Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Stackpole Warren >

 

CWNINGAR YSTAGBWLL

CWNINGAR YSTAGBWLL

CYFEIRNOD GRID: SR983947
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 197

Cefndir Hanesyddol

Ardal arfordirol fach o sir Benfro ar ei ffurf fodern, sydd ym mhlwyf Stackpole Elidor yn bennaf, a oedd yn faenor yn ystod y cyfnod canoloesol, a oedd yn cynnwys ffioedd 4-5 marchog o dan Arglwyddiaeth ac Iarllaeth Penfro, rhanbarth Seisnigaidd iawn a ddygwyd o dan reolaeth yr Eingl-Normaniaid cyn 1100, a ad-drefnwyd ar hyd linellau maenoraidd Lloegr ac na chafodd ei ailgipio erioed gan y Cymry. Efallai fod yr enw Ystagbwll o darddiad Sgandinafaidd, yn deillio o ‘stack’ neu graig, gan nodi bod morwyr Nordig yn gyfarwydd â’r ardal – ac wedi cyfanheddu yno efallai – yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar diweddaraf. Rhennir yr enw gyda Bosherston, lle cyfagos, a elwid yn Stackpole Bosher yn wreiddiol. Llwyfandir gwastad yw’r ardal gymeriad hon, y mae hanner ohono wedi’i orchuddio gan dywod chwyth calchaidd. Mae’r twyni tywod wedi gwella cadwraeth safleoedd a thirweddau cynhanesyddol. Mae ymchwiliadau archeolegol wedi dangos i bobl gyfanheddu yn yr ardal hon, bod yr ardal wedi’i rhannu’n gaeau a’i bod wedi’i hamaethu yn ystod y cyfnod cynhanesyddol. Fodd bynnag, yn y pen draw, creodd tywod a chwythwyd gan y gwynt, a ddechreuodd gronni yn y cyfnod cynhanesyddol, amgylchedd a oedd yn gwneud yr ardal yn anaddas i’w hamaethu ac o ganlyniad gadawodd pobl yr aneddiadau a’r caeau. Yn y cyfnod canoloesol, roedd yr ardal hon yn rhan o ddemên Ystagbwll (ystad Ystagbwll yn ddiweddarach), ac mae cofnodion dogfennol yn dangos ei bod yn dirwedd nodweddiadol a ddefnyddiwyd fel cwningar. Yn ystod y Ddau Ryfel Byd, fe’i defnyddiwyd fel ardal hyfforddi milwyr. Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol bellach yn berchen arni ac yn ei rheoli.

CWNINGAR YSTAGBWLL

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Yr ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon yw’r rhan fwyaf o ardal gofrestredig gymharol fach Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru Cwningar Ystagbwll. Mae’n cynnwys llwyfandir arfordirol rhwng 30m a 35m gyda chlogwyni môr calchfaen unionsyth yn ffin i’r de a’r dwyrain, gyda chwm wedi’i foddi’n artiffisial yn ffin i’r gorllewin – rhan o erddi Llys Ystagbwll – a chyda Pharc Ystagbwll yn ffin i’r gogledd. Tirwedd agored ydyw o dywod calchaidd a chwythwyd gan y gwynt dros greigwely calchfaen. Mae trwch y tywod yn amrywio o groen cymharol denau i systemau twyni datblygedig. Mae creigwely calchfaen yn amlwg yn y tywod mewn sawl lle, ond yn arbennig ar hyd yr arfordir. Mae’r llystyfiant yn cynnwys porfa a rhedyn ar y llwyfandir gyda rhywfaint o goetir yn cynnwys sycamorwydd yn bennaf ar ei llethrau mwy cysgodol. Mae’r tywod, a ddechreuodd ffurfio yn y cyfnod cynhanesyddol, wedi chwarae rhan allweddol i gadw tirwedd gynhanesyddol gyfoethog ac amrywiol. Mae’r dirwedd gynhanesyddol hon yn haeddu cael ei chynnwys ar y Gofrestr. Datgelodd gwaith cloddio ac arolygu yn yr 1970au fod pobl wedi byw yno o’r Cyfnod Mesolithig i’r Cyfnod Brythonaidd-Rufeinig a’r tu hwnt, a chafodd sawl cam o’r gorwel archeolegol ei gadw a’i wahanu gan y tywod. Ymhlith y safleoedd mae maen hir Devil’s Quoit, aneddiadau a systemau caeau helaeth, ac mae’r ffaith bod y tywod wedi’u cadw mewn cyflwr ardderchog yn golygu y gellir nodi marciau erydr cynhanesyddol ac olion carnau gwartheg. Mae nifer o’r safleoedd archeolegol yn Henebion Cofrestredig. Nid oes unrhyw adeiladau, a ffensys gwifren yw’r unig ffiniau a ddefnyddir ar hyn o bryd. Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn rhedeg ar ben y clogwyn.

Mae’r ardal gymeriad hon wedi’i diffinio’n dda iawn, ac mae’n gwrthgyferbynnu â’r dirwedd parcdir i’r gorllewin a’r gogledd. Mae wedi’i diffinio gan glogwyni môr uchel i’r de a’r dwyrain.

Ffynonellau: Benson et al 1990; Cadw 2001; Higgins 1933; Howells 1964; Owen 1918; Walker 1950

MAP CWNINGAR YSTAGBWLL

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]