|
LLECYN ARFORDIROL MONK HAVEN I GELLISWICK
CYFEIRNOD GRID: SM 821063
ARDAL MEWN HECTARAU: 65
Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad sy’n cynnwys llecyn arfordirol cul ym mhlwyfi Llanismel
a Herbrandston. Yn hanesyddol, bu’r llecyn arfordirol hwn yn dir
ymylol erioed, y tu hwnt i ffiniau tir amaethyddol. Yn y gorffennol, fe’i
defnyddiwyd fel tir pori garw, ond ei brif swyddogaeth erbyn hyn yw gweithredu
fel coridor ar gyfer Llwybr Arfordir Sir Benfro, wedi’i leoli rhwng
tir amaethyddol a ffiniau clogwyni’r môr. Fodd bynnag, mae’n
cynnwys sawl cyn safle anheddu gan gynnwys sawl caer bentir o’r
oes haearn. Nid oes llawer o leoliadau sy’n addas ar gyfer glanio
cychod bach ar hyd y rhan hon o glogwyn arfordirol. Ceir eithriadau yn
Monk Haven a Sandy Haven – ymdrinnir â Sandy Haven mewn ardal
ar wahân. Monk Haven oedd man glanio Llanismel. Hefyd, lleolir sefydliadau
sy’n ymwneud â morwriaeth ac amddiffyn o fewn y llecyn arfordirol
hwn. Mae goleudai wedi’u marcio ar fapiau ystad ddiwedd y 18fed
ganrif ar Little Castle Head, ond yn y 1870au ac o ganol i ddiwedd yr
20fed ganrif oedd prif gyfnodau’r adeiladu. Yn yr ardal hon, cynhwysir
caer Stack Rock a adeiladwyd yn wreiddiol fel twr tri gwn yn 1850-52,
a ehangwyd yn gaer ym 1871, ac a gâi ei defnyddio hyd at ddiwedd
y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, adeiladwyd nifer o sefydliadau
milwrol. Cafwyd mwyngloddio a chwarela hefyd ar y llecyn arfordirol hwn.
Gellir gweld chwareli bach o hyd, ond nid oes golwg o’r mwyngloddiau
copr a nodir ar fapiau’r 18fed ganrif. Mae glanfeydd sy’n
dyddio o’r 20fed ganrif o derfynfeydd tanceri olew wedi’u
hadeiladu hefyd yn rhan ddwyreiniol yr ardal.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae’r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon yn cynnwys llecyn tua
8 km o hyd o glogwyn arfordirol uchel o garreg galed wedi’i orchuddio
â band cul o rostir, prysgwydd a thir garw. Rhed Llwybr Arfordir
Sir Benfro ar hyd yr ardal gyfan hon. Er mai llecyn cul iawn o dir ydyw,
weithiau dim ond metr neu ddau o led, mae’r ardal hon yn wahanol
iawn i’r tir amaethyddol a/neu’r safleoedd diwydiannol sy’n
cydffinio â hi. Am rannau maith, nid oes cysylltiad rhwng y caeau
amaethyddol a’r/neu’r safleoedd diwydiannol a’r llecyn
arfordirol. Yn ei hanfod, nodweddir tirwedd hanesyddol y llecyn arfordirol
gan ei safleoedd archeolegol niferus ac amrywiol. Y rhai amlycaf a phwysicaf
o’r rhain yw sawl caer bentir o’r oes haearn, megis Great
Castle Head a Little Castle Head. Yn Great Castle Head ceir yr unig adeilad
preswyliedig yn yr ardal hon sef goleudy a’i annedd. Mae marcwyr
morwriaeth, hen a modern i’w gweld yn Little Castle Head ac yn yr
ardal gyfagos. Mae safleoedd eraill yn cynnwys sawl sefydliad amddiffyn
arfordirol o’r Ail Ryfel Byd, y mwyaf nodedig yw magnelfeydd gynnau
a magnelfeydd chwiloleuadau, safleoedd chwareli a mwyngloddiau, nifer
o weithfeydd carreg fflint cynhanesyddol a mynwent ganoloesol gynnar ger
Llanismel. Mae’r magnelfeydd gynnau, yn arbennig Soldier’s
Rock yn elfennau arbennig o weledol o’r dirwedd hanesyddol. Mae’r
gaer alltraeth amlwg hon o’r 19eg ganrif sef Stack Rock wedi’i
chynnwys yn yr ardal hon.
Mae hon yn ardal nodedig a diffiniedig iawn. Mae ganddi ffiniau ag ochrau
caled â’r tir fferm a’r safleoedd diwydiannol a leolir
i gyfeiriad y tir.
Ffynonellau: Crane 1994; Murphy and Allen 1998; Hague 1994
|