Cartref > Tirweddau Haneyddol > Ucheldir Ceredigion >

Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol Gogledd-Orllewin Ucheldir Ceredigion

Gogledd-Orllewin Ucheldir Ceredigion

 

Crynodebau yw'r disgrifiadau isod, cliciwch ar y llun am fwy o wybodaeth

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Afon Leri

Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Afon Leri yn cynnwys llawr dyffryn afon fach a’i lethrau is. Tirwedd amaethyddol o ffermydd wedi’u hadeiladu o garreg, a chaeau a rennir yn wrychoedd a waliau sych ydyw yn ei hanfod, ond mae’n cynnwys olion mwyngloddiau metel yn dyddio o’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif.

Allt Goch

Llethr serth wedi’i orchuddio â choetir yw prif elfen Allt Goch. Nid oes unrhyw aneddiadau, ond ceir olion mwyngloddiau metel o fewn y coetir.

Allt y Gwreiddyn

Mae Allt y Gwreiddyn yn llethr serth wedi’i orchuddio â choed trwchus. Ceir ychydig o leiniau agored o dir pori o fewn y coedwigoedd, ond dim aneddiadau.

Banc Bwlch Roser

Mae Banc Bwlch Roser yn esgair o dir wedi’i wella gan mwyaf a leolir rhwng rhostir uchel, agored a thir amaeth amgaeëdig, is. Mae’n cynnwys dwy fferm anghyfannedd ac olion mwyngloddiau metel.

Banc Bwa-Drain

Mae esgair uchel o rostir agored a fferm wynt ac olion mwyngloddiau plwm yn dyddio o’r 19eg ganrif yn nodweddu ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Banc Bwa-Drain.

Banc Ceunant

Mae system gaeau reolaidd o gloddiau ac arnynt wrychoedd yn nodweddu esgair Banc Ceunant. Fe’i lleolir rhwng tir amaeth is a rhostir uwch. Nid oes unrhyw aneddiadau.

Banc Llety Ifan Hen

Wedi’i lleoli rhwng rhostir uwch a thir amaeth amgaeëdig is, mae esgair uchel Banc Llety Ifan Hen yn cynnwys caeau mawr o dir pori wedi’i wella a rennir gan ffensys gwifren. Nid oes unrhyw aneddiadau, ond mae olion hen fwyngloddiau plwm yn amlwg.

Banc Llechwedd-Ddu

Mae rhostir agored a phocedi o dir pori wedi’i wella a rennir gan ffensys gwifrau yn nodweddu ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Banc Llechwedd-ddu. Nid oes unrhyw aneddiadau.

Banc Trawsnant

Tir pori garw ac olion gweithgarwch cloddio am blwm yw prif nodweddion y boced fach hon o rostir a elwir yn Fanc Trawsnant. Erbyn hyn ceir planhigfeydd o goed coniffer o bob tu iddi bron.

Banc Troedrhiwseiri

Mae Banc Troedrhiwseiri yn cynnwys esgair o dir pori wedi’i wella a rennir gan gloddiau a ffensys gwifren. Nid oes unrhyw aneddiadau.

Bont Goch

Mae Bont-goch yn ardal dirwedd gymhleth sy’n cynnwys pentref cnewyllol llac o adeiladau yn dyddio o’r 19eg ganrif a’r 20fed ganrif, ffermydd bach, gwasgaredig, a chaeau mawr o dir pori wedi’i wella a thir pori garw. Mae olion y diwydiant cloddio plwm yn amlwg.

Bryngwyn

Mae Bryngwyn yn dirwedd o ffermydd a thai gwasgaredig, wedi’u lleoli o fewn caeau bach, afreolaidd eu siâp, ac ambell glwstwr o goetir collddail a chonifferaidd. At ei gilydd mae’r adeiladau yn dyddio o’r 19eg ganrif a’r 20fed ganrif.

