Cartref > Tirweddau Hanesyddol >

Maenorbyr

Mae Maenorbyr yn dirwedd mwy unffurf na llawer sydd ar y Gofrestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru. Serch hynny mae’n bosib diffinio deg ardal â nodweddion tirweddol hanesyddol. Y brif ardal nodwedd yw system o leiniau gyda ffermydd gwasgaredig. Mae’r lleiniau yn y system hon yn anarferol gan eu bod yn rhedeg am gan medr ac yn cael eu rhannu gan gloddiau a pherthi, waliau cerrig sychion a waliau morter. Mae ardaloedd eraill yn cynnwys pentref Maenorbyr, pentref Jameston, a thirweddau o gaeau mawr, rheolaidd eu siâp a ffermydd gwasgaredig gyda ffermdai neu hen anedd-dai sy’n dyddio i ddiwedd y canoloesoedd.

Murphy K and Ludlow N 2003 Historic Landscape Characterisation of Pen Caer, Newport and Carningli, Manorbier and Stackpole Warren, Adroddiad Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed Rhif 2003/6