|
Dyffryn Teifi Isaf
Mae tirwedd hanesyddol Dyffryn Teifi Isaf yn un gymhleth a chymysgryw.
Mae’n amrywio o’r caeau arfordirol yn y gorllewin sy’n
agored i’r gwynt, sydd heb goed na pherthi, i glystyrau o adeiladau
canoloesol a rhai diweddarach yn nhref farchnad Aberteifi sy’n swatio
mewn lleoliad cysgodol ar lannau gogleddol y Teifi. Serch hynny, mae’r
rhan fwyaf o’r dirwedd yn cael ei nodweddu gan ffermydd gwasgaredig,
perthi a choetir. Er bod gwahaniaethau sylweddol o ran dyddiad, maint
ac arddull yr adeiladau yn y dirwedd hon, mae yna un elfen sy’n
gyffredin iddynt, sef y defnydd o lechi lleol o Gilgerran neu Ddyffryn
Teifi, gan gynnig elfen gref o undod ar draws amser a lle.
Llechryd, un o’r ardaloedd sy’n nodweddiadol o’r
dirwedd hanesyddol yn Nyffryn Teifi Isaf
|