Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Newport a Carningli>

 

LLAIN ARFORDIROL TREFDRAETH I YNYS FACH LLYFFAN GAWR

LLAIN ARFORDIROL TREFDRAETH I YNYS FACH LLYFFAN GAWR

CYFEIRNOD GRID: SN 019397
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 25

Cefndir Hanesyddol

Ardal gymeriad o sir Benfro ar ei ffurf fodern yn cynnwys llain arfordirol gul rhwng Trefdraeth ac Ynys Fach Llyffan Gawr. Gorwedda o fewn cantref canoloesol Cemais. Dygwyd Cemaes o dan reolaeth yr Eingl-Normaniaid yn oddeutu 1100 gan y teulu Fitzmartin a bu ym meddiant y teulu hwnnw, fel Barwniaeth Cemaes, tan 1326, pan gawsant eu holynu gan y teulu Audley. Roedd y Farwniaeth yn rhannu yr un ffiniau â chantref Cemais, a grëwyd yn ddiweddarach yn 1536, ond goroesodd llawer o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal, rhai mor hwyr â 1922. Yn hanesyddol, tir ymylol fu’r llain arfordirol hon erioed. Gorweddai rhwng ffiniau tir wedi’i amaethu a’r clogwyni. Ymddengys nad oes dim safleoedd anheddu er bod y dirwedd yn nodweddiadol o’r topograffi sy’n gysylltiedig â bryngaerau bendir arfordirol yn yr oes haearn. Tir pori garw a chwarela oedd y prif ddefnydd tir yn y gorffennol. Er mai dim ond ychydig o leoedd sydd ar gael i lanio cychod bach ar y darn hwn o glogwyn, yn bennaf y baeau yn Aber Fforest ac Aber Rhigian, bu chwarela eithaf dwys ers o leiaf 1594 pan gofnodwyd ‘seaside quarries both of slate and hewings stones’ yn yr Extent of Cemaes.
Noda George Owen wrth ysgrifennu yn oddeutu 1600 fod y rhain yn ffynhonnell o ‘garreg teils’. Fodd bynnag, mae presenoldeb teils to o garreg leol o waith cloddio yn Nhrefdraeth yn awgrymu bod chwareli, gan gynnwys y rhai hyn ar yr arfordir o bosibl, wedi cael eu defnyddio yn y 13eg ganrif o leiaf. Parhawyd i chwarela tan ddiwedd y 19eg ganrif yn Chwarel Gerry, Chwarel Pwdwr, Fforest Farm a Pharrog. Yn yr ugeinfed ganrif ymhlith pethau eraill mae bad achub wedi cael ei weithredu o’r Cwm.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae hon yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol arfordirol linellol sy’n ymestyn o Gwm-yr-Eglwys tua’r gorllewin i’r Parrog yn Nhrefdraeth tua’r dwyrain, sef pellter o tua 3k. Mae’n gul iawn, yn llai na 20m o led mewn mannau, ond tua 50m o led ar gyfartaledd. Mae’n cynnwys clogwyni o garreg galed, sy’n codi i fwy na 50m yn y pen gorllewinol, a darn cul o dir garw rhwng y clogwyni a’r tir ffermio i’r de. Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn rhedeg ar ben y clogwyni. Ar wahân i dyˆ bad achub yn Y Cwm nid oes dim adeiladau yn yr ardal hon. Mae’r archeoleg gofnodedig yn cynnwys sawl hen chwarel lechi ac adeileddau cysylltiedig megis glanfeydd.

Mae hon yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol ac iddi ffiniau penodol iawn gyda’r môr i’r gogledd a thir ffermio amgaeedig i’r de.

Ffynonellau: map degwm Plwyf Dinas 1841; Howells 1977; Murphy 1994; map degwm Plwyf Trefdraeth 1844; Richards 1998

MAP LLAIN ARFORDIROL TREFDRAETH I YNYS FACH LLYFFAN GAWR

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221