Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Bont Goch

BONT-GOCH

CYFEIRNOD GRID: SN 687864
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 311.4

Cefndir Hanesyddol

Ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes yr ardal hon. Erbyn diwedd y 18fed ganrif roedd rhai daliadau yn yr ardal hon ym meddiant ystadau Trawscoed a Court Grange. Dengys mapiau ystad yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif (LlGC Trawscoed 345/46; LlGC Cyf 38, 16) dirwedd dra gwahanol i’r un a welir heddiw. Ddwy ganrif yn ôl ni chynhwysai’r ardal fawr ddim aneddiadau na chaeau, er y dangosir rhai bythynnod ar rostir agored, yn ogystal ag un fferm yng nghanol rhai caeau bach a choetir ar lethrau mwy serth. Dangosir mwyngloddiau metel hefyd. Yn wir y diwydiant cloddio metel a ddarparodd y symbyliad i bobl ymsefydlu yn yr ardal. Mae mwynglawdd Llanerch-clwydau yn eithaf hynafol. Fe’i gweithiwyd yn yr 17eg ganrif, ond nid ar ôl hynny. Roedd mwynglawdd Mynydd Gorddu ar waith yn ystod ail hanner y 19eg ganrif, ac ymddengys iddo ddod i ben cyn diwedd y ganrif (Bick 1988, 31-2). Datblygodd bythynnod ac aneddiadau eraill yn raddol yn ystod y 19eg ganrif, ac amgaewyd tir. Sefydlwyd eglwys ym 1868 (Jones 1998, 487), ac ysgol yn ddiweddarach. Mae’n debyg i lawer o’r bythynnod ddechrau fel aneddiadau sgwatwyr ar dir agored. Yn ystod yr 20fed ganrif gadawyd aneddiadau yn raddol. Adeiladwyd gwaith dwr yn yr 20fed ganrif; erbyn hyn disodlwyd y strwythur gwreiddiol gan safle modern. Mae’r ardd ym Mhlas Cefn-gwyn wedi’i chofnodi ar Gronfa Ddata Gerddi Hanesyddol Cymru.

Bont Goch

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal gymhleth hon wedi’i chanoli yn nyffryn uchaf, agored Afon Leri, wedi’i lleoli rhwng 150m a 250m. Mae pentref Bont-goch yn cynnwys clwstwr llac o adeiladau a saif yng nghanol patrwm o ffermydd a thai sydd wedi’u gwasgaru’n eang.

Saif grwp o adeiladau yn dyddio o’r 19eg ganrif yng nghanol Bont-goch. Mae’r rhain yn cynnwys: eglwys Fictoraidd uchel Sant Pedr, hen-ysgol yr eglwys yn dyddio o oes Fictoria, Plas Cefn Gwyn - plasty yn dyddio o ddiwedd y cyfnod Sioraidd, yr hen ficerdy Fictoraidd, capel bach â thþ ynghlwm wrtho a melin þd yn dyddio o’r 19eg ganrif. Mae pob un o’r adeiladau uchod yn rhestredig. Carreg - wedi’i gadael yn foel, wedi’i phaentio neu wedi’i rendro - yw’r deunydd adeiladu traddodiadol, a cheir llechi ar y toeau. Mae adeiladau hþn yn y pentref yn cynnwys nifer o fythynnod/tai bychain deulawr brodorol, a rhai tai yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif a chanddynt nodweddion Sioraidd bonheddig cryfach. Mae llawer o’r tai hyn yn dyddio o’r 19eg ganrif wedi’u moderneiddio, ac mae tai a byngalos modern yn llenwi’r bylchau rhwng yr adeiladau hþn. Yn wir tai modern fydd y prif fath o adeilad yn y pentref cyn hir. Ceir hefyd waith dwr wedi’i adeiladu o gerrig yn agos at ganol y pentref, sy’n fach yn awr o’i gymharu â’r gwaith concrid a dur modern gerllaw. Mae ffermydd/tai gwasgaredig fel arfer yn dyddio o ganol y 19eg ganrif hyd ei diwedd. Maent yn gymharol fach, mae ganddynt ddau lawr ac maent yn yr arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol - sef simneiau yn nhalcennau’r tþ, drws ffrynt canolog, dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r drws ac un uwch ei ben. Mae’r adeiladau fferm hyn yn gymharol fach ac maent yn ffurfio un neu ddwy res. Fel arfer mae gan ffermydd gweithredol adeiladau amaethyddol concrid a dur modern o faint canolig, er i un rhes helaeth iawn o adeiladau modern gael ei nodi. Nid oes fawr ddim tai modern y tu allan i’r pentref.

Nodweddir y patrwm caeau gan gaeau bach afreolaidd eu siâp a rennir gan gloddiau pridd a cherrig. Nid oes unrhyw wrychoedd bellach neu lle y maent wedi goroesi ar lethrau is maent yn segur, ac eithrio ar hyd ffyrdd lle y maent mewn cyflwr da. Ar adeg cynnal yr arolwg, roedd un gwrych ymyl ffordd yn cael ei osod. Mae ambell goeden nodedig wedi goroesi mewn rhai gwrychoedd. Ceir clystyrau o goetir collddail. Mae’r hen batrwm caeau hwn yn dechrau dirywio; nid yn unig y mae’r mwyafrif o’r caeau bellach wedi’u rhannu gan ffensys gwifrau, ond mewn rhai ardaloedd mae tir pori yn troi’n dir garw, brwynog unwaith eto. Mae rhai pantiau mawnaidd i’w gweld. Fodd bynnag, mae rhai caeau bellach yn cynnwys tir pori wedi’i wella. Mae olion y diwydiant cloddio metel yn elfen amlwg o’r dirwedd hanesyddol, yn arbennig tua phen gorllewinol yr ardal - mwynglawdd Mynydd Gorddu - lle y mae tomenni helaeth wedi goroesi.

Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn bennaf yn cynnwys olion mwyngloddiau metel a nodweddion cysylltiedig megis ffrydiau a chronfeydd dwr, neu adeiladau ac aneddiadau anghyfannedd. Mae ffynnon gysegredig a gysegrwyd o bosibl i Badarn Sant yn yr Oesoedd Tywyll, nifer o dwmpathau llosg neu aelwydydd yn dyddio o’r Oes Efydd – aneddleoedd posibl, a maen hir posibl yn dyddio o’r Oes Efydd yn rhoi mwy o ddyfnder amser i’r dirwedd.

Mae i’r ardal ffiniau pendant ar bob ochr ar wahân i’r gogledd lle y mae ymdoddi i ardaloedd cyfagos. Mewn mannau eraill, mae tir uchel, a arferai fod yn agored yn ffinio â’r ardal hon.


Map o ardal Bont Goch

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]