Bwlchcrwys

Er yr ymddengys fod tirwedd Bwlchcrwys yn cynnwys tir pori wedi’i wella, agored a ffermydd gwasgaredig gan mwyaf, o edrych arni’n fanylach gwelir ffensys gwifren a hen gloddiau terfyn. Tirwedd fryniog ydyw heb fawr ddim coed ar wahân i blanhigfeydd bach o goed coniffer a’r coed hynny sy’n tyfu gerllaw anheddau.

Capel Bangor

Lleolir pentref diwydiannol yn dyddio o’r 19eg ganrif yng nghanol ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Capel Bangor. Mae’r adeiladau yng nghraidd y pentref yn cynnwys bythynnod a thai gweithwyr bach, a cheir ‘filas’ mwy o faint yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif ar ei gyrion. Mae’r datblygiad diwydiannol hwn yn gorwedd ar dirwedd o gaeau wedi’u hamgáu gan wrychoedd ar gloddiau a ffermydd gwasgaredig.

Cefn Bangor & Cefn Fuches

Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Cefn Bangor a Chefn Fuches yn cynnwys ffermydd gwasgaredig a chaeau a rennir gan gloddiau. Ceir gwrychoedd ar rai cloddiau, ond erbyn hyn ffensys gwifren yw’r prif fath o ffin. Mae adeiladau’r ffermydd yn dyddio o’r 19eg ganrif yn bennaf a cheir rhai anheddau modern.

Cnwch Coch

Dechreuodd Cnwch Coch fel anheddiad sgwatwyr ar ddiwedd y 18fed ganrif. Mae hyn yn esbonio’r nifer o fythynnod brodorol, bach yn y pentref clystyrog llac. O bob tu i’r pentref ceir tirwedd o gaeau bach, afreolaidd eu siâp a rennir gan wrychoedd ar gloddiau.

Coed Gruffydd

Mae ffermydd gwasgaredig, caeau bach, afreolaidd eu siâp a chlystyrau o goetir collddail a chonifferaidd ar lawr a llethrau is dyffryn ucheldirol Afon Stewi yn nodweddu ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Coed Gruffydd.

Cwm Magor

Mae ychydig o ffermydd bach, gwasgaredig a chaeau o dir pori wedi’i wella a rennir gan gloddiau a gwrychoedd o fewn dyffryn ucheldirol, cul â llethrau serth yn nodweddu ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Cwm-Magor.

Cwm Erfyn

Mae Cwmerfyn yn dirwedd gymhleth a leolir ym mlaen dyffryn ucheldirol â llethrau serth. Mae ei phrif elfennau yn cynnwys olion gweithgarwch cloddio am fetel yn dyddio o’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif, tai gweithwyr a ffermydd gwasgaredig. Mae’r rhain yn sefyll mewn tirwedd o gaeau afreolaidd eu siâp o dir pori wedi’i wella.

Cwmnewidion

Ffermydd wedi’u gwasgaru ar hyd llawr dyffryn serth, caeau bach o dir pori wedi’i wella ac olion sylweddol o fwyngloddiau metel yn dyddio o’r 19eg ganrif yw prif elfennau tirwedd hanesyddol Cwmnewidion.

Cwm Rheidol

Mae olion y diwydiant cloddio metel, tai gweithwyr gwasgaredig yn dyddio o’r 19eg ganrif, ffermydd gwasgaredig a chynllun hydrodrydanol yn dyddio o’r 20fed ganrif wedi’u gwasgu i mewn i lawr cul dyffryn Afon Rheidol a’i lethrau is, serth yn nodweddu ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Cwm Rheidol.

Cwmsymlog

Olion gweithgarwch cloddio am fetel yn dyddio o’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif yn gorwedd ar draws llawr a llethrau is dyffryn ucheldirol â llethrau serth yw elfennau amlycaf ardal tirwedd hanesyddol Cwmsymlog. Mae adeiladau diwydiannol adfeiliedig, tomenni ysbwriel, tai gweithwyr, adeiladau domestig eraill a chapel i gyd yn elfennau pwysig yn y dirwedd.

