BANC BWLCH ROSERCYFEIRNOD GRID: SN 700864 Cefndir Hanesyddol Nid yw hanes y llain hon o ucheldir yn hysbys. Nis amgaewyd tan ar ôl 1840, ac felly yn ôl pob tebyg ystyrid mai tir y Goron ydoedd. Ar ôl 1840 rhannwyd yr ardal hon yn gaeau mawr a sefydlwyd o leiaf ddwy fferm, sydd bellach yn anghyfannedd. Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol Nodweddir Banc Bwlch Roser gan fryniau ac esgeiriau creigiog wedi’u lleoli rhwng ucheldir uchel i’r dwyrain a thir amgaeëdig is i’r gorllewin. Mae’r ardal hon yn codi i uchder o dros 320m, gyda’r llethrau isaf yn disgyn i 220m. Tirwedd heb goed ydyw a rannwyd yn gaeau mawr gan gloddiau. Erbyn hyn mae’r cloddiau hyn yn ddiangen i raddau helaeth ac mae rhai ffensys gwifrau yn darparu ffiniau cadw stoc. Mae’r ardal yn cynnwys tir pori wedi’i wella yn bennaf, er bod tir mwy garw ar lethrau serth, a rhai pantiau mawnaidd a brwynog. Lleolir olion lefelydd mwyngloddiau metel ar lethrau sy’n wynebu’r de. Nid astudiwyd y ddwy fferm anghyfannedd yn yr ardal hon yn y maes. Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys maen hir posibl a chrug crwn posibl, y ddau yn dyddio o’r Oes Efydd. Ardal ar wahân ydyw; mae’n gweithredu fel
clustogfa rhwng rhostir agored i’r dwyrain a thir amgaeëdig
is i’r gorllewin. Mae’r ffiniau rhwng yr ardal hon a’r
dyffrynnoedd i’r gogledd ac i’r de yn llai clir, ond serch
hynny maent yn amlwg ar y ddaear.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221 |