|
LLANGWM
CYFEIRNOD GRID: SM 991093
ARDAL MEWN HECTARAU: 62
Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad fach sydd wedi’i lleoli yn rhannau uchaf dyfrffordd
Aberdaugleddau, yn cynnwys anheddiad Llangwm. Fe’i lleolir ym mhlwyf
Llangwm sydd, mae’n debyg yn gydamserol â mesne canoloesol
arglwyddiaeth Llangwm. Roedd yn ddaliadaeth i’r de Vales tan iddo
ddod i feddiant un o deulu’r Roche, Gilbert de la Roche tua diwedd
y 13eg ganrif. Bu ei berthynas gydag Arglwyddiaeth Haverford, lle lleolir
y ddaliadaeth, yn destun anghydfod erioed. Yn ddiweddarach, aeth y faenor,
trwy etifeddiaeth, i’r Longuevilles, y Ferrers ac Iarll Essex yn
yr 16eg ganrif. Ni cheir tystiolaeth am leoliad canolfan y faenor, ond
tua 1600, roedd gan Langwm, chwedl George Owen ‘goedwigoedd yn perthyn
i wahanol fonheddwyr a oedd yn ddigonol i ddarparu tanwydd ar gyfer eu
tai a rhai coed ar gyfer eu hadeiladau’, gyda’r mwyafrif ohonynt,
mae’n debyg y tu allan i’r ardal hon. Ymddengys fod y dreflan
ganoloesol, fel yr anheddiad presennol wedi’i chlystyru o amgylch
eglwys y plwyf, na restrwyd yn 1291 a hwyrach iddi gael ei sefydlu ym
mlynyddoedd cynnar y 14eg ganrif. Erbyn canol y 19eg ganrif, ar y map
degwm, roedd pentref Llangwm yn cynnwys cnewyllyn bach wedi’i ganoli
o gwmpas eglwys y plwyf. Amgylchynwyd y pentref gan gaeau hir a chul sef
hen system o gaeau agored a amgaewyd. Cafwyd ail gnewyllyn o anheddiadau
yn Black Tar. Yn ystod ail hanner y 19eg ganrif ac yn gynnar yn ystod
yr 20fed ganrif, ehangodd y pentref yn sylweddol, yn arbennig o amgylch
Caer Llangwm, er mwyn gwasanaethu diwydiant mwyngloddio glo’r ardal
a oedd yn tyfu. Mae datblygiadau tai o gyfnod diweddarach yn yr 20fed
ganrif a’r 21ain ganrif wedi arwain at dwf pellach y pentref.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Yn ei hanfod, mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Llangwm yn cynnwys
pentref Llangwm a Black Tar, y blaendraeth a’r caeau cyfagos hynny
sydd wedi cadw nodweddion llain-gaeau – gweddillion hen gaeau agored
Llangwm. Canolir craidd hanesyddol y pentref ar eglwys blwyf ganoloesol
St Sierôm sy’n rhestredig â Gradd B a llain neu sgwâr
y pentref. Ceir bythynnod a thai o’r 19eg ganrif wedi’u clystyru
o amgylch y llain, gyda’r mwyafrif o enghreifftiau yn nhraddodiad
brodorol yr ardal – wedi’u codi o gerrig a’u rendro
â choncrid, ag iddynt doeau llechi a â ffenestr grom yn bennaf.
Saif capel o’r 19eg ganrif ar un ochr y llain, a rhydd adeiladau
ffermydd a godwyd o gerrig a leolir yma ac acw, ymdeimlad amaethyddol
i’r anheddiad. Mae’r tai sydd ar y strydoedd a’r dynesfeydd
i’r maes ac yn agos i Gaer Llangwm wedi’u hadeiladu mewn amrywiaeth
o arddulliau, gan gynnwys tai teras o gerrig o ddiwedd y 19eg ganrif a
thai sengl o’r 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif. Lleolir
ail gapel oddi wrth graidd hanesyddol y pentref. Mae tai modern yn cynnwys
ystadau tai bach wedi’i lleoli ar gyrion y pentref i’r gogledd,
i’r de ac i’r dwyrain. Mae’r defnydd o frics mewn teras
bach ddiwedd y 19eg ganrif yng Nghaer Edward yn anghyffredin ar gyfer
y rhan hon o Sir Benfro. Mae sawl safle sy’n addas i lanio a phwyntiau
mynediad i’r blaendraeth lleidiog a charegog, ond dim llawer o ran
ceiau neu lanfeydd ffurfiol. Nid oes prin ddim ar y blaendraeth sy’n
dangos bod Llangwm wedi bod yn borthladd pwysig ar gyfer allforio glo.
Mae cyfleusterau ar gyfer twristiaeth a gweithgareddau hamdden, yn arbennig
chwaraeon dwr, yn elfen o’r ardal, gyda pharc carafannau, meysydd
parcio a thoiledau cyhoeddus ar gael. Mae cloddiau wedi’u gorchuddio
â gwrychoedd yn amgylchynu sawl cae bychan yn agos i’r pentref
yn yr ardal hon. Yn gyffredinol, mae gwrychoedd mewn cyflwr da, er bod
rhai yn dechrau tyfu’n wyllt. Defnyddir y tir gan fwyaf, fel porfa
wedi’i gwella. Nid yw archeoleg yn elfen gref o’r dirwedd
hanesyddol, ond mae’n cynnwys safle melin a safle anheddiad canoloesol.
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Llangwm wedi’i diffinio’n
gymharol dda. Mae ei natur ddatblygedig yn gwrthgyferbynnu â’r
ffermydd a chaeau cyfagos. Fodd bynnag, nid yw’n hawdd diffinio’r
union ffin sydd rhwng caeau’r ardal hon a chaeau’r ardaloedd
cyffiniol. Yma, ceir rhanbarth o newid yn hytrach na ffin bendant.
Ffynonellau: Map degwm Plwyf Llangwm 1841; Ludlow 1998; Owen 1897; Rees
1975
|