Cartref > Tirweddau Haneyddol > Ucheldir Ceredigion >

Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol Dwyrain Ucheldir Ceredigion

Eastern Upland Cerdigion Map

Crynodebau yw'r disgrifiadau isod, cliciwch ar y llun am fwy o wybodaeth

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Afon Mwyro

Mae ychydig o ffermydd wedi’u gwasgaru ar hyd llawr a llethrau is y dyffryn, cloddiau carreg a chloddiau caeau bach ac ychydig o goetir yn nodweddu tirwedd dyffryn ucheldirol Afon Mwyro.

Banc Creignant Mawr

Mae Banc Creignant Mawr yn blanhigfa goedwigoedd ucheldirol yn dyddio o’r 1960au.

Banc Esgair Mwn & Rhos Tanchwarel

Mae ardal gymeriad dirwedd hanesyddol Banc Esgair-mwn a Rhos Tanchwarel yn cynnwys hen dir amgaeëdig ac aneddiadau ar ffurf bythynnod a thyddynnod, gyda llawer ohonynt yn anghyfannedd. Cymysgedd o dir pori wedi’i wella a thir mwy garw yw’r defnydd a wneir o’r tir. Mae olion y diwydiant cloddio plwm yn elfen amlwg yn y dirwedd.

Berthgoed

Mae tyddynnod/bythynnod anghyfannedd a chaeau nas defnyddir bellach mewn tirwedd o rostir a choetir sy’n aildyfu ar lethrau serth yn nodweddu tirwedd hanesyddol Berthgoed.

Blaen Glasffrwd

Ceir planhigfa o goed coniffer yn dyddio o’r 20 ganrif o bob tu i Flaen-Glasffrwd – poced o dir pori wedi’i wella, tir pori garw ac un fferm ar dir uchel.

Brignant

Tir pori garw a phantiau mawnaidd ar dir uchel a thir pori wedi’i wella ar lethrau is, a phlanhigfeydd bach o goed coniffer yw prif elfennau tirwedd Brignant. Mae ffermydd a bythynnod anghyfannedd ac olion y mwyngloddiau plwm yn tystio i dirwedd a arferai fod yn llawer mwy poblog.

Bryn Gwyn

Mae Bryn Gwyn yn cynnwys planhigfa ucheldirol o goed coniffer a sefydlwyd yn y 1960au dros rostir agored.

Bryngwyn Bach

Mae Bryngwyn Bach yn llain fawr o ucheldir a nodweddir gan rostir agored ac ambell fferm. Dengys ffermydd a bythynnod anghyfannedd a henebion angladdol a defodol yn dyddio o’r Oes Efydd y gwneid mwy o ddefnydd o’r dirwedd yn y gorffennol agos a phell.

Bryn Tyn- Llwyn

Mae caeau o dir pori wedi’i wella o fewn ardal fach o lethrau creigiog, serth yn nodweddu tirwedd Bryn Tyn-Llwyn. Mae sawl anheddiad anghyfannedd, ond nid oes unrhyw anheddau cyfannedd.

Mynyddoedd Cambria

Ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Mynyddoedd Cambria yw’r fwyaf yn ucheldir Ceredigion ac mae’n cynnwys rhostir uchel, agored ac ambell fferm wasgaredig. Mae ffermydd a bythynnod anghyfannedd a chrugiau crwn yn dyddio o’r Oes Efydd a henebion cysylltiedig yn tystio i’r ffaith y gwneid mwy o ddefnydd o’r ardal yn y gorffennol.

Coed Bwlchgwallter

Planhigfeydd helaeth o goed coniffer a sefydlwyd yn yr 20fed ganrif dros rostir agored yw prif elennau ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Coed Bwlchgwallter.

Cwm Mynach

Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Cwm Mynach yn gorwedd ar draws llawr dyffryn ucheldirol, llethrog ac yn ymestyn i fyny ei lethrau is. Mae gwrychoedd y caeau bach, afreolaidd eu siâp, a chlystyrau o goed collddail, yn rhoi golwg goediog i’r dirwedd. Nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd gwasgaredig, ucheldirol.

