Cartref > Tirweddau Hanesyddol >

Trefdraeth a Charningli

Mae yna naw ardal â nodweddion tirwedd hanesyddol yn ardal Trefdraeth a Charningli. Mae’r ardaloedd hyn yn adlewyrchu amrywiaethau a chymhlethdodau’r dirwedd hanesyddol. Un ardal yw tref hynafol Trefdraeth, gyda’i batrwm o strydoedd canoloesol i’w weld fel rhan amlwg i’i gynluun presennol, a nifer dda o adeiladau hardd wedi’u hadeiladu o gerrig lleol. Uwchben, mae’r tir yn codi’n sydyn i ffurfio ardal nodwedd arall – dyma weundir agored a llwm Comin Carningli gyda’i ragfur caregog sy’n rhan o fryngaer enfawr. Mae ardaloedd eraill yn cynnwys clogwyni uchel yn ymyl y môr, aber yr afon Nyfer, a chaeau a ffermydd y tir cyfoethog ar hyd y llain arfordirol.

Murphy K and Ludlow N 2003 Historic Landscape Characterisation of Pen Caer, Newport and Carningli, Manorbier and Stackpole Warren, Adroddiad Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed Rhif 2003/6