Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Newport a Carningli>

 

FFORDD CILGWYN

FFORDD CILGWYN

CYFEIRNOD GRID: SN 067380
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 34

Cefndir Hanesyddol

Ardal fach o sir Benfro ar ei ffurf fodern, yn cynnwys darn cul o dir amgaeedig yn gorwedd ar lethrau is ochr ogledd-ddwyreiniol Mynydd Carningli. Gorwedda o fewn cantref canoloesol Cemaes. Dygwyd Cemaes o dan reolaeth yr Eingl-Normaniaid yn oddeutu 1100 gan y teulu Fitzmartin a bu ym meddiant y teulu hwnnw, fel Barwniaeth Cemaes, tan 1326, pan gawsant eu holynu gan y teulu Audley. Roedd y Farwniaeth yn rhannu yr un ffiniau â chantref Cemais, a grëwyd yn ddiweddarach yn 1536, ond goroesodd llawer o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal, rhai mor hwyr â 1922. Mae’r ardal yn gorwedd ar hyd ymyl ogleddol rhostir heb ei amgáu ar Fynydd Carningli ac mae’n debygol fod yr ardal hon hefyd heb ei hamgáu yn ystod y cyfnod canoloesol, gan ffurfio rhan o’r comin (gweler ardal gymeriad Carningli). Nid oes tystiolaeth amlwg o gaeau cynharach yn ardal gymeriad Ffordd Cilgwyn ond cofnodwyd systemau caeau cynhanesyddol ar Fynydd Carningli. Daliwyd y comin yn uniongyrchol gan Arglwyddi Cemaes, ond yn 1278 cyhoeddodd Nicholas Fitzmartin siarter, yn pennu ffiniau’r fwrdeistref ac yn rhoi i’r bwrdeiswyr yr hawl i bori cyffredin dros ‘all my land wet and dry, moors and turbaries’ ar Fynydd Carningli. Ymddengys bod yr ardal hon wedi gorwedd o fewn y tir comin, nas amgaewyd tan yn weddol hwyr yn y cyfnod ôl-ganoloesol. Mae map o 1785 sy’n darlunio tir i’r gogledd yn nodi bod o leiaf ran o’r dirwedd hon yn dir ‘comin’. Byddai hyn yn awgrymu bod y patrwm o ffermydd bach, tai a chaeau wedi tarddu o gyfnod rhwng 1758 ac arolwg y degwm yn 1844, sy’n dangos tirwedd sy’n debyg i’r dirwedd heddiw. Mae’r system caeau o siâp rheolaidd yn awgrymu proses drefnus o amgáu tir ac anheddu, yn hytrach nag anheddu gan sgwatwyr, ond gellir gweld y ddwy broses yn ardal gyfagos y Garn Parke. Ymddengys bod Ffordd Cilgwyn, sy’n croesi’r ardal, yn dilyn llwybr canoloesol sefydledig yn arwain i Eglwys Santes Fair, Cilgwyn, capel gorffwys i eglwys y plwyf yn Nhrefdraeth.

FFORDD CILGWYN


Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae hon yn ardal dirwedd hanesyddol gymharol fach ar lethrau sy’n wynebu i’r gogledd a’r gogledd-ddwyrain ar 50m a 140m o uchder o amgylch Ffordd Cilgwyn. Gorwedda rhwng y caeau a’r ffermydd mwy o faint islaw a’r rhostir agored ar Fynydd Carningli uwchlaw. Mae’n ardal gymharol fach sy’n cynnwys caeau bach o siâp rheolaidd a dosbarthiad eithaf dwys o dai. Cymysgedd o borfa wedi’i gwella a heb ei gwella yw’r prif ddefnydd tir. Mae ychydig o gaeau wedi troi’n borfa fwy garw unwaith eto. Cloddiau â wyneb garreg a gwrychoedd yn tyfu arnynt yw’r ffiniau yn bennaf. Maent yn ffiniau cadw stoc ar y cyfan ond mae llawer wedi tyfu’n wyllt. Mae’r rhain a’r coed bach niferus sy’n ffurfio llinell gwrychoedd yn rhoi naws goediog i rannau o’r dirwedd. Daliadau amaethyddol bach yw’r prif fath o anheddau, ond ymddengys mai ychydig sy’n cael eu ffermio erbyn hyn. Mae’r defnydd cyffredinol o’r garreg leol, sef dolerit, fel defnydd adeiladu a llechi ar gyfer toeau ynghyd â’u dyddiad adeiladu, sef canol neu ddiwedd y 19eg ganrif yn creu ymddangosiad unedig i’r tai. Ceir bythynnod unllawr, gan gynnwys enghraifft frodorol restredig gyda llofft, ond y prif fath o dyˆ yw tai deulawr neu dri llawr a thair ffenestr fae wedi’u hadeiladu mewn traddodiad ‘Sioraidd’ cain yn fras. Ceir terasau byr, ar wahân, gyda’r rhan fwyaf o dai yn gorwedd ar hyd y ffordd a elwir yn Ffordd Cilgwyn. Mae’r tai yn fwy nag sy’n arferol mewn tirwedd amaethyddol ymylol uwchdirol, gan awgrymu bod y deiliaid yn y 19eg ganrif yn gallu cael gwaith arall yn y dref gyfagos, Trefdraeth. Mae’r stoc tai mewn cyflwr da, gyda llawer o anheddau wedi’u hadnewyddu’n ddiweddar, ac mae rhesi bach o adeiladau fferm o garreg sy’n gysylltiedig â’r anheddau wedi cael eu haddasu at ddefnydd preswyl neu ddefnydd nad yw’n ymwneud ag amaethyddiaeth. Fodd bynnag, mae yna rai ffermydd gweithredol sy’n cadw eu hadeiladau carreg traddodiadol, yn ogystal â’r adeileddau a godwyd o ddalennau gwrymiog yn yr 20fed ganrif. Ymhlith yr ychydig safleoedd archeolegol yn yr ardal hon mae ffynnon iachusol o’r cyfnod canoloesol.

Mae i ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Ffordd Cilgwyn ffin bendant â’r rhostir agored i’r gorllewin, ond i’r cyfeiriadau eraill nid oes modd pennu ffin yn fanwl gywir.


Ffynonellau: Miles 1995; Llyfrgell Genedlaethol Cymru Llwyngwair Map 11 (1758); map degwm Plwyf Trefdraeth 1844

MAP FFORDD CILGWYN

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221