Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Stackpole Warren >

 

PARC A GERDDI LLYS YSTAGBWLL

PARC A GERDDI LLYS YSTAGBWLL

CYFEIRNOD GRID: SR 975953
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 367

Cefndir Hanesyddol

Ardal fach o sir Benfro ar ei ffurf fodern yn cynnwys parc a gerddi Llys Ystagbwll. Mae’r ardal gymeriad hon ym mhlwyf Stackpole Elidor, a oedd yn faenor yn ystod y cyfnod canoloesol, a oedd yn cynnwys ffioedd 4-5 marchog o dan Arglwyddiaeth ac Iarllaeth Penfro, rhanbarth Seisnigaidd iawn a ddygwyd o dan reolaeth yr Eingl-Normaniaid cyn 1100, a ad-drefnwyd ar hyd linellau maenoraidd Lloegr ac na chafodd ei ailgipio erioed gan y Cymry. Efallai fod yr enw Ystagbwll o darddiad Sgandinafaidd, yn deillio o ‘stack’ neu graig, gan nodi bod morwyr Nordig yn gyfarwydd â’r ardal – ac wedi cyfanheddu yno efallai – yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar. Rhennir yr enw gyda Bosherston, lle cyfagos, a elwid yn Stackpole Bosher yn wreiddiol. Mae’n bosibl bod yr ôl-ddodiad ‘Elidor’ – a ddefnyddiwyd gyntaf yn oddeutu 1200 ac a welir hefyd yng nghysegriad ar y cyd eglwys plwyf Ystagbwll - yn deillio o enw personol unigolyn y cyfeiriodd Gerallt Gymro ato fel ‘Elidyr Ystagbwll’, ac mae rhai awduron o’r farn mai arglwydd cynnar ydoedd. Fodd bynnag, mae’r enw yn codi mewn cysylltiad â dameg led-ffuglennol. Ac er ei bod yn ddiddorol i ‘William mab Elidur’ roi ardal o dir heb ei nodi i Gomandwr Slebets, mae’r elfen ‘Elidor’, a’r cysegriad, yn deillio o ‘Eliud’ yn ôl pob tebyg, sef ffurf anwes ar enw Sant Teilo. Cofnodwyd bod Philip de Stackpole yn meddu ar 4 ffi marchog yn 1247, tra bod gan Richard de Stackpole 4 ffi yn Ystagbwll yn 1324. Efallai fod eu preswylfa wedi’i hatgyfnerthu – ymddengys yr enw ‘Stackpole’ ar restr o 19 o ‘hen gestyll’ yn sir Benfro, wedi’i llunio gan George Owen yn 1599. Fodd bynnag, nid oes unrhyw arwydd o ran ar ba ffurf yr oedd yr ‘hen gastell’ hwn, neu pa un a oedd ar safle’r plas diweddaraf. Efallai fod yr eglwys, gyda’i chysegriad i Sant Teilo, yn sylfaen cyn y Goncwest. Saif mewn anheddiad cnewyllol, Cheriton, 700m i’r gogledd o bentref Ystagbwll ei hun, yr ymddengys ei fod yn anheddiad cnewyllol eilaidd a sefydlwyd o amgylch croesffyrdd yn ystod y cyfnod ar ôl y Goncwest. Ymddengys mai treflan amaethyddol ydoedd yn bennaf, ond mae’r ffaith bod pentref canoloesol yno yn awgrymu i farchnad neu ffair gael ei chynnal yn y pentref, ac yn wir mae map 1932 Rees yn dangos mai safle ffair bosibl ydoedd. Trosglwyddwyd yr ystad drwy etifeddes o deulu Stackpole i deulu Vernon o Neuadd Haddon, Swydd Derby. Gadawyd George Lort, stiward teulu Stackpole, yn gyfrifol am Ystagbwll. Erbyn canol yr 16eg ganrif, roedd Lort wedi prynu’r ystad o deulu Vernon. Yn 1698, trosglwyddwyd yr ystad i Elizabeth Lort, a briododd St Alexander Campbell o Gawdor. Bu farw yn 1714, ac felly trosglwyddwyd yr ystad i deulu Campbell. Trawsnewidiodd teulu Campbell y tyˆ , y gerddi a’r ystad. Dengys engrafiad o 1758 dyˆ sgwâr enfawr. Erbyn 1782, roedd llynnoedd wedi’u creu drwy godi argaeau ar draws y cymoedd islaw’r tyˆ , a chrëwyd gerddi pleser, gardd â wal o’i chwmpas a Pharc Ceirw Newydd, yn ychwanegol at yr Hen Barc Ceirw. Dilëwyd hanner deheuol pentref Ystagbwll yn ystod y gwaith o adeiladu’r parc newydd hwn, gan olygu bod croes y pentref canoloesol ar ei phen ei hun mewn parcdir. Adeiladwyd tai haf a grotos hefyd, ac ar ei hanterth roedd Ystagbwll ymhlith y gerddi gorau ym Mhrydain. Cafodd y plas a’r adeiladau cysylltiedig eu hymestyn a’u gwella gan Syr John Wyattville, pensaer y Brenin, a Henry Ashton yn yr 1820au. Daeth Ystagbwll yn un o ystadau pwysicaf y De, gan gwmpasu dros 17,700 o erwau erbyn 1900. Yn 1962, gwerthwyd cynnwys y tyˆ a chafodd yr adeilad ei ddymchwel yn fuan ar ôl hynny. Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol bellach yn berchen ar y rhan fwyaf o’r gerddi a’r parcdir.

