Cartref > Tirweddau Hanesyddol >

Pen Caer: Garn Fawr a Phen Strwmbwl

Nodwyd chwe ardal â nodweddion tirwedd hanesyddol ym Mhen Caer: tirwedd Garn Fawr a Strumble Head. Mae’r rhain yn amrywio o’r llinyn arfordirol sy’n agored iawn, sef Goleudy Pen Stwmbwl, i gefnen o weundir uchel lle gwelir bryngaer Oes Haearn y Garn Fawr yn dominyddu’r dirwedd, gyda’i wrthgloddiau wedi eu hatgyfnerthu â cherrig. Mae yna gaeau sydd wedi’u rhannu gan waliau cerrig sychion a chloddiau, a ffermydd gwasgaredig sy’n gorwedd rhwng yr arfordir a chefnen y gweundir. Ar wahân i’r lleiniau cysgodi sydd wrth ymyl y ffermydd, ychydig iawn o goed sydd i’w cael yma. Mae’r fro yn cynnwys yr harbwr diwydiannol a’r dref yn Wdig a ddatblygwyd o diwedd y 19eg ganrif ymlaen.

Murphy K and Ludlow N 2003 Historic Landscape Characterisation of Pen Caer, Newport and Carningli, Manorbier and Stackpole Warren, Adroddiad Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed Rhif 2003/6