Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Bryn gwyn

BRYN GWYN

CYFEIRNOD GRID: SN 746862
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 148.2

Bryn gwyn

Cefndir Hanesyddol

Yn ôl pob tebyg ystyrid mai tir y Goron oedd y llain hon o ucheldir uchel o fewn Gwestfa Trefmeurig yng Nghwmwd Perfedd, er bod rhan ohoni wedi’i meddiannu gan ystad Gogerddan neu wedi’i throsglwyddo i’r ystad mewn rhyw ffordd arall erbyn diwedd y 18fed ganrif. Dengys map o’r ystad yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif annedd - Fagwyr Isaf - yng nghornel dde-ddwyreiniol yr ardal hon wedi’i lleoli mewn llain fawr o dir agored. Mae’r annedd wedi mynd bellach. Cadwyd cymeriad agored y tir nes iddo gael ei drosglwyddo i’r Comisiwn Coedwigaeth a chael ei blannu â chonifferau yn y 1960au.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Gorchuddir yr ardal ucheldirol greigiog hon, sy’n codi i uchder o dros 440m, gan blanhigfeydd o goed coniffer a chanddynt ymyl caled. Cyn ei phlannu rhostir agored ydoedd; erbyn hyn planhigfeydd, lonydd, ffyrdd a nodweddion coedwig eraill yw’r elfennau tirwedd hanesyddol mwyaf cyffredin ac amlycaf yn yr ardal hon.

Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn yr ardal hon yn cynnwys cylch cytiau yn dyddio o’r Oes Haearn, a thri chwt hir o’r cyfnod ôl-Ganoloesol ar ei chwr deheuol.

Mae ymylon y coedwigoedd yn rhoi ffiniau pendant i’r ardal hon. I’r gorllewin ceir rhostir agored, ac ar bob ochr arall dir agored a chronfa ddwr.

Map ardal Bryngwyn

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221