Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Blaen-glasffrwd

BLAEN-GLASFFRWD

CYFEIRNOD GRID: SN 767631
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 230.9

Cefndir Hanesyddol

Yn y Cyfnod Canoloesol gorweddai’r ardal hon o fewn Maenor Penardd a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur. Pan ddiddymwyd yr abaty, rhoddwyd y maenorau i Iarll Essex, a’u gwerthodd i Ystad Trawscoed ym 1630. Mae’n debyg bod Penardd, fel y maenorau eraill, wedi’i rhannu’n ffermydd ac yn cael ei phrydlesu yn fasnachol erbyn diwedd y Cyfnod Canoloesol, os nad ynghynt. Efallai i’r ffermydd yn yr ardal hon gael eu sefydlu o dan y system hon. Map degwm 1845 (plwyf Caron) yw’r arolwg sylweddol cynharaf o’r ardal. Dengys y map ffermydd Blaen-Glasffrwd, Hafod Newydd a Thynygarreg, a dau fwthyn dienw a chanddynt gaeau bach wrth eu hymyl a chaeau mwy o faint ymhellach allan, wedi’u gosod mewn môr o ffridd agored. Ers yr arolwg degwm bu gostyngiad yn nifer yr aneddiadau, ac mae caeau yn tueddu i gael eu ffermio fel unedau mawr iawn. Mae enw lle yn cynnwys yr elfen hafod yn awgrymu bod y fferm sy’n dwyn yr enw hwnnw wedi dechrau o dan system o drawstrefa.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal hon, y ceir coedwigoedd o bob tu iddi bellach, yn gorwedd mewn dyffryn ucheldirol agored rhwng 400m a 500m. Ceir un fferm gyfannedd ar hyn o bryd, a saif mewn tirwedd o dir pori wedi’i wella â phantiau mawnaidd a brwynog, a thir pori garw ar rai o’r llethrau mwy serth. Mae cloddiau ffin a arferai rannu’r ardal yn gaeau at ei gilydd yn ddiangen, ac erbyn hyn ffensys gwifrau sy’n ffurfio’r brif ffin cadw stoc. Mae’r rhain yn rhannu’r ardal yn gyfres o unedau mawr. Tirwedd heb goed ydyw.

Mae aneddiadau anghyfannedd yn dyddio o’r cyfnod ôl-Ganoloesol yn y cofnod archeolegol yn tystio i dirwedd lawer mwy poblog nag a geir yn awr. Mae nifer o grugiau crwn neu garneddau yn dyddio o’r Oes Efydd a maen hir posibl yn ychwanegu dyfnder amser at y dirwedd.

Mae planhigfa amgylchynol o goedwigoedd yn gosod ffiniau pendant i’r ardal hon.

Map ardal Blaen-glasffrwd

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221