|
BENTON
CYFEIRNOD GRID: SN 001071
ARDAL MEWN HECTARAU: 155
Cefndir Hanesyddol
Mae hon yn ardal goediog fechan ar lan ddwyreiniol dyfrffordd Aberdaugleddau.
Fe’i lleolir ym mhlwyf Burton, a gynrychiolai ran wahanedig o Arglwyddiaeth
ganoloesol Penfro. Fodd bynnag, cynrychiolai’r ardal gymeriad hon,
a oedd yn cynnwys castell bach canoloesol Bentan a’i gyffiniau,
ffi’r marchog o fewn yr arglwyddiaeth a oedd yn eiddo i Farwniaeth
Castell Walwyn. Erbyn 1307, fe’i daliwyd yn Farwniaeth gan Thomas
de Roche, Arglwydd Llangwm. Roedd yn cynnwys 10 gweddgyfair o dir, a ddaliwyd
fel gwrogaeth a gwasanaeth marchog, ac un cwrtil – h.y. Castell
Benton – gyda gwerth o 2 swllt y flwyddyn. Ymddengys na fu Benton
erioed yn faenoraidd ac efallai na weithredodd fel maenor ar dreflan erioed,
ac mae’n debyg i’r ardal fod yn ardal goediog erioed. Tua
1600 roedd gan Benton, chwedl George Owen, “goedwigoedd yn perthyn
i wahanol fonheddwyr a oedd yn ddigonol i ddarparu tanwydd ar gyfer eu
tai a rhai coed ar gyfer eu hadeiladau”. Fel arall, mae hanes y
ddaliadaeth yn aneglur. Dywedir bod y castell, sy’n nodwedd weladwy
iawn yn y dirwedd, yn uchel uwchlaw’r ddyfrffordd, wedi cael ei
ddal a’i ddifrodi yn ystod y Rhyfel Cartref. Bu’n wag tan
1930 pan y’i hadferwyd at ddefnydd preifat, ac mae pobl yn parhau
i fyw ynddo heddiw. Mae’r ddyfrffordd hefyd yn bwysig wrth ddiffinio
cymeriad yr ardal hon. Mae ei fornentydd llanwol a’i chaerau wedi
cael eu defnyddio fel safleoedd anffurfiol i longau lwytho ynddynt ar
hyd yr oesoedd. Yn ystod y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif, roedd Port
Lion yn llwyfan glanio ar gyfer y fferi i Coedcanlas a’i chwareli
calchfaen, tra bod y fferi o Roose yn gwasanaethu Lawrenny Quay a Cosheston.
Dengys map y degwm 1840 ac Arolwg Ordnans 6” Argraffiad 1af 1869
sefyllfa sy’n debyg i sefyllfa heddiw gyda choetir parhaus bron
wedi’i wasgaru ar draws yr ardal.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae’r ardal hon bron wedi’i gorchuddio’n gyfan gwbl
â choetir ar lan ddwyreiniol dyfrffordd Aberdaugleddau. Mae glan
orllewinol y dyfrffordd yn codi’n serth yma bron i 100m, yn gyntaf
fel clogwyni caregog ac yna fel llethrau serth. Gorchuddir y llethrau
isaf ac ochrau dyffrynnoedd y llednentydd â choetir collddail, ond
mae planhigfeydd conifferaidd i’w gweld ar hyd y llethrau llai serth
ac ar y tir uwch. Mae sawl cae bach wedi’u cynnwys yn yr ardal.
Ar wahân i Gastell gwyngalchog Benton sy’n rhestredig â
Gradd II*, castell cerrig o’r 13eg ganrif sy’n uchel yn y
coetir, mae anheddiadau’n gyfyngedig i ddau hen bwynt fferi/allforio,
Port Lion a Roose Ferry. Erbyn hyn, nid oes gan y rhain swyddogaeth fasnachol,
ac nid oes llawer o adfeilion i ddangos eu pwysigrwydd blaenorol. Erbyn
hyn, maent yn gweithio fel pwyntiau mynediad ar y blaendraeth ar gyfer
lansio cychod bach, gan fwyaf at ddibenion hamdden. Mae’r blaendraeth
yn cynnwys llain gul o garreg, clogfeini a mwd. Yn ogystal â Chastell
Benton, mae adeiladau’n cynnwys bwthyn ‘llyfr patrwm’
o’r 19eg ganrif yn Roose Ferry. Nid yw safleoedd archeolegol yn
elfen fawr o’r ardal hon. Fodd bynnag, mae sawl carnedd wedi’i
losgi o’r oes efydd – safleoedd anheddau posibl – o
fewn y coetir, yn ogystal â safle bwthyn o’r 19eg ganrif.
Ffynonellau: Map degwm Plwyf Burton 1840; King 1988; Leach 1937; Arolwg
Ordnans 6” Argraffiad Cyntaf XXXIV 1869; Owen 1918; Rees 1975
|