CAPEL HELAETHCYFEIRNOD GRID: SN 741710 Cefndir Hanesyddol Mae hanes yr ardal hon yn y Cyfnod Canoloesol yn aneglur. Am fod eglwys Ysbyty Ystwyth wedi’i chysegru i Sant Ioan Fedyddiwr ystyriwyd bod y plwyf ym meddiant Marchogion yr Ysbyty, ond mae’n fwy tebygol efallai ei bod yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur, efallai mewn un o faenorau’r abaty (Ludlow 1998). Dengys y map cyntaf ar raddfa fawr, sef map degwm 1848 (Map Degwm a Rhaniad Sputty Ystwyth, 1848) sy’n cynnwys yr ardal hon, dirwedd debyg iawn i’r un a welir heddiw. Fodd bynnag, mae’r system o gaeau isranedig a leolid i’r gorllewin o’r ardal hon yn y 18fed ganrif yn rhoi rhyw syniad o’r hyn y gall y dirwedd bresennol fod wedi deillio ohono. O gofio’r ffaith bod pentref Ysbyty Ystwyth wedi’i leoli gerllaw, mae’n bosibl bod yr ardal hon hefyd yn arfer cynnwys system o gaeau isranedig a gyfunwyd ac a amgaewyd cyn yr arolwg ar gyfer y mapiau cyntaf ar raddfa fawr. Mae’r gwasgariad o dai anamaethyddol yn dyddio o’r 19eg ganrif yn ogystal â ffermydd/tyddynnod yn awgrymu tai gweithwyr (mwynwyr), a adeiladwyd efallai gan y gweithwyr eu hunain ac a sefydlwyd ar dir comin neu wrth ochr ffyrdd. Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol Mae’r ardal hon yn cynnwys llain o dir sy’n codi o 240m yn ei phen gorllewinol i bron 350m yn ei phen dwyreiniol a phentref Ysbyty Ystwyth. Nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd/tyddynnod a thai/bythynnod gwasgaredig wedi’u lleoli o fewn caeau bach afreolaidd eu siâp. Mae anheddau anamaethyddol wedi’u gwasgaru wrth ochr ffordd yn bennaf. Rhennir y caeau gan gloddiau isel a ddisodlir gan gloddiau â wyneb o gerrig ar dir uwch yn nwyrain yr ardal. Dim ond ychydig o wrychoedd wedi’u hesgeuluso a geir ar y cloddiau. Mae ffensys gwifrau yn rhedeg ar hyd pob ffin. Mae’r rhan fwyaf o’r ardal yn cynnwys tir pori wedi’i wella, ond ceir rhywfaint o dir mwy garw hefyd. Ceir dyddodion mawnaidd mewn dyffryn ar hyd cwr gogleddol yr ardal. Carreg – wedi’i gadael yn foel neu wedi’i rendro â sment – yw’r deunydd adeiladu traddodiadol a cheir llechi ar y toeau. Mae’r tai yn fach ac yn dyddio o ganol y 19eg ganrif hyd ei diwedd (fwy na thebyg o ddiwedd y 19eg ganrif), mae ganddynt ddau lawr ac maent yn yr arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol – sef simneiau yn nhalcennau’r tþ, drws ffrynt canolog, a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall iddo ac un uwch ei ben. Mae gan ffermydd resi bach o adeiladau allan o gerrig yn dyddio o’r 19eg ganrif ac adeiladau amaethyddol dur a choncrid modern bach. Yn y pen dwyreiniol lleolir fferm/tyddyn anghyfannedd adfeiliedig mewn cae pori. Nid yw’r archeoleg a gofnodwyd yn darparu unrhyw awgrym o unrhyw ddyfnder amser i’r dirwedd hon, a’r cyfan a geir yw anheddau ôl-Ganoloesol sydd wedi goroesi neu sy’n anghyfannedd a hen gapel. Nid yw ffiniau’r ardal hon yn bendant, ac i bob
cyfeiriad mae’n ymdoddi i ardaloedd oddi amgylch. I’r dwyrain
ac i’r de-ddwyrain ceir tir uwch, mwy garw yn cynnwys caeau mawr.
Ceir tir mwy garw is yn cynnwys caeau mawr i’r de ac i’r de-orllewin.
I’r gogledd mae’r dirwedd yn eithaf gwahanol, ond nid oes
unrhyw ffin bendant rhyngddi a’r ardal hon, ac mae’r un peth
yn wir am yr ardal i’r gorllewin. Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221 |