CAPEL BANGORCYFEIRNOD GRID: SN 660800 Cefndir Hanesyddol Ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes yr ardal hon. Cymerir yn ganiataol bod yr enw lle ‘Bangor’ yn cyfeirio at sefydliad eglwysig cyn y goresgyniad Eingl-Normanaidd. Nid oes unrhyw dystiolaeth arall i ategu hyn. Efallai bod yr elfen ‘maes’ yn yr enw yn nodi bod system faes agored neu system o gaeau isranedig yno gynt, er nad oes unrhyw dystiolaeth ddogfennol i ategu hyn. Fodd bynnag, efallai i’r patrwm presennol o gaeau bach afreolaidd eu siâp a ffermydd gwasgaredig ddatblygu o’r fath system ar ddiwedd y Cyfnod Canoloesol neu ar ddechrau’r cyfnod modern. Mae’n amlwg erbyn y map cyntaf ar raddfa fawr o’r ardal, sef map degwm 1845 (plwyf Llanbadarnfawr), roedd y patrwm anheddu presennol o ffermydd gwasgaredig a chaeau bach wedi’i sefydlu. Wedi’i harosod ar y dirwedd amaethyddol hon ceir tirwedd o ddiwydiant a chrefftau gwledig. Cynhwysai pentref Capel Bangor ym 1845 bump neu chwech o anheddau ym ‘Mhandy’, sy’n nodi melin bannu yn ôl pob tebyg, a gefail gof, a ‘Ffatri’ wedi’i lleoli i fyny’r afon. Adeiladwyd capel yma ym 1790 (Percival 1998, 517), ac yn ddiweddarach eglwys a chapel arall. Parhaodd y pentref i ddatblygu drwy gydol ail hanner y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif. Adeiladwyd ffordd osgoi i osgoi craidd yr hen bentref. Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol Mae’r ardal hon yn cwmpasu un o gerlannau Afon Rheidol sydd tua 30m-50m DO o uchder a llethrau isaf y dyffryn i fyny at tua 170m. Tir pori wedi’i wella yw’r tir amaeth i gyd bron, ac ni cheir fawr ddim tir mwy garw a dim tir âr. Nodweddir y patrwm anheddu sylfaenol gan ffermydd gwasgaredig. Wedi’u cynnwys yn yr ardal mae Glan Rheidol, plasty rhestredig a chanddo do o deils coch yn dyddio o ddechrau’r 19eg ganrif, a’i ardd hanesyddol. Fodd bynnag, carreg, wedi’i rendro neu wedi’i gadael yn foel, yw’r prif ddeunydd adeiladu, a cheir llechi ar y toeau. Mae’r ffermdai yn dyddio o’r 19eg ganrif yn bennaf, maent wedi’u hadeiladu o gerrig ac maent yn arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol y rhanbarth. Mae gan ffermydd ddwy neu dair rhes o adeiladau allan cerrig yn dyddio o’r 19eg ganrif ac adeiladau amaethyddol concrid a dur modern sylweddol. Wedi’i arosod dros y patrwm amaethyddol hwn mae pentref Capel Bangor yn dyddio o’r 19eg ganrif a’r 20fed ganrif. Yng nghanol Capel Bangor ar hyd yr hen ffordd trwy’r pentref ceir tai gweithwyr, gan gynnwys terasau o fythynnod unllawr yn ogystal â’r tai sengl a’r tai pâr deu lawr a adeiladwyd o gerrig moel ag addurniadau brics ar gyfer gweithwyr ar ddiwedd y 19eg ganrif sy’n fwy nodweddiadol o’r rhanbarth. Ceir eglwys yn yr arddull Sioraidd yn dyddio o’r 19eg ganrif a chapel y mae tþ ac ysgoldy ynghlwm wrtho (i gyd yn rhestredig) yn y pentref hefyd. Lleolir nifer o filas gothig sylweddol a adeiladwyd o gerrig a brics ar ddiwedd y 19eg ganrif gerllaw craidd y pentref. Ymddengys fod adeiladau Aberystwyth, a leolir ychydig i’r dwyrain, wedi dylanwadu ar y rhain, ac nid oes iddynt swyddogaeth amaethyddol amlwg: tai rheolwyr neu berchenogion mwyngloddiau plwm ydynt yn ôl pob tebyg. Erbyn hyn adeiladwyd ffordd osgoi i osgoi craidd yr hen bentref. Mae gorsafoedd petrol a gwasanaethau eraill, siopau, tai modern, ystadau tai bach ac ysgol wedi datblygu ar hyd y ffordd newydd hon neu’n agos ati. Nodweddir patrymau caeau gan gaeau bach afreolaidd eu siâp. Rhennir y caeau hyn gan gloddiau ac arnynt wrychoedd. At ei gilydd mae’r gwrychoedd mewn cyflwr da ar y gerlan a dim ond canran fach ohonynt sydd wedi’u hesgeuluso. Ar dir uwch ni chânt eu rheoli cystal ac mae nifer fwy yn dechrau tyfu’n wyllt. Mae ffensys gwifrau wedi’u hychwanegu at y mwyafrif o wrychoedd. Mae coetir collddail a choed unigol o barcdir gerllaw Glan Rheidol yn rhoi golwg goediog i’r rhan hon o’r ardal. Ceir olion mwyngloddiau metel bach gerllaw'r ffin ogleddol. Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys adeiladau domestig a diwydiannol ôl-Ganoloesol yn bennaf a’r olion a ddisgrifiwyd uchod. Canfyddiadau yn dyddio o’r Oes Efydd yw’r unig agwydd bod pobl yn byw yn yr ardal hon cyn yr Oesoedd Tywyll. Mae hon yn ardal arbennig o anodd i’w diffinio
am fod llawer o’r ardaloedd cyfagos yn cynnwys nodweddion tirwedd
hanesyddol tebyg. I’r dwyrain mae’r ardaloedd cymeriad tirwedd
hanesyddol yn wahanol, er na ellir pennu ffin bendant. Mae tir uwch lle
y ceir caeau mwy o faint a thir llai poblog i’r gogledd yn darparu
gwell ffin, ond unwaith eto ni ellir pennu ffin bendant. Ni ddisgrifiwyd
yr ardal tirwedd hanesyddol i’r gorllewin eto. Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221 |