi bod yn nodwedd amlwg yn y dirwedd ers blynyddoedd. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, newidiwyd y felin wynt yn safle amddiffyn, gyda Phencadlys y Frwydr, sy’n gysylltiedig â’r maes awyr milwrol i’r de o’r ardal. Mae tair gorsaf badau achub olynol, gyda llithrfeydd, o 1868 ymlaen, hefyd yn nodweddion arfordirol amlwg ar y dirwedd.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

 

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad hanesyddol Angle yn gorwedd ar hyd llawr ac ymylon dyffryn agored, gyda’i phen gorllewinol yn dod i ben ger traeth a chlogwyni môr agored Bae West Angle a’i phen dwyreiniol yn ymestyn i gors a thraethellau cysgodol Bae Angle. Dim ond ychydig o fetrau uwchben lefel y môr y mae llawr y dyffryn, ond mae’r ochrau yn codi’n araf i uchder o fwy na 50m. Mae Angle yn bentref unionlin, gyda’r rhan fwyaf o’r tai yn wynebu’r ffordd sy’n ymestyn ar hyd llawr y dyffryn, gyda chlwstwr llac o dai yn y pen dwyreiniol ym Mae Angle. Mae 25 o adeiladu rhestredig yno. Mae adeiladau hyn, gan gynnwys eglwys blwyf ganoloesol y Santes Fair gyda’i chapel ym mynwent yr eglwys, ‘The Castle’ – neuadd-dy adfeiliedig o ddiwedd yr oesoedd canol - ty caerog a cholomendy, wedi’u grwpio tua phen dwyreiniol y pentref. Mae’r bensaernïaeth ddomestig o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r 20fed ganrif yn y traddodiad Sioraidd yn bennaf, gyda muriau bondo ar lawer o’r tai yn rhoi arwydd pensaernïol nodedig i’r pentref. Mae sawl bwthyn unllawr brodorol hefyd i’w gweld. Yn ôl pob tebyg, cerrig wedi’u rendro â sment yw’r prif ddeunydd adeiladu, er bod o leiaf un ty o’r 19eg ganrif o friciau wedi’u peintio. Ceir tai unllawr a deulawr o’r ugeinfed ganrif mewn amrywiaeth o arddulliau a deunyddiau ymhlith yr anheddau hyn, ac maent yn cydweddu’n dda â hwy. Gorwedd y Neuadd, sydd wedi’i lleoli mewn gerddi, ychydig y tu allan i’r pentref, felly hefyd The Old Point House (adeilad brodorol o ddiwedd y 19eg ganrif), yr hen orsaf bad achub a’r orsaf newydd, a’r hen weithfeydd brics a thwr melin wynt o garreg a gafodd ei newid yn llwyfan gynnau peiriant. Roedd Caer Chapel Bay, y gaer olaf o’r rhai mawr a gynlluniwyd i ddiogelu dyfrffordd Aberdaugleddau, yn parhau i gael ei defnyddio tan ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, ac mae’n gorwedd ar y clogwyni ar ymylon gogleddol yr ardal hon. Lleolir bythynnod a adeiladwyd i wasanaethu’r gaer tua 1900 gerllaw. Mae ychydig o ffermydd a thai wedi’u gwasgaru ar draws y dirwedd. Ceir ychydig o geiau ffurfiol neu adeiladau morol eraill, heblaw glanfeydd bach, ym Mae Angle a llithrfa i hen chwareli a mannau angori yn West Angle. Mae maes parcio a maes carafannau/pebyll bach yn West Angle yn gwasanaethu’r diwydiant hamdden a thwristiaeth. Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn ymestyn o amgylch ymylon yr ardal hon. Y tu allan i’r pentref, mae’r dirwedd yn parhau yn amaethyddol. Mae’r caeau cul a hir sy’n ymestyn ar hyd ochrau’r dyffryn o’r pentref yn lleiniau caeëdig o system caeau agored ganoloesol yr hen gymuned. Gwrychoedd ar gloddiau yw’r prif fath o ffin, er bod waliau â morter i’w gweld yn achlysurol. Yn gyffredinol, mae’r gwrychoedd mewn cyflwr da. Mae coetir collddail ar ochr ddeheuol y dyffryn ac ar y llethrau arfordirol serth yn un o hanfodion pwysig y dirwedd. Mae’r rhan fwyaf o’r safleoedd archeolegol yn gysylltiedig â Chaer enfawr Chapel Bay ac yn cynnwys batrïau chwilolau, llwyfannau gynnau, gwylfâu a gosodiadau eraill. Ymhlith y safleoedd eraill ceir odynnau calch, safleoedd capeli canoloesol a lloriau o waith fflint cynhanesyddol.

Mae Angle yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol nodedig a chaiff ei diffinio’n glir ar dair ochr gan y môr. Ar yr ochr arall, nid yw’r diffiniad o’r ffin yn amlwg cystal, ond serch hynny, mae’n weddol glir er nad oes ymyl caled iddi.

Ffynonellau: Map degwm plwyf Angle 1842; Charles 1992; Howells 1993; James 2000; Kissock 1993; Kissock 1995; Ludlow 1997a: Ludlow 1997b; Owen 1918; Page and Scott 1998; PRO D/EE/7/338

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]