Cynnull

Ffermydd gwasgaredig, a chaeau afreolaidd eu siâp a rennir gan gloddiau a chloddiau cerrig y ceir gwrychoedd arnynt weithiau yw prif elfennau tirwedd hanesyddol Cynnull.

Daren

Mae ffermydd gwasgaredig, clwstwr bach o fythynnod gweithwyr yn dyddio o’r 19eg ganrif, olion gweithgarwch cloddio am fetel yn dyddio o’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif a chaeau o dir pori wedi’i wella yn nodweddu tirwedd Daren.

Grogwynion and Gwaithcoch

Mae dyffryn Afon Ystwyth o fewn ardal tirwedd hanesyddol Grogwynion a Gwaithgoch yn gul ac yn serth. Mae llawr y dyffryn heb ei amgáu ac fe’i defnyddir fel tir pori gwlyb, garw. Lleolir dwy fferm ar y llethrau is, ond olion mwyngloddiau metel yn dyddio o’r 19eg ganrif a’r 20fed ganrif yw elfennau amlycaf yr ardal hon.

Hen Gaer

System gaeau reolaidd o dir pori wedi’i wella a rennir gan gloddiau â gwrychoedd, a phlanhigfeydd o goed collddail a choed coniffer yw prif elfennau tirwedd Hen Gaer. Nid oes unrhyw aneddiadau. Mae’r fryngaer yn dyddio o’r Oes Haearn a roddodd i’r ardal ei henw yn bwysig.

Llanafan

Lleolir pentref llinellol bach yn dyddio o’r 19eg ganrif, yr 20fed ganrif a’r 21ain ganrif yng nghanol ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Llanafan. Ceir caeau bach o dir pori o gwmpas y pentref.

Llanfihangel y Creuddyn

Lleolir pentref Llanfihangel-y-Creuddyn yng nghanol yr ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon. Pentref cnewyllol, bach ydyw ac iddo eglwys Ganoloesol yn ei ganol yn ogystal â nifer o dai a adeilawyd cyn y 19eg ganrif, sy’n anarferol yn achos y rhanbarth hwn.

Llawr y Cwm Bach

Yn ymestyn ar draws llawr a llethrau is dyffryn ucheldirol, mae Llawr-y-Cwm-Bach yn cynnwys nifer o aneddiadau anghyfannedd, fferm ucheldirol, olion gweithgarwch cloddio am fetel a thir pori garw a phocedi o dir pori wedi’i wella.

Llety Synod & Frongoch

Mae Llety Synod a Frongoch yn cynnwys tirwedd fryniog, rhwng 220m a 340m, o ffermydd gwasgaredig ac olion y diwydiant cloddio am fetel. Mae’r olion diwydiannol hyn yn elfen gref yn y dirwedd hanesyddol ac yn Frongoch maent yn cynnwys y casgliad gorau yn ôl pob tebyg o adeiladau mwynglawdd yn dyddio o’r 19eg ganrif yng Nghymru.

Llwyn-Crychyddod

Mae Llwyn-Crychyddod yn ardal tirwedd hanesyddol fach sy’n cynnwys caeau rheolaidd eu siâp a sefydlwyd ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. Nid oes unrhyw aneddiadau.

Rhan Isaf Cwm Rheidol

Ffermiau ar wasgar a chaeau bach afreolaidd o borfa amgen ar y llawr fflat a'r llethrau isaf o'r Rheidiol sydd yma. Yn bresennol hefyd mae lynoedd mewn hen chwareli grafel ac olion cloddio metel.

 

Maen Arthur

Yn ei hanfod mae Maen Arthur yn dirwedd amaethyddol o ffermydd gwasgaredig a chaeau bach, afreolaidd eu siâp o dir pori. Lleolir olion mwyngloddiau metel bach yn dyddio o’r 19eg ganrif yn yr ardal hon, yn ogystal â New Row, sef rhes o fythynnod gweithwyr.

Moelgolomen

Mae cwpl o ffermydd ucheldirol a bythynnod/tyddynnod anghyfannedd a leolir o fewn caeau bach, afreolaidd eu siâp o dir pori yn nodweddu tirwedd Moelgolomen. Ceir olion gweithgarwch cloddio am fetel yn dyddio o’r 19eg ganrif yn yr ardal hon.

