Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Banc Troedrhiwseiri

BANC TROEDRHIWSEIRI

CYFEIRNOD GRID: SN 670854
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 253.1

Cefndir Hanesyddol

Yn y Cyfnod Canoloesol gorweddai’r ardal hon o fewn Maenor Y Dywarchen a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur (Williams 1990, 57), lle y’i defnyddid fel tir pori ucheldirol yn ôl pob tebyg. Yn y cyfnod ôl-Ganoloesol daeth y tir i feddiant ystadau Gogerddan a Thrawscoed. Dengys mapiau ystad o ddiwedd y 18fed ganrif (LlGC Gogerddan 67; Trawscoed 345-6; Cyf 38, 10, 12, 14) fod yr ardal yn hollol agored ar wahân i ddau fwthyn neu ddwy fferm, pob un ag un neu ddau badog gerllaw’r aneddiadau. Erbyn y 1840au roedd yr ardal gyfan wedi’i rhannu’n system o gaeau rheolaidd o faint canolig i fawr. O fewn yr ardal hon ceir mwynglawdd Court Grange. Roedd y mwynglawdd wedi’i weithio ers 1695, ond yn debyg i’r mwyafrif o fwyngloddiau yng Ngheredigion, yn y 19eg ganrif y cafwyd y prif gyfnod gweithio. Caeodd yn negawd olaf y 19eg ganrif (Bick 1988, 28-31).

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal hon yn ymestyn dros esgair gron wedi’i halinio o’r dwyrain i’r gorllewin sy’n codi i 255m lle y mae ar ei uchaf yn ei phen dwyreiniol. Mae ei llethrau i’r gogledd ac i’r de yn disgyn i 130m-150m. Mae’r ardal gyfan bron yn cynnwys tir pori wedi’i wella, ond ceir pantiau o dir mawnaidd a brwynog, a thir mwy garw yn cynnwys rhedyn ac eithin ar lethrau mwy serth. Mae’r ardal wedi’i rhannu’n gyfres o gaeau mawr iawn gan gloddiau pridd a cherrig, ond erbyn hyn mae’r rhain at ei gilydd yn ddiangen ac mae ffensys gwifrau yn ffurfio’r ffiniau cadw stoc. Ceir ambell wrych wedi’i esgeuluso ar rai cloddiau ffin, ond yn y bôn tirwedd heb goed ydyw ar wahân i glystyrau bach o goed collddail a choed coniffer ar y llethrau gogleddol. Nid oes unrhyw aneddiadau anghyfannedd yn yr ardal. Mae olion y diwydiant cloddio plwm yn cynnwys tomenni, pwll olwyn, siafftiau, cronfa ddðr a ffrydiau.

Ar wahân i olion y diwydiant cloddio metel, henebion yn dyddio o’r Oes Efydd sy’n ffurfio’r rhan fwyaf o’r cofnod archeolegol. Ceir dau faen hir a thrydydd maen posibl o fewn yr ardal, yn ogystal â chrug crwn a thwmpath llosg neu aelwyd - a all nodi safle anheddiad.

I’r gogledd ac i’r de mae tir amgaeëdig is yn darparu ffiniau pendant ar gyfer yr ardal hon. I’r dwyrain ac i’r gorllewin nid oes unrhyw ffin glir rhwng yr ardal hon a’i chymdogion.

Map Banc Troedrhiwseiri

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221