Cwmystwyth

Mae Cwmystwyth yn hen dirwedd ddiwydiannol. Mae olion gweithgarwch cloddio am fetel wedi’u gwasgaru ar draws llawr a llethrau serth dyffryn creigiog Afon Ystwyth.

Cyneiniog

Un fferm, caeau bach, a choetir collddail a phlanhigfa fodern o goed coniffer yw prif elfennau ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Cyneiniog.

Dyffryn Castell

Mae ffermydd wedi’u gwasgaru ar hyd llethrau is dyffryn ucheldirol, olion mwyngloddiau metel yn dyddio o’r 19eg ganrif, caeau mawr o dir pori wedi’i wella a thir pori garw, a llwybr troellog ffordd dyrpeg yr A44 i gyd yn elfennau yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Dyffryn Castell.

Disgwylfa

Mae Disgwylfa yn ardal tirwedd hanesyddol ucheldirol sy’n cynnwys rhostir lle y ceir olion mwyngloddiau metel yn dyddio o’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif, bythynnod a thyddynnod anghyfannedd a henebion angladdol a defodol yn dyddio o’r Oes Efydd.

Esgair Fraith

Mae Esgair Fraith yn llain ucheldirol helaeth iawn yn cynnwys planhigfa o goed coniffer a blannwyd yn yr 20fed ganrif. Ceir olion mwyngloddiau metel ac aneddiadau anghyfannedd yn y blanhigfa.

Frongoch

Fferm ucheldirol yw Frongoch a leolir mewn poced o gaeau bach i ganolig eu maint o dir pori wedi’i wella ar gyrion rhostir agored.

Fuches Wen

Rhostir agored yw nodwedd ddiffiniol ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Fuches Wen. Mae aneddiadau anghyfannedd y cyfnod hanesyddol a henebion angladdol a defodol yn dyddio o’r Oes Efydd yn tystio i dirwedd a arferai fod yn fwy poblog ac a ddefnyddid gryn dipyn yn fwy yn y gorffennol.

Hafod

Mae’r Hafod yn enwog am ei nodweddion pictiwrésg; manteisiodd Thomas Johnes yn llawn ar y nodweddion hyn ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. Nid yw ei blasty yn bodoli bellach, ond mae rhai o’i adeiladau wedi goroesi, yn ogystal â’r rhodfeydd a sefydlwyd ganddo. Erbyn hyn mae’r rhan fwyaf o’r ystâd wedi’i gorchuddio gan blanhigfeydd o goed coniffer a sefydlwyd yn y 1950au a’r 1960au.

Lluest

Sefydlwyd patrwm anheddu Lluest ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, pan adeiladodd sgwatwyr fythynnod a thyddynnod ar dir comin uchel. Gadawyd llawer o’r aneddiadau hyn yn wag, ac mae’r rhai sydd wedi goroesi yn aml wedi cael eu moderneiddio a’u hymestyn.

Mynydd y Ffynnon

Mae Mynydd y Ffynnon yn ardal helaeth o blanhigfeydd conifferaidd ucheldirol a sefydlwyd dros rostir agored yn ystod ail hanner yr 20fed ganrif. Ceir rhai mannau agored, gan gynnwys Gelmast, fferm a adeiladwyd gan Thomas Johnes o’r Hafod ar ddechrau’r 19eg ganrif.

Nantymoch

Mae cronfeydd dðr ac adeiladau cysylltiedig a adeiladwyd yn y 1960au fel rhan o gynllun hydrodrydanol yn elfen bwysig yn nhirwedd hanesyddol Nant-y-Moch. Mae elfennau eraill yn cynnwys ffermydd mynydd gwasgaredig, henebion angladdol a defodol yn dyddio o’r Oes Efydd ac olion mwyngloddiau metel.

