Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Afon Groes

AFON GROES

CYFEIRNOD GRID: SN 692596
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 375.6

Cefndir Hanesyddol

Mae hanes cynnar yr ardal hon yn aneglur. Efallai ei bod yn rhan o faenorau Abaty Ystrad Fflur, neu efallai ei bod yn rhan o ddemen yr abaty. Rhoddwyd y maenorau i Iarll Essex pan ddiddymwyd yr abaty, gan eu gwerthu i ystâd Trawscoed (Crosswood) ym 1630. Ar ddiwedd y 18fed ganrif roedd rhan o’r ardal hon ym meddiant Trawscoed, ac efallai mai fel hyn y daeth yn rhan o’r ystad. Daeth demen yr Abaty i feddiant John Stedman ym 1567. Fodd bynnag, bu farw Richard Stedman heb wneud ewyllys ym 1746 a throsglwyddwyd yr ystâd i’r teulu Powell o Nanteos. Roedd gan Nanteos ddaliadau sylweddol yma yn y 19eg ganrif. Mae’n debyg, erbyn diwedd y Cyfnod Canoloesol, os nad ynghynt, fod maenorau a demenau abatai wedi’u rhannu’n ffermydd a gâi eu prydlesu yn fasnachol. Canlyniad y broses hon yw patrwm anheddu sy’n debyg i’r hyn a geir heddiw, fel y gwelir ar Fap Degwm Caron dyddiedig 1845. Mae mapiau cynharach - mapiau ystâd yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif (LlGC Gweithredoedd Trawscoed Cyf 1, 20 a Chyfrol 2, 1; LlGC Cyf 45, 54, 55, 69; LlGC Trawscoed 332) - yn taflu rhywfaint o oleuni ar y modd y datblygodd y dirwedd. Dengys mapiau o’r ardal i’r dwyrain o Dregaron ac o amgylch Aberdwr dyddiedig 1819 rai caeau amgaeedig, gwasgaredig, a chaeau bach yn debyg i leiniau o amgylch Penffordd. Mae’r cymysgedd hwn o ddaliadau a chaeau amgaeedig yn awgrymu i’r dirwedd o gaeau bach afreolaidd eu siâp ddatblygu o system o gaeau isranedig, ac mae’r mapiau ystâd dyddiedig 1819 yn cofnodi diwedd y broses ddatblygu hon.


Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal hon yn ymestyn ar draws lloriau dyffrynnoedd Afon Groes, Afon Brenig, Afon Berwyn a Nant Fleiniog a rhan o’r ffordd i fyny eu llethrau isaf rhwng 175m a 200m. Mae’n cynnwys ffermydd gwasgaredig wedi’u lleoli mewn matrics o gaeau bach, afreolaidd eu siâp. Nodweddir ffiniau gan gloddiau ac arnynt wrychoedd. Mae’r gwrychoedd at ei gilydd mewn cyflwr da, er na all rhai gadw stoc i mewn bellach ac maent wedi’u hatgyfnerthu â ffensys gwifrau. Ceir llawer o goed nodedig ar y ffiniau; mae’r rhain a’r coedwigoedd bach sydd wedi’u gwasgaru ar draws yr ardal yn rhoi’r argraff mai tirwedd weddol goediog ydyw. Tir pori wedi’i wella yw’r tir amaeth yn bennaf, er bod rhywfaint o dir pori heb ei wella, porfa arw a thir brwynog.

Carreg leol yw’r deunydd adeiladu traddodiadol a defnyddir llechi (llechi o ogledd Cymru) ar gyfer y toeau. Mae waliau’r tai naill ai wedi’u rendro â sment neu maent yn foel ac mae waliau’r adeiladau fferm traddodiadol bob amser yn foel. Mae ffermdai/tai hþn sy’n dyddio bron yn ddieithriad o ganol y 19eg ganrif hyd ei diwedd, yn gymharol fach, mae iddynt ddeulawr ac maent yn yr arddull frodorol Sioraidd draddodiadol – sef simneiau yn nhalcennau’r tþ, drws ffrynt canolog, dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r drws ac un uwch ei ben. Mae nodweddion brodorol megis bondo isel, ffenestri bach ac un simnai sy’n fwy o faint na’r llall i’w cael ar rai tai. Fel arfer cyfyngir adeiladau allan wedi’u hadeiladu o gerrig i un neu ddwy res fach, ac mae rhai ohonynt ynghlwm wrth y tþ ac yn yr un llinell ag ef. Ceir nifer o ffermydd nad ydynt yn gweithio bellach ac mae eu hadeiladau allan yn mynd â’u pennau iddynt. Mae gan ffermydd gweithredol resi bach o adeiladau amaethyddol dur a choncrid modern. Hefyd yn yr ardal hon ceir ty mwy o faint yn dyddio o ddechrau’r 20fed ganrif, capel rhestredig bach yn dyddio o 1866 a thai gwasgaredig yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif a dechrau’r 21ain ganrif, byngalos gan mwyaf, gyda chrynhoad ohonynt gerllaw Tregaron ar ochr ddwyreiniol yr ardal hon.

Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys ychydig o safleoedd yn unig, ac mae’r rhain yn bennaf yn anheddau sydd wedi goroesi yn dyddio o’r cyfnod ôl-ganoloesol, a mân elfennau tirwedd eraill yn dyddio o’r un cyfnod. Mae maen hir posibl yn dyddio o’r Oes Efydd yn darparu’r unig elfen o ddyfnder amser ar gyfer yr ardal.

Nid yw ffiniau’r ardal hon yn bendant ar y cyfan. Fodd bynnag, i’r gorllewin mae tref Tregaron yn darparu ffin bendant, ac i’r gogledd mae’r llethr serth hefyd yn ffin bendant.

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221