Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Berthddu

BERTHDDU

CYFEIRNOD GRID: SN 675662
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 216.5

Cefndir Hanesyddol

Yn y Cyfnod Canoloesol gorweddai rhan o’r ardal hon o fewn Maenor Mefenydd a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur. Pan ddiddymwyd Ystrad Fflur rhoddwyd holl ddaliadau’r abaty i Iarll Essex. Yn fuan ar ôl hynny, ymddengys i’r tir yn yr ardal hon ac o’i hamgylch gael ei brynu gan y teulu Lloyd o Ffosybleiddiaid, ac efallai iddo ddod i feddiant y teulu Vaughan o Drawsgoed ar ôl hynny. Ni wyddom sut y crëwyd y dirwedd hon. Mae’r system gaeau reolaidd yn awgrymu i’r tir gael ei amgáu i gyd gyda’i gilydd neu mewn ychydig o episodau, yn hytrach na thresmasu afreolaidd. Ni wyddom pryd yr amgaewyd y tir, ond roedd y patrwm anheddu wedi’i sefydlu erbyn arolwg degwm 1844 (Map Degwm a Rhaniad Lledrod, 1844). Adeiladwyd capel yn yr ardal hon yn y 19eg ganrif.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Esgair wedi’i halinio o’r de-ddwyrain i’r gogledd-orllewin sy’n codi i 270m lle y mae ar ei huchaf. Mae ei llethrau gogledd-ddwyreiniol a de-orllewinol yn disgyn yn gyflym i 170m lle y maent ar eu hisaf. Mae’r ardal hon yn cynnwys ffermydd gwasgaredig a chaeau eithaf rheolaidd o faint bach i ganolig; mae’r caeau mwy o faint fel arfer wedi’u lleoli ar y tir uwch. Mae natur reolaidd y caeau yn cyferbynnu â systemau caeau afreolaidd ardaloedd i’r dwyrain. Rhennir y caeau gan gloddiau ac arnynt wrychoedd ar y llethrau isaf, a chloddiau â wyneb o gerrig ac arnynt wrychoedd sydd ar y cyfan wedi’u hesgeuluso ar y tir uwch a chopa’r esgair. Mae ffensys gwifrau wedi’u hychwanegu at lawer o’r hen ffiniau. Tirwedd agored ydyw heb fawr ddim coed. Mae tir pori wedi’i wella yn gyffredin. Mae’r tai wedi’u hadeiladu o gerrig wedi’u rendro a chanddynt doeau llechi masnachol ac maent yn arddull frodorol Sioraidd yr ardal sy’n nodweddiadol o’r cyfnod o ganol y 19eg ganrif hyd ei diwedd, sef tai deulawr â simneiau yn y ddau dalcen, drws ffrynt canolog, dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r drws ac un uwch ei ben. Mae nodweddion brodorol megis bondo isel, ffenestri bach ac un simnai sy’n fwy o faint na’r llall i’w gweld ar rai tai. Mae’r adeiladau allan wedi’u hadeiladu o gerrig moel ac fe’i cyfyngir fel arfer i un neu ddwy res fach. Mae gan ffermydd gweithredol resi o faint bach i ganolig o adeiladau amaethyddol modern.

Nid yw’r archeoleg a gofnodwyd yn arbennig o amrywiol, ac mae’n cynnwys adeiladau sydd wedi goroesi neu adeiladau anghyfannedd gan fwyaf yn dyddio o’r cyfnod ôl-Ganoloesol, ac mae twmpath llosg neu aelwyd yn dyddio o’r Oes Efydd yn darparu’r unig elfen o ddyfnder amser ar gyfer y dirwedd.

Ni ddiffiniwyd ardaloedd cymeriad tirwedd i’r gogledd, i’r dwyrain ac i’r gorllewin eto. I’r de ac i’r de-ddwyrain ceir caeau afreolaidd ardaloedd cyfagos, er nad oes unrhyw ffin bendant rhwng y rhain a’r ardal hon.

Map o ardal Berthddu

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]