Mynydd March

Planhigfeydd helaeth o goed coniffer yn dyddio o’r 20fed ganrif yw prif elfennau tirwedd Mynydd March. Fe’u plannwyd dros rostir agored lle y nodwyd olion nifer o fythynnod anghyfannedd, hen fwyngloddiau metel, caer o’r Oes Haearn a meini hirion o’r Oes Efydd.

Nantyrarian

Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Nantyrarian yn cynnwys tirwedd amaethyddol o ffermydd gwasgaredig a chaeau bach yn ymestyn ar draws llawr a llethrau is dyffryn serth. Wedi’u harosod ar y dirwedd hon mae mwyngloddiau mwyn a chymunedau mwyngloddio yn dyddio o’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif . Mae’r aneddiadau mwyngloddio yn elfennau pwysig yn y dirwedd.

Pantyhaidd

Mae planhigfeydd o goed coniffer yn dyddio o’r 20fed ganrif yn diffinio ac yn nodweddu ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Pant-y-Haidd. Sefydlwyd y planhigfeydd dros rostir agored a lled-agored. Lleolir bryngaer yn dyddio o’r Oes Haearn o fewn y planhigfeydd.

Pengrogwynion & Brynafan

Bythynnod/tyddynnod mewn tirwedd o dir pori wedi’i wella a thir pori garw, a leolir ar esgair uchel uwchlaw dyffryn Afon Ystwyth, yw rhai o brif elfennau tirwedd hanesyddol Pengrogwynion a Brynafan. Dechreuodd y patrwm anheddu fel aneddiadau sgwatwyr ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif.

Penrhyn-Coch

Mae Penrhyn-coch yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol gymhleth. Yn gorwedd ar y patrwm sylfaenol o hen ffermydd gwasgaredig wedi’u lleoli mewn caeau bach a rennir gan gloddiau a gwrychoedd ceir dau anheddiad diwydiannol yn dyddio o’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif - sef Penrhyn-coch a Phen-bont Rhydybeddau - a thai modern helaeth ym Mhenrhyn-coch.

Pen- Rhiw-Newydd

Lleolir ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Pen-rhiw-newydd ar esgair gron o dir pori wedi’i wella a rannwyd yn gaeau gan gloddiau ac ambell wal sych. Lleolir dau bentrefan yn dyddio o’r 19eg ganrif - sef Pen-rhiw-newydd a Salem - ar yr esgair.

Pontarfynach

Yn ei hanfod pentref yw Pontarfynach a ddatblygodd yn y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif i wasanaethu’r diwydiant twristiaeth. Mae wedi’i ganoli ar bont enwog ‘Devil’s Bridge’ ac adeilad trawiadol Gwesty’r Hafod Arms gerllaw.

Coetir Cwm Rheidol

Mae clystyrau helaeth o hen goetir collddail a rhai planhigfeydd o goed coniffer yn dyddio o’r 20fed ganrif ar lethrau serch yn darparu prif elfennau ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Coetir Cwm Rheidol. Lleolir olion y diwydiant cloddio plwm o fewn y coetir.

Rhosgoch

Caeau bach a rennir gan wrychoedd ar gloddiau, ffermydd gwasgaredig a chlystyrau o goetir collddail yw prif elfennau tirwedd hanesyddol Rhosgoch.

Rhosrhydd

Mae Rhos Rhydd yn esgair o dir pori wedi’i wella a amgaeir gan rai ffensys gwifren. Nid oes unrhyw aneddiadau, er y ceir ychydig o goetir ar rai o lethrau’r esgair. Lleolir bryngaer yn dyddio o’r Oes Haearn o fewn yr ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon.

Rhos-y- gell

Cyn i sgwatwyr ymsefydlu yma ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif roedd Rhos-y-Gell yn rhostir agored. Mae llawer o’r bythynnod a’r tyddynnod niferus a sefydlwyd wedi goroesi, ond mae rhai yn anghyfannedd. Fe’u lleolir mewn tirwedd o dir pori garw.