PARC A GERDDI LLYS YSTAGBWLL

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Parc a Gerddi Llys Ystagbwll yn rhannu’r un ffiniau bron â’r parc a’r ardd a gaiff eu cynnwys yn y Gofrestr o Barciau a Gerddi ar gyfer sir Gaerfyrddin, Ceredigion a sir Benfro. Mae’r Gofrestr yn cynnwys disgrifiad llawn o’r safle. Tirwedd ystad yw hon ac mae’n cynnwys sawl cwm cul sy’n cydgyfarfod ar yr arfordir yn Aberllydan, a phocedi o dir gwastad uwchlaw’r cymoedd tua 30m – 35m yn uwch na lefel y môr. Mae’r safle cyfan wedi’i dirlunio i greu parciau a gerddi: codwyd argaeau ar draws y cymoedd i greu llynnoedd a chafodd y tir gwastad ei fowldio i greu parcdir a gerddi. Wrth wraidd yr ardal hon mae sawl llyn neu bwll lili addurniadol cul hir cydgloadol, y mae’r gangen hiraf ohonynt yn rhedeg i ganol y tir o Aberllydan am dros 2km. Mae llwybrau a thraciau yn cysylltu sawl pont garreg neu sarn sy’n croesi’r llynnoedd. Mae llawer o ymwelwyr yn defnyddio’r llwybrau hyn. Mae coetir collddail ar lethrau serth y cymoedd uwchlaw’r llynnoedd. Mae Parc Ystagbwll, lle y ceir porfa wedi’i rhannu gan ffensys gwifren, clystyrau o goed a lleiniau cysgodi i’r dwyrain o’r ardal. I’r gogledd, mae llawer o goed yn y rhan fwyaf o’r hen barc, gyda rhywfaint o borfa agored. Saif y gerddi addurniadol a’r gerddi pleser i’r gorllewin o blas Llys Ystagbwll, a ddymchwelwyd yn yr 1960au. Mae llawer o goed yn y gerddi pleser erbyn hyn. Yr ystad fu’n gyfrifol am y mwyafrif helaeth o’r agweddau adeiledig ac maent yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif yn bennaf. Maent yn cynnwys y pontydd a’r sarnau y cyfeiriwyd atynt eisoes, yn ogystal â gardd â wal o’i chwmpas, bwthyn garddwr, bloc stablau, adeiladau gwasanaeth i’r de o’r hen blas, tai haf a grotos. Mae ffermdy Sioraidd mawr Fferm y Plas gyda’i ystod helaeth iawn o adeiladau fferm wedi’u hadeiladu o galchfaen ac wedi’u trefnu’n ffurfiol (sydd wedi’u troi’n swyddfeydd, gweithdai a chanolfan breswyl) wedi’u cynnwys yn yr ardal hon, yn ogystal â Chei Ystagbwll a’r fferm ystad gyfagos o ddechrau’r 19eg ganrif ac ystod dda o adeiladau allan o amgylch iard (wedi’u troi’n llety gwyliau). Mae llawer o’r adeiladau a’r strwythurau hyn wedi’u rhestru. Waliau calchfaen wedi’u plastro â morter yw’r prif fath o ffin – nodwedd amlwg o ystad – ond mae waliau sych achlysurol a chloddiau ffin yno. Mae’r rhan fwyaf o archeoleg sydd wedi’i chofnodi yn gysylltiedig â’r ystad, y parc a’r gerddi, megis yr odyn galch gywrain yng Nghei Ystagbwll. Cofnodir hefyd nifer o chwareli calchfaen a bryngaer, o’r enw Fishpond Camp, ar esgair rhwng y llynnoedd.

Mae Llys Ystagbwll yn dirwedd barcdir nodweddiadol a phwysig iawn. Mae’n gwrthgyferbynnu â’r tirweddau amaethyddol cyfagos i’r gogledd, i’r dwyrain ac i’r gorllewin ac â thywod chwyth Cwningar Ystagbwll i’r de.

Ffynonellau: Map degwm Plwyf Bosherston 1839; Cadw 2002; Davies 1946; Lloyd 1989; Llyfrgell Genedlaethol Cymru Cyfrol 87 1782; Llyfr Mapiau Cawdor Cofnod Henebion Cenedlaethol 1787; Owen 1897; Owen 1918; Rees 1932; map degwm plwyf Stackpole Elidor 1839 ; map degwm plwyf St Petrox 1839; Thorpe 1978; Walker 1950

MAP PARC A GERDDI LLYS YSTAGBWLL

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]