Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Aberdaugleddau >

ROSEMARKET

CYFEIRNOD GRID: SM 948083
ARDAL MEWN HECTARAU: 117

Cefndir Hanesyddol
Mae hon yn ardal gymeriad fechan sy’n cynnwys pentref a chaeau Rosemarket. Roedd Maenor ganoloesol Rosemarket, sy’n cyd-ddyddio â’r plwyf, ar y cychwyn yn aelod o Arglwyddiaeth Haverford. Mae’n amlwg iddo fod o dan gyd-dirddaliadaeth, pan yn c.1145 fe’i cyflwynwyd, ynghyd ag eglwys y plwyf, i Ysbytwyr Slebets gan y marchogion William FitzHait, Robert FitzGodebert a Richard FitzTancard. Parhaodd yr awdurdod i fod yn nwylo’r Arglwyddiaeth Haverford. Derbyniodd Slebets £24 yn flynyddol gan y faenor yn 1338. Ni ddeellir pwrpas lloc cloddwaith mawr ym mhen deheuol y pentref yn llawn. Gallai gynrychioli bryngaer o’r oes haearn, ond awgryma morffoleg y pentref iddo gael ei ailddefnyddio fel castell yn ystod y cyfnod canoloesol. Fe’i lleolir gerllaw eglwys y plwyf, ac mae trefniant cynlluniedig o dair stryd gyfochrog yn arwain i’r gogledd ohoni. Ymddengys na chafodd ei atgyfnerthu mewn carreg erioed ac, erbyn diwedd y 17eg ganrif o leiaf, roedd wedi cael ei ddisodli gan blasty. Safai hwn gyferbyn â’r eglwys lle lleolir Cross Farm heddiw. Yn ystod y diddymiad, disgynnodd y faenor i’r goron ond tua diwedd yr 16eg ganrif, cipiodd Morys Walter reolaeth dros nifer o’r rhandiroedd a dros lawer o’r tir ac yn y diwedd, cipiodd y faenor. Parodd y faenor yn nwylo’r teulu Walter nes yn gynnar yn y 18fed ganrif. Ymddengys ei fod wedi’i isrannu cyn 1735 pan osododd y teulu Walter ‘y prif fesiweisiau o’r enw Neuadd Walter a Neuadd Rosemarket’ ar brydles i William Owen o Landshipping. Fel y nodir uchod, gorwedda neuadd Walter o dan y Cross Farm presennol. Saif colomendy, sy’n dyddio, mae’n debyg yn gynnar o’r 17eg ganrif, yn y cae cyfagos. O ffynonellau dogfennol, ymddengys erbyn diwedd y cyfnod canoloesol, fod Rosemarket yn gymuned amaethyddol fechan wedi’i chanoli ar y pentref ac wedi’i hamgylchynu gan systemau caeau agored gyda thir comin tuag at ffiniau’r plwyf. Disgrifia Howells y modd y llwyddodd Morys Walter i ennill rheolaeth dros nifer o’r rhandiroedd. Amgaeodd y caeau comin a throdd dir âr yn borfa, llechfeddiannodd ac amgaeodd dir comin Ei Mawrhydi gan adael i dai fynd rhwng y cwn â’r brain. Yn ôl arolwg degwm 1843, ymddengys i’r pentref fod mewn cyflwr llewyrchus. Gallai’r system o gaeau bach, cymharol rheolaidd sy’n agos at y pentref fod yn ganlyniad i weithred Walter o gau tiroedd. Fodd bynnag, dengys caeau hirgul amgaeëdig ar fap y degwm bod y caeau agored wedi’u cau mewn modd mwy darnog, efallai mor hwyr â’r 18fed ganrif. Erbyn hyn, mae’r llaingaeau hyn wedi’u huno gan fwyaf yn gaeau hirsgwar, a’r unig gliw gwirioneddol i’r caeau agored gynt a erys yw enwau lleoedd megis y fferm o’r enw Westfield. Dengys mapiau o’r ddeunawfed ganrif fod anheddu yn y pentref yn wasgarog iawn. Roedd anheddau wedi’u gwasgaru ymhell oddi wrth ei gilydd ar hyd y tair stryd hyn. Mewnlenwyd llawer o’r gofod hwn yn ystod yr 20fed ganrif. Arferai ardal fechan o dir comin a oroesodd fod yn union i’r gogledd o’r pentref. Mae llinell rheilffordd GWR Hwlffordd-Neyland a agorwyd ym 1856 ac a gaewyd yn y 1960au yn croesi’r ardal, ond ni wasanaethwyd y pentref gan orsaf.