Rhydperinion

Mae tyddynnod a bythynnod o fewn tirwedd o dir pori wedi’i wella a rennir gan gloddiau ag ambell wrych yn nodweddu tirwedd hanesyddol Rhydpererinion.

Talyfan

Mae tir pori wedi’i wella a rennir gan ffensys gwifren ar fryn crwn yn nodweddu tirwedd Tal y Fan. Nid oes unrhyw aneddiadau ond mae dwy fryngaer yn dyddio o’r Oes Haearn yn elfennau pwysig yn y dirwedd. Ceir coetir collddail a phlanhigfeydd o goed coniffer ar lethrau’r bryn.

Tanyffordd

Tirwedd amaethyddol o gaeau bach a ffermydd gwasgaredig yw Tanyffordd yn ei hanfod, ond mae’n cynnwys pentrefan llinellol Pisgah yn dyddio o’r 19eg ganrif a’r 20fed ganrif.

The Hill

Mae caeau rheolaidd o dir pori a rennir gan gloddiau â gwrychoedd yn un o brif elfennau The Hill. Ceir anheddiad llinellol bach yma, a ddechreuodd o bosibl fel anheddiad sgwatwyr, ac sy’n cynnwys bythynnod yn dyddio o’r 19eg ganrif a thai modern.

Trawscoed

Mae Trawscoed yn dirwedd ystad; yn ei chanol lleolir plasty Trawscoed, gerddi a pharcdir. Yn ystod yr 20fed ganrif addasodd sefydliadau’r llywodraeth lawer o’r parcdir (er na newidiwyd ei gymeriad yn ei hanfod), ac adeiladwyd swyddfeydd ac adeiladau amaethyddol mawr yn ogystal â rhai tai modern.

Ty'n-y-Castell

Caeau bach o dir pori a rennir gan gloddiau â gwrychoedd, ychydig o goetir collddail, a ffermydd a bythynnod gwasgaredig yw rhai o brif elfennau ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Ty’n-y-Castell.

Waun Wyddyl

Mae Waun Wyddyl yn fryn agored o dir pori wedi’i wella a rennir gan ffensys gwifrau lle yr adeiladwyd fferm wynt ar ddiwedd yr 20fed ganrif. Mae bryngaer yn dyddio o’r Oes Haearn a nifer o henebion angladdol a defodol posibl yn dyddio o’r Oes Efydd yn darparu dyfnder amser i’r dirwedd.

Wenallt

Adeiladwyd llawer o’r adeiladau yn nhirwedd y Wenallt gan ystad Trawscoed neu dylanwadwyd arnynt ganddi, ac maent yn cynnwys tþ Sioraidd a fferm y Wenallt a adeiladwyd ar gyfer yr ystad. Nodweddir y dirwedd amaethyddol gan gaeau o dir pori wedi’i wella a rennir gan gloddiau â gwrychoedd. Mae coetir a choed a blannwyd yn rhoi naws parcdir i rannau o’r dirwedd.

Ysgubornewydd

Lleolir ardal dirwedd Ysgubornewydd ar fryniau crwn ac mae’n cynnwys caeau o dir pori wedi’i wella a rennir gan gloddiau â gwrychoedd. Nid oes unrhyw aneddiadau cyfannedd, ond mae caer yn dyddio o’r Oes Haearn a chrug crwn yn dyddio o’r Oes Efydd yn darparu dyfnder amser i’r dirwedd.

Ystumtuen

Mae Ystumtuen yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol gymhleth lle y ceir olion y diwydiant cloddio plwm yn gymysg â daliadau amaethyddol. Ceir nifer weddol fawr o aneddiadau ar gyfer ardal wledig, ond mae llawer o safleoedd tai anghyfannedd yn tystio i dirwedd a oedd yn llawer mwy poblog yn y 19eg ganrif.

 

 

 

Cyswllt y prosiect: Ken Murphy