Peraidd Fynnydd

Mae Peraidd Fynydd yn cynnwys planhigfa helaeth o goed coniffer yn dyddio o’r 20fed ganrif a leolir ar y naill ochr a’r llall i ffin sirol Ceredigion/Powys. Fe’i sefydlwyd dros rostir agored gan mwyaf, ond mae caer Rufeinig, aneddiadau anghyfannedd a henebion angladdol a defodol yn dyddio o’r Oes Efydd yn tystio i dirwedd a gâi ei defnyddio ar raddfa fwy.

Ponterwyd

Mae llawer o elfennau tirwedd hanesyddol Ponterwyd yn dyddio o’r 19eg ganrif pan agorodd y diwydiant cloddio plwm a oedd yn datblygu a’r penderfyniad i adeiladu ffordd dyrpeg ardal a fuasai’n eithaf anghysbell cyn hynny. Mae’r pentref, olion y diwydiant cloddio, ffermydd gwasgaredig a bythynnod anghyfannedd yn tystio i’r cyfnod hwn o ehangu a newid.

Pumlumon

Rhostir uchel, agored yw nodwedd ddiffiniol tirwedd Pumlumon. Mae aneddiadau hanesyddol anghyfannedd, hen fwyngloddiau metel a henebion angladdol a defodol yn dyddio o’r Oes Efydd yn tystio i dirwedd a ddefnyddiwyd ar raddfa fawr yn y gorffennol.

Pwllpeiran

Mae Pwllpeiran yn ardal gymhleth. Yn ei hanfod ardal amaethyddol o ffermydd gwasgaredig a chaeau o dir pori wedi’i wella a rennir gan gloddiau a waliau sych ydyw. Fodd bynnag, mae’n cynnwys pentrefan diwydiannol Cwmystwyth yn dyddio o’r 19eg ganrif a fferm arbrofol fodern fawr Pwllpeiran.

Rhos y Gargoed & Rhos Marchnant

Mae Rhos y Gargoed a Rhos Marchnant yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol ymylol ucheldirol sy’n cynnwys hen gaeau, nas defnyddir ar y cyfan erbyn hyn, aneddiadau anghyfannedd, pocedi o rostir a choedwigoedd conifferaidd.

Syfydrin

Mae ardal dirwedd Syfydrin yn cynnwys poced o dir pori wedi’i wella a ffermydd ucheldirol yng nghanol rhostir agored neu blanhigfeydd o goed coniffer ar dir uchel.

Tynddol

Mae Tynddol yn ardal ymylol ucheldirol sy’n cynnwys un fferm wedi’i lleoli o fewn poced o dir pori wedi’i wella.

Fforest Tywi

Mae Fforest Tywi yn ardal helaeth o blanhigfeydd conifferaidd a sefydlwyd yn y 1960au dros yr hyn a fuasai’n rhostir agored gan mwyaf. Mae aneddiadau anghyfannedd o’r cyfnod ôl-Ganoloesol a henebion angladdol a defodol yn dyddio o’r Oes Efydd yn dangos y gwneid llawer mwy o ddefnydd o’r dirwedd hon yn y gorffennol.

Rhan Uchaf Cwm Ystwyth

Ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Rhan Uchaf Cwm Ystwyth, a leolir ym mlaen dyffryn rhewlifol â llethrau serth, yw’r llain olaf o dir amaeth cyn rhostir agored i’r dwyrain. Mae’n cynnwys ffermydd gwasgaredig a chaeau o dir pori a rennir gan waliau sych a chloddiau caregog.

Ysbyty Cynfyn

Caeau bach o dir pori a ffermydd gwasgaredig yw rhai o brif elfennau tirwedd Ysbyty Cynfyn. Arferai fod yn dirwedd fwy poblog, fel y tystia’r nifer o ffermydd a bythynnod anghyfannedd. Lleolir eglwys fach Ysbyty Cynfyn lle y mae nifer o feini hirion wedi’u hadeiladu i mewn i’r fynwent yng nghanol yr ardal hon.

 

 

Cyswllt y prosiect: Ken Murphy