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Rosemarket yn ei hanfod yn cynnwys pentref bach ynghyd â’i gaeau cymdogol, a choetir collddail ar lethrau coediog serth. Gorwedda ar draws dyffryn ag ochrau serth ac i’r gogledd o’r dyffryn hwnnw. Mae’r tir sydd uwchlaw’r dyffryn yn fryniog, ond yn wynebu’r de, a gorwedda rhwng 40m a 60m uwchlaw lefel y môr. Mae gan y pentref forffoleg gynlluniedig, gyda phrif stryd wedi’i chyfunioni o’r gogledd-de rhwng dwy stryd gyfochrog, un i’r gorllewin ac un i’r dwyrain. Mae eglwys ganoloesol Llanismel, a’r castell posibl mewn safle echelinol ar ben deheuol y brif stryd. Mae’r stryd hon wedi’i lleoli rhwng dwy stryd arall sy’n ffurfio ‘lonydd cefn’, er efallai, nid yn yr ystyr ffurfiol. Serch hynny, mae’n bosibl bod crofftydd a thofftydd wedi’u gosod allan rhwng y strydoedd mewn system a ymdebygai i blotiau bwrdais trefol. Mae’r mwyafrif o’r tai sy’n wynebu’r stryd yn dai sengl ac yn amrywio yn ôl eu cymeriad a’u dyddiad, gydag anheddau o’r 19eg ganrif ag un neu ddau lawr, wedi’u hadeiladu o garreg, â thoeau llechi sydd at ei gilydd yn yr arddull frodorol, wedi’u gwasgaru ymhlith tai a byngalos o ddiwedd yr 20fed ganrif. Ceir hefyd ddatblygiadau tai ar raddfa fechan o’r 20fed ganrif. Mae sawl adeilad fferm wedi’u hadeiladu o garreg yn y pentref yn rhoi gwedd amaethyddol i rannau o’r anheddiad. Mae ty tafarn a chapel yma. Yn gyffredinol, mae’r ffermydd sydd yn yr ardal hon yn fach. Y colomendy o gerrig sy’n rhestredig â gradd II* ar gyrion y pentref, gerllaw’r cyn blasty yw’r unig adeilad rhestredig. Daw’r pentref i ben yn ddirybudd ar yr ochr ddeheuol yn erbyn dyffryn ag ochrau serth sydd â mantell drom o goetir collddail. Yn ddiweddar, mae llinell rheilffordd segur sy’n rhedeg i lawr y dyffryn wedi’i haddasu yn ffordd ar gyfer beiciau. Mae caeau bach o borfa wedi’u gwella i’r gorllewin, i’r gogledd ac i’r dwyrain o’r pentref. Mae llawer o’r gwrychoedd sy’n amgylchynu’r caeau wedi tyfu’n wyllt, ac mae hyn ynghyd â’r coetir yn rhoi agwedd goediog i’r ardal. Mae safleoedd archeolegol yn cynnwys bryngaer/safle castell o’r oes haearn, ym mhen deheuol y pentref, safle sawl melin, gan gynnwys melin bannu, ffynnon gysegredig a’r hen reilffordd.

Nid yw’n hawdd diffinio ffiniau ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Rosemarket. Yn ei hanfod, mae’r ardal hon yn ffurfio ardal ragod rhwng ffermydd mawr gyda chaeau mawr rheolaidd i’r de a thirwedd fwy toredig gyda ffermydd llai, caeau llai a chlystyrau bach o goetir i’r gogledd.

Ffynonellau: Howells 1955-56; Jones 1996; King 1988; Ludlow 1998; PRO D/LLW/30956; Rees 1897; map degwm Plwyf Rosemarket 1843; Arolwg Ordnans 6” Argraffiad Cyntaf. Taflen XXXSE, 1869

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]