Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Newport a Carningli>

 

HOLMHOUSE - TYCANOL

HOLMHOUSE - TYCANOL

CYFEIRNOD GRID: SN 043387
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 446

Cefndir Hanesyddol

Ardal fawr o sir Benfro ar ei ffurf fodern, yn cynnwys y gwastadedd arfordirol rhwng Mynydd Carningli a’r clogwyni tua’r gogledd, o amgylch Trefdraeth. Mae’n cynnwys caeau hirgul pedrongl, o dir âr a thir pori, yn bennaf. Mae’r ffaith bod nifer o gofebau, gan gynnwys maen hir a phâr o gerrig o bosibl, yn awgrymu ei bod yn dirwedd ddefodol bwysig yn ystod yr oes neolithig a’r oes efydd, a hynny o fewn golwg bryngaer Carningli, cofebau uwchdirol eraill, a safleoedd arfordirol. Gorwedda’r ardal o fewn cantref canoloesol Cemaes. Dygwyd Cemaes o dan reolaeth yr Eingl-Normaniaid yn oddeutu 1100 gan y teulu Fitzmartin a bu ym meddiant y teulu hwnnw, fel Barwniaeth Cemaes, tan 1326, pan gawsant eu holynu gan y teulu Audley. Roedd y Farwniaeth yn rhannu yr un ffiniau â chantref Cemais, a grëwyd yn ddiweddarach yn 1536, ond goroesodd llawer o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal, rhai mor hwyr â 1922. Roedd y rhan fwyaf o’r ardal gymeriad hon yn gorwedd o fewn ffiniau bwrdeistref Trefdraeth, sydd, yn ôl siarter yn 1278, yn rhannu yr un ffiniau fwy neu lai â phlwyf Trefdraeth, ac roedd yn dir yr oedd gan y bwrdeiswyr hawl tir comin drosto. Ymddengys nad oedd y bwrdeiswyr yn talu rhenti na thollau, sydd o bosibl yn drefn a etifeddwyd o’r system deiliadaeth Gymreig a fodolai cyn hynny. Ymddengys bod llawer o’r caeau yn yr ardal hon yn llain-gaeau, ac fe’u darluniwyd felly ar fap yn 1758. Bryd hynny i’r gorllewin o’r dref roedd y caeau yn dal heb eu hamgáu ar y cyfan, gyda lleiniau hirgul yn ymestyn o’r dref i’r gorllewin hyd at ffin y plwyf ac o’r môr i un neu ddau gan metr i’r de o ffordd yr A487(T). I’r dwyrain o’r dref ac mewn ardaloedd bach i’r gorllewin ymhlith y lleiniau gorweddai caeau bach, y mae eu siâp hirgul yn dangos iddynt gael eu hamgáu o flociau o nifer o lain-gaeau. Fodd bynnag, nid oes dim tystiolaeth glir mai caeau agored âr oedd y llain-gaeau hyn. Yn wir, datgelodd gwerthusiad archeolegol yn 2001 haen fas iawn o uwchbridd nad oedd yn dangos unrhyw dystiolaeth iddi gael ei haredig dros gyfnod hir; at hynny cofnodwyd gan Thomas Phaer, yn 1552, fod ardal Trefdraeth yn ‘bare in corn but plenty enough in cattle’. Felly efallai mai rhaniadau tir yw’r lleiniau hyn yn ôl mathau brodorol o ddeiliadaeth, fel yn y llain-gaeau ym Mhenmaen Dewi a Phen Caer. Yng nghanol yr ardal, ochr yn ochr â ffordd yr A487(T) - llwybr sy’n dyddio o’r canoloesoedd a chyfnod cynharach - safai Capel Dewi, sef capel canoloesol i bereririon, ond ymddengys mai anaml y mae capeli o’r fath yn gysylltiedig ag unrhyw fath o anheddiad. Hefyd o fewn yr ardal gorweddai dau hen ddaliad demên, a grybwyllwyd hefyd yn siarter 1278, y mae’r naill a’r llall wedi’u hamgylchynnu gan glytwaith o gaeau mwy. Mae demên Rhigian, ar wastadedd yr arfordir, yn gorwedd mewn cwm ac mae’n cynnwys caeau o siâp afreolaidd. Mae Parc-y-marriage yn gorwedd ar lethrau Carningli ac mae’n cynnwys caeau mwy rheolaidd eu siâp, sydd o bosibl yn deillio o gyfnod diweddarach. Mae yna gyfeiriad at Holmhouse, yng nghanol yr ardal, yn 1276 pan oedd ym meddiant y bwrdeisiwr William Pecke, o Drefdraeth; yn ddiweddarach roedd yn dyˆ bonheddwr ac mae wedi datblygu’n ddwy fferm erbyn hyn. Gorwedda hwn hefyd o fewn ardal fach o gaeau bach ag iddynt siâp afreolaidd. Mae’n debyg i Parc-y-marriage a Holmhouse gael eu sefydlu ar y ffin rhwng y llain-gaeau a’r tir uwch heb ei amgáu i’r de. Mae’r patrwm o lain-gaeau yn ymestyn hyd at blwyf Dinas, sef ffi marchog yn y cyfnod canoloesol, a ddaliwyd gan Farnwriaeth Cemais drwy ddeiliadaeth Gymreig. Yn yr adran hon mae daliad arall o’r enw Trewreiddig, y mae ganddo ddyddiad canoloesol cofnodedig hefyd. Saif mewn lleoliad tebyg i Holmhouse a Parc-y-marriage. Y cymysgedd hwn o lain-gaeau canoloesol a ddaliwyd drwy ddaliadau cymunedol a demên gyda chaeau mwy rheolaidd eu siâp sydd wedi creu’r patrwm caeau unigryw hwn yn yr ardal hon. Dros y systemau cynharach hyn sefydlwyd ffermydd yn y 18fed ganrif megis Ty-canol, a greodd gaeau mawr ac iddynt siâp rheolaidd o’r llain-gaeau. Roedd y broses o amgáu tir a sefydlu ffermydd ar fin dod i ben erbyn yr arolwg degwm yn 1844 a dyma beth sy’n cyfrif am y dirwedd a welwn heddiw.

