Cartref > Tirweddau Hanesyddol >

Drefach/Felindre

Mae dwy prif thema yn rhedeg trwy dirweddau Drefach/Felindre: amaeth a’r diwydiant gwlân. Mae’r dirwedd amaethyddol yn nodweddiadol o ganol a gogledd Sir Gaerfyrddin ac yn cael ei nodweddu gan ffermydd gwasgaredig gydag adeiladau cerrig o’r 19eg ganrif, a chaeau pori ar dir sydd wedi’i wella, perthi ar hyd cloddiau pridd uchel a choetir collddail ar hyd lethrau serth. Mae’r hen aneddiadau diwydiannol yn cael eu cyfyngu i dyffrynoedd cul yr ardal, lle mae nentydd byrlymus yn llifo i gyfeiriad y gogledd, neu ar hyd Ddyffryn Teifi sy’n fwy gwastad ac ar dir mwy agored. Ceir tai teras cerrig o’r 19eg ganrif, gydag ychydig o dai cerrig sy’n dyddio i’r 19eg ac 20fed ganrif yn eu mysg – ac mae nifer o adeiladau melinau gwlân, wedi’u hadeiladu o friciau a metel, yn nodweddiadol o’r aneddiadau hyn.


Drefelin, rhan o ardal sy’n nodweddiadol o dirwedd hanesyddol yn Drefach/Felindre