Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Bwlchcrwys

BWLCHCRWYS

CYFEIRNOD GRID: SN 701771
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 834.0

Cefndir Hanesyddol

Yn debyg i ardaloedd cyfagos, ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes cynnar yr ardal hon. Erbyn y 18fed ganrif roedd wedi’i rhannu rhwng ystadau Trawscoed a Nanteos. Dengys mapiau ystad yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif (LlGC Gweithredoedd Trawscoed Rhif 5 Cyf IV, Cyf 1, 16; LlGC Cyf 45, 31, 32, 39, 41; LlGC Nanteos 349 a 312) yn ystod y cyfnod hwn fod lleiniau mawr o dir yn ffridd agored - Cefn Garreg, Cefn Banal a Banc Cae Magwr. Roedd y ffermydd yn anghysbell ac fel arfer roedd ganddynt un neu ddau gae bach gerllaw’r anheddau wedi’u lleoli mewn môr o ffridd agored, neu fel yng Nghennant, gaeau bach gerllaw’r fferm a chaeau mwy o faint ymhellach allan. Mewn rhai achosion nid oedd gan ffermydd unrhyw badogau na chaeau bach hyd yn oed. Ym Mwlchcrwys ym 1764 (LlGC Nanteos 312) ymddengys fod ffin y fferm wedi’i nodi gan glawdd, gwrych neu ffens, ond nid oedd unrhyw raniadau mewnol ac roedd y fferm wedi’i lleoli mewn tir a elwid yn ‘Dir Agored Clir’ ac yn ‘Fawnog’. Erbyn arolwg degwm y 1840au roedd llawer o’r tir a arferai fod yn agored wedi’i ffurfio’n gaeau mawr ac roedd y caeau mawr wedi’u hisrannu. Amgaewyd rhagor o dir yn ystod ail hanner y 19eg ganrif.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal dirwedd weddol fawr hon yn cynnwys nifer o esgeiriau crwn wedi’u halinio o’r dwyrain i’r gorllewin sy’n codi i uchder o 340m, a wahenir gan ddyffrynnoedd sydd rhwng 200-280m o uchder. Ar wahân i blanhigfeydd bach o goed coniffer yn dyddio o’r 20fed ganrif tirwedd heb goed ydyw yn y bôn. Mae’r tir i gyd bron yn dir pori wedi’i wella, er y ceir pocedi o dir mawnaidd a brwynog mewn rhai pantiau, a thir pori garw ar lethrau serth. Cloddiau sy’n ffurfio hen ffiniau’r caeau. Nid oes unrhyw wrychoedd ar wahân i ambell enghraifft sydd wedi’i hesgeuluso a/neu sydd wedi tyfu’n wyllt gerllaw ffermydd. Erbyn hyn mae ffensys gwifrau yn rhannu’r ardal yn gaeau mawr a mawr iawn, ac mae rhai ffensys yn dilyn yr hen gloddiau ffin. Yn gyffredinol mae golwg tir agored wedi’i wella ar yr ardal hon, yn arbennig pan edrychir arni o bellter. Mae tystiolaeth o weithgarwch cloddio ar raddfa fach, ac mae cronfeydd dðr bach yn gysylltiedig â’r mwyngloddiau hyn yn ôl pob tebyg. Yn croesi’r ardal o’r gorllewin i’r dwyrain mae’r A4120. Y gyn-ffordd dyrpeg hon oedd y prif lwybr i’r dwyrain o orllewin Cymru cyn i ffordd dyrpeg newydd – ffordd bresennol yr A44 – gael ei hadeiladu ym 1829 (Coyler 1984, 180).

Nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd gwasgaredig. Nid oes fawr ddim aneddiadau anamaethyddol a fawr ddim anheddau modern nad ydynt ynghlwm wrth fferm. Mae gan ffermydd ddau lawr fel arfer, maent yn dyddio o ganol y 19eg ganrif hyd ei diwedd, maent wedi’u hadeiladu o gerrig ac wedi’u rendro, ac maent yn arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol yr ardal, er bod un tþ o leiaf yn fodern ac mae eraill wedi’u moderneiddio gryn dipyn. Mae gan y mwyafrif ddwy neu dair rhes o adeiladau allan o gerrig, sydd weithiau wedi’u trefnu’n lled-ffurfiol o amgylch iard, ac mae gan ffermydd gweithredol resi mawr o adeiladau amaethyddol modern. Mae dau gapel yn tystio i’r ffaith y bu’r boblogaeth yn gymharol fawr yn y gorffennol.

Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn yr ardal hon yn darparu dyfnder amser i’r dirwedd. Ceir dau grug crwn yn dyddio o’r Oes Efydd a thrydydd crug crwn o bosibl. Lleolir bryngaer yn dyddio o’r Oes Haearn i’r gogledd-ddwyrain o’r ardal, ac mae’n debyg iawn bod cloddwaith yn y gogledd-orllewin yn dystiolaeth o ail fryngaer. Mae’r mwyafrif o’r olion archeolegol yn gysylltiedig â’r diwydiant cloddio metel, er bod hen chwareli yn un o nodweddion arbennig y dirwedd, ac mae’n debyg iawn bod yr enw lle Felinwynt yn cyfeirio at safle melin wynt.

I’r gogledd mae i’r ardal ffiniau arbennig o bendant â llethr serth, coediog iawn Cwm Rheidiol. Mae dyffryn dwfn Cwm Magwr yn diffinio’r ardal i’r de-orllewin. I’r gogledd-ddwyrain ceir tirwedd o gaeau bach ac anheddiad cnewyllol, ac i’r dwyrain tir a arferai fod yn agored. I’r de mae’r dirwedd yn cynnwys gwasgariad mwy dwys o aneddiadau a hen system gaeau sydd (at ei gilydd) yn gyfan. Ceir anheddiad sgwatwyr i’r dwyrain.

Map Bwlchcrwys

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]