Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Blaen Sychnant

BLAEN SYCHNANT

CYFEIRNOD GRID: SN 710687
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 181.3

Cefndir Hanesyddol

Yn y Cyfnod Canoloesol, gorweddai’r ardal hon o fewn Maenor Mefenydd a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur. Pan ddiddymwyd yr abaty rhoddwyd y maenorau i Iarll Essex a’u gwerthodd, ar ôl hynny, ym 1630, i ystad Trawscoed. Mae’n debyg bod yr ardal gymharol uchel hon yn agored ac felly iddi gael ei hawlio gan y Goron, ond roedd rhan ohoni ym meddiant Trawscoed fel y dangosir ar fap o’r ystad dyddiedig 1781 (LlGC Trawscoed Cyf 1, 66). Dengys y map hwn dir i’r gogledd o Fynachdy naill ai fel tir agored neu dir sydd wedi’i amgáu’n gaeau mawr. Mae’n debyg bod ystad Trawscoed yn bwriadu meddiannu’r darn hwn o dir y Goron a’i fod am ei amgáu. Fodd bynnag, ymsefydlodd sgwatwyr neu dyddynwyr ar y tir, er mawr siom i’r ystad, a geisiodd yn aflwyddiannus eu gyrru ymaith (Morgan 1997, 211). Erbyn canol y 19eg ganrif roedd patrwm o fythynnod sgwatwyr â chaeau bach a chaeau mwy rheolaidd, mwy o faint yn perthyn i’r ystad wedi’i sefydlu ar draws yr ardal gyfan (arolwg degwm dyddiedig 1843). Yn ystod yr 20fed ganrif gadawyd yr aneddiadau hyn a chwalwyd y patrwm o gaeau.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae hon yn ardal o ucheldir tonnog, sydd weithiau yn greigiog, sy’n amrywio o ran uchder rhwng 200m a 300m. Ceir casgliad o fythynnod anghyfannedd wedi’u gwasgaru ar draws y dirwedd, ac o leiaf un annedd gyfannedd – sef bwthyn carreg. Bythynnod sgwatwyr yn dyddio o ddechrau’r 19eg ganrif yw’r rhain. O bob tu i’r bythynnod anghyfannedd ceir systemau caeau creiriol o gaeau a phadogau bach a chaeau mwy o faint ymhellach allan. Arferai cloddiau pridd a cherrig a waliau sych rannu’r caeau, ond erbyn hyn ffensys gwifrau sy’n eu rhannu. Tir pori wedi’i wella, sy’n ymestyn weithiau dros hen gloddiau ffin, a geir gan amlaf yn yr ardal, ond ceir darnau o dir pori mwy garw hefyd. Tirwedd heb goed ydyw yn y bôn.

Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn yr ardal hon yn cynnwys bythynnod anghyfannedd ac olion cysylltiedig yn bennaf. Fodd bynnag, mae mwynglawdd metel wedi’i gofnodi, ac mae mwnt Canoloesol - Cwm Meurig Isaf - yn darparu elfen o ddyfnder amser ar gyfer y dirwedd.

I’r gogledd ac i’r de-orllewin, mae ucheldir agored a lled-amgaeëdig yn ymdoddi i’r ardal hon. Mewn mannau eraill mae’r ffin rhwng yr ardal hon a’i chymdogion yn fwy pendant, am fod y tir yn disgyn i dir pori amgaeëdig, is, lle y ceir aneddiadau.

Map Blaen Sychnant

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221