Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Ban Llety Ifan Hen

BANC LLETY IFAN HEN

CYFEIRNOD GRID: SN 693850
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 88.6

Cefndir Hanesyddol

Yn y Cyfnod Canoloesol roedd yr ardal hon yn rhan o Faenor Y Dywarchen a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur, pan ymddengys y câi ei defnyddio fel tir pori ucheldirol lle y safai hafod (Williams 1990, 57). Mae ei hanes diweddarach yn ansicr, ond pan ddiddymwyd yr abaty ymddengys iddi fynd yn rhan o ystad Gogerddan. Ffridd agored heb unrhyw aneddiadau ydoedd tan y 1840au, ac ar ôl hynny fe’i rhannwyd yn gaeau mawr. Dechreuwyd cloddio am fetel yn yr ardal yn 1840au pan agorwyd mwynglawdd Llety Ifan Hen, a barhaodd i weithio tan 1911 (Bick 1988, 32).

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal fach hon yn cynnwys y rhan honno o esgair greigiog sy’n gorwedd rhwng tir uchel, agored i’r dwyrain a thir amgaeëdig is i’r gorllewin. Mae’r ardal yn codi i 300m lle y mae ar ei huchaf, ac mae’r llethrau yn disgyn i 200m. Mae hen gaeau mawr a nodir gan gloddiau pridd a cherrig bellach yn ddiangen, ac mae’r ardal yn y bôn yn cynnwys tir agored unwaith eto wedi’i rannu gan ambell ffens wifrau. Tir pori wedi’i wella a geir gan fwyaf, er bod darnau o dir garw a rhedyn, yn arbennig ar lethrau serth. Tirwedd heb goed ydyw. Mae olion y diwydiant cloddio metel yn nodweddion tirwedd amlwg, ac maent yn cynnwys pwll olwyn, tþ injan, traphont a nodweddion eraill. Yn rhedeg ar draws llethrau gogleddol yr ardal hon ceir ffrydiau a wasanaethai’r diwydiant cloddio metel (Tucker 1976).

Mae archeoleg gofnodedig yr ardal hon yn cynnwys bryngaer yn dyddio o’r Oes Haearn sydd mewn cyflwr da - sef Pen-y-Castell - a dau faen hir yn dyddio o’r Oes Efydd. Mae aneddiadau anghyfannedd yn dyddio o’r cyfnod ôl-Ganoloesol ar gyrion yr ardal yn tystio i dirwedd gyfannedd yn y gorffennol cymharol ddiweddar.

Mae i’r ardal dirwedd hon ffiniau eithaf pendant, ac mae’n gorwedd rhwng tir agored i’r dwyrain, coedwigoedd i’r de-ddwyrain a thir amgaeëdig is i’r gogledd-orllewin, i’r gorllewin ac i’r de-orllewin.

Map Banc Llety Ifan Hen

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221