HOLMHOUSE - TYCANOL

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon yn cynnwys gwastadedd arfordirol tonnog. Mae’r tir yn tueddu i oleddfu o’r de, o Fynydd Carningli, i’r arfordir gogleddol. Mae’n dirwedd o gaeau a ffermydd. Tir pori wedi’i wella yw’r prif ddefnydd tir amaethyddol, gydag ychydig o dir âr a hyd yn oed llai o dir garw. Mae rhannau o’r ardal hon yn agored i’r gwynt ac felly nid yw coed yn nodwedd ohonynt: ychydig o wrychoedd mawr sydd ac yn yr unig goetir mae perthlysoedd bach prysgog o goed collddail mewn pantiau a chymoedd cysgodol. Ymhlith y defnydd tir nad yw’n ymwneud ag amaethyddiaeth mae gwersylloedd a meysydd carafanau. Mae ardaloedd bach o gaeau hirgul yn dyst i’r ffaith mai llain-gaeau oedd rhannau o’r ardal hon gynt. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o gaeau yn tueddu i fod yn fawr ac yn rheolaidd eu siâp. Cloddiau mawr â wyneb carreg a gwrychoedd yn tyfu arnynt yw’r ffiniau. Yn gyffredinol mae gwrychoedd wedi’u cynnal yn dda, gyda rhai enghreifftiau sydd wedi tyfu’n wyllt yn y lleoliadau mwyaf cysgodol. Mae daliadau amaethyddol yr ardal hon yn gymharol fawr, gyda’r mwyafrif wedi’u dosbarthu’n rheolaidd ar hyd y llethrau mwy serth sy’n wynebu i’r gogledd i’r de o ffordd yr A487(T) sy’n croesi o’r gorllewin i’r dwyrain. Mae ffermdai ac anhedd-dai eraill mewn amrywiaeth o arddulliau, wedi’u hadeiladau o garreg leol, ond yn aml wedi’u rendro â sment, gyda thoeau llechi. Ar y cyfan maent yn dyddio o’r 19eg ganrif. Un eithriad yw’r hen reithordy, Gelli Olau, tyˆ sylweddol tri llawr yn y traddodiad Sioraidd a adeiladwyd yn y 18fed ganrif. Mae Pen-y-feidr, sef yr unig dyˆ tri llawr arall yn yr ardal, hefyd wedi’i adeiladu yn y traddodiad Sioraidd cain, ond mae’n dyddio o ganol y 19eg ganrif. Mae adeiladau amaethyddol cerrig yn gysylltiedig ag ef, wedi’u gosod yn anffurfiol o amgylch y buarth. Mae rhai o’r rhain yn dyddio o ddechrau’r 19eg ganrif ac maent yn adeiladau deulawr, mae eraill yn dyddio o’r un ganrif ond yn ddiweddarach. Ceir enghreifftiau o dai yn dyddio o ganol y 19eg ganrif yn y traddodiad brodorol ac yn yr arddull Sioraidd. Ceir tai o’r 20fed ganrif hefyd. Mae gan y rhan fwyaf o ffermydd un neu ddwy o resi o adeiladau allan o gerrig a adeiladwyd yn y 19eg ganrif ac adeiladau amaethyddol dur, concrit ac asbestos a adeiladwyd yn yr 20fed ganrif, ond nid yw’r rhain yn elfennau amlwg yn y dirwedd fel y ceir mewn rhai ardaloedd tirwedd hanesyddol amaethyddol. Ceir sawl pont hanesyddol fach ar hyd y brif ffordd, gan gynnwys enghraifft restredig o 1811. Mae safleoedd archeolegol yn niferus ac yn amrywiol, ond nid ydynt yn nodwedd gref o’r dirwedd hanesyddol, ac eithrio dau faen hir o’r oes efydd a beddrod siambr neolithig Carreg-y-Gof. Ymhlith y safleoedd eraill mae ffynnon sanctaidd, safle carreg arysgrifenedig o’r oes dywyll a safle capel canoloesol.

I’r gogledd yn erbyn y llain arfordirol a Threfdraeth mae ffiniau’r ardal hon yn eglur. I’r cyfeiriadau eraill mae’r ardal hon yn ymdoddi yn yr ardaloedd cyfagos, ac felly nid oes modd pennu ffin bendant iddi.

Ffynonellau: Ludlow 2001; Charles 1992; Jones 1996; Llyfrgell Genedlaethol Cymru Llwyngwair Map 7 (1758), Map 8 (1758), Map 11 (1758); map degwm Plwyf Trefdraeth 1844; Owen 1897; Swyddfa Gofnodion Sir Benfro HDX/18/1 (1809), HPR/33/33 (1772)

MAP HOLMHOUSE - TYCANOL

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]