BLAEN PEITHNANTCYFEIRNOD GRID: SN 775841 Cefndir Hanesyddol Gorweddai’r llain hon o ucheldir uchel o fewn Gwestfa Cwm Rheidol yng Nghwmwd Perfedd a mwy na thebyg ystyrid mai tir y Goron ydoedd hyd yn gymharol ddiweddar. Nis amgaewyd erioed, ac nes iddi gael ei phlannu â chonifferau yn y 1960au, rhostir agored ydoedd. Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol Mae planhigfa o gonifferau ag ymyl galed yn diffinio’r ardal hon o ucheldir creigiog sy’n codi i dros 560m lle y mae ar ei huchaf. Cyn cael ei phlannu, rhostir agored ydoedd; erbyn hyn planhigfeydd, lonydd, ffyrdd a nodweddion coedwig eraill yw’r elfennau tirwedd hanesyddol mwyaf cyffredin ac amlycaf yn yr ardal hon. Yr unig archeoleg a gofnodwyd yn yr ardal yw mwynglawdd metel bach. O bob tu i’r ardal hon o goedwigoedd ceir rhostir
agored.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221 |