Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Newport a Carningli>

 

MYNYDD MELYN

MYNYDD MELYN

CYFEIRNOD GRID: SN 021367
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 240

Cefndir Hanesyddol

Ardal ganolig o sir Benfro ar ei ffurf fodern, yn cynnwys rhostiroedd uwchdirol Mynydd Melyn a Chnwc-y-gwartheg. Gorwedda o fewn cantref canoloesol Cemaes. Dygwyd Cemaes o dan reolaeth yr Eingl-Normaniaid yn oddeutu 1100 gan y teulu Fitzmartin a bu ym meddiant y teulu hwnnw, fel Barwniaeth Cemaes, tan 1326, pan gawsant eu holynu gan y teulu Audley. Roedd y Farwniaeth yn rhannu yr un ffiniau â chantref Cemais, a grëwyd yn ddiweddarach yn 1536, ond goroesodd llawer o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal, rhai mor hwyr â 1922. Mae’r ardal gymeriad hon yn nodweddiadol o dirwedd uwchdirol Cymru yn y ffaith ei bod yn cynnwys tystiolaeth helaeth o anheddu cynhanesyddol, sef cofebau defodol ac angladdol ond hefyd safleoedd anheddu megis grwpiau o gytiau a systemau caeau. Erbyn y cyfnod canoloesol mae’n debyg bod Mynydd Melyn a Mynydd Carningli i’r dwyrain yn un darn o rostir agored. Daliwyd Mynydd Carningli, gan gynnwys o leiaf ran o Fynydd Melyn, yn uniongyrchol gan Arglwyddi Cemaes, ond yn 1278 cyhoeddodd Nicholas Fitzmartin siarter yn rhoi i’r bwrdeiswyr yr hawl i bori cyffredin dros ‘all my land wet and dry, moors and turbaries’ ar Fynydd Carningli. Diffiniodd y siarter ardal fawr gan gynnwys yr ardal yn gorwedd i’r gorllewin o Fynydd Melyn ac i’r gogledd o ddaliad âr Nantmarchan, a oedd yn werth ffi un marchog. Gorweddai hwn ar hyd Cwm-mawr i’r de o Fynydd Melyn. Rhannwyd hanner gorllewinol yr ardal hon rhwng plwyf Dinas a phlwyf Llanychlwyddog. Mae’n bosibl bod y rhaniad rhyngddynt yn ffin hynafol. Ymddengys bod y rhan honno o Fynydd Melyn ym mhlwyf Llanychlwyddog, yn dir heb ei amgáu hefyd. Roedd yn perthyn i ddaliad mwy o faint, a elwid hefyd yn Fynydd Melyn, a oedd yn cynnwys tir cymysg yn ymestyn i lawr y llethr i’r de o’r ardal hon. Roedd yn werth ffi un marchog a ddaliwyd gan y Farnwriaeth, a’i chanol yn y fferm o’r un enw yn is i lawr y llethr, ac fe’i cofnodwyd yn yr Extent of Cemaes o 1594. Ymddengys felly fod Mynydd Melyn yn y cyfnod canoloesol yn gymysgedd o dir comin agored a thir heb ei amgáu a ddaliwyd gan ffermydd unigol. Fodd bynnag, ymddengys bod yr hawl i bori cyffredin wedi ymestyn dros yr ardal gyfan yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol gan fod map ystad o 1758 yn enwi rhan o’r ardal yn ‘ffridd’ a oedd yn perthyn i sawl fferm ar y llethrau gogleddol is, er nad yw’n glir p’un a oedd gan y tir hwn ffens derfyn neu a oedd heb ei amgáu. Fodd bynnag, erbyn arolwg y degwm yn yr 1840au roedd y tir uwch (sy’n gorwedd yn yr ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon) wedi’i rannu’n gaeau mawr, mewn patrwm sy’n debyg i’r hyn a geir heddiw, ac roedd ffermydd a chaeau wedi’u sefydlu dros y llethrau is mewn ardal sy’n gydffiniol bellach. Ymddengys mai ychydig iawn sydd wedi newid yn yr ardal hon ers arolwg y degwm.

MYNYDD MELYN

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae hon yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol uwchdirol sy’n codi hyd at 307m ar gopa crwm Mynydd Melyn. Nid oes dim adeiladau yn y dirwedd hon. Mae’n agored ei naws, ond nid yw’n rhostir agored, ac mae wedi’i rhannu’n gaeau mawr iawn. Mae ffiniau hyˆ n yn cynnwys cloddiau â wyneb carreg a waliau carreg sychion. Erbyn hyn nid yw’r rhain ar y cyfan yn ffurfio ffiniau, a ffensys gwifren, y mae llawer ohonynt yn rhedeg ar hyd y ffiniau hyˆ n, sy’n rhwystrau cadw stoc. Nid oes unrhyw goed yn yr ardal. Mae defnydd tir yn gymysgedd o borfa wedi’i gwella a phorfa rug arw. Mae safleoedd archeolegol yn elfen bwysig o dirwedd hanesyddol yr ardal, yn enwedig safleoedd cynhanesyddol, gan gynnwys: cylchoedd o gytiau, crug crwm, maen hir, carneddau clirio a systemau caeau. Mae safleoedd eraill yn cynnwys croes ganoloesol ar gyfer pererinion

Mae Mynydd Melyn yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol unigryw, ond eto i gyd nid oes modd pennu ei ffiniau yn fanwl gywir. Mae’r ardal hon yn tueddu i raddol ymdoddi i’r caeau mwy garw yn yr ardaloedd cyfagos.

Ffynonellau: Map degwm Dinas Parish 1841; Howells 1977; Map degwm Plwyf Llanlawer 1843; map degwm Plwyf Llanychlwydog 1844; Llyfrgell Genedlaethol Cymru Llwyngwair Map 8 (1758); Miles 1995; map degwm Plwyf Trefdraeth 1844

MAP MYNYDD MELYN

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221