Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Banc Llechwedd Ddu

BANC LLECHWEDD-DDU

CYFEIRNOD GRID: SN 702850
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 131.7

Cefndir Hanesyddol

Roedd yr ardal hon yn rhan o faenor Y Dywarchen a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur. Pan ddiddymwyd yr abaty trosglwyddwyd y tir i’r Goron, ac yn y pen draw aeth yn rhan o ystad Gogerddan. Ardal o dir agored ydyw ar hyn o bryd, ac mewn cyfnodau hanesyddol bu bob amser yn rhostir agored. Nid oes unrhyw aneddiadau yn yr ardal.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal hon yn ymestyn dros esgair greigiog uchel sy’n codi i 430m lle y mae ar ei huchaf ac sy’n disgyn i 200m ar ei llethrau gogleddol. Mae’n cynnwys tir pori garw a rhai pocedi o dir pori wedi’i wella. Ceir carneddau modern sy’n gysylltiedig â gweithgarwch clirio caeau ar dir a gafodd ei wella’n ddiweddar. Yn hanesyddol mae’n dir agored, er bod ffensys gwifrau yn rhannu’r ardal yn gaeau mawr iawn. Nid oes unrhyw aneddiadau. Mae cyfres o ffrydiau, a arferai wasanaethu mwyngloddiau metel, yn rhedeg ar draws llethrau gogleddol yr ardal hon (Tucker 1976).

Ar wahân i’r ffrydiau a grybwyllwyd uchod, mae’r archeoleg a gofnodwyd yn yr ardal hon yn cynnwys anheddiad anghyfannedd yn dyddio o’r cyfnod ôl-Ganoloesol.

Mae i’r ardal hon ffiniau pendant a cheir coedwigoedd i’r dwyrain ac i’r de, tir is a arferai fod yn amgaeëdig i’r gorllewin, a dyffryn Llawr-y-cwm-bach i’r gogledd.

Map Banc Llechwedd Ddu

 

